fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | October 10, 2022

Peidiwch â tharfu ar yr Arglwyddes Wen!

Straeon tylwyth teg, straeon arswyd a chwedlau am angenfilod – rydym wedi bod yn defnyddio straeon i godi ofn ar ein gilydd dros filenia.

Mae hen straeon, megis myth y Minotor Hen Roeg, y creadur chwedlonol a oedd yn hanner dyn, hanner tarw, a straeon mwy diweddar megis Frankenstein gan Mary Shelley, yn ein harwain i ofni’r hyn sy’n anhysbys. Mae meddwl am rywbeth arallfydol, a mwy pwerus efallai, yn dylanwadu ar ein bywydau pob dydd yn peri ofn arnom.

Fodd bynnag, drwy drosglwyddo’n hofnau i fyd ffuglen, boed drwy straeon bwganllyd neu ffilmiau arswyd, rydym yn dod o hyd i ffordd o reoli ein hofnau gan wneud y profiad yn un hwyliog a difyr.

Felly, gan ei bod hi’n Galan Gaeaf, sef yr adeg o’r flwyddyn lle mae ysbrydion ac eneidiau drwg yn crwydro’n rhydd, dyma rai straeon am ysbrydion lleol i chi eu mwynhau…

Menyw wylofus yn aflonyddu ar deulu yn ystod picnic

Yn y stori hon, roedd teulu’n cael picnic ar dir Castell Ystumllwynarth – mae’n ardal hyfryd â golygfeydd trawiadol dros Fae Abertawe. Wrth i’w rhieni orffwys, aeth y ddau blentyn bach i fan arall i chwarae. Fodd bynnag, dychwelodd y plant cyn bo hir gan honni eu bod wedi gweld menyw mewn dillad gwyn yn wylo y tu ôl i goeden.

Felly, aethant â’u tad i’r goeden a gwelodd yntau hefyd y fenyw, yn gwisgo mantell hir wen â chordyn wedi’i glymu o amgylch ei chanol. Roedd yn ymddangos ei bod hi’n beichio wylo, er nad oedd unrhyw sŵn i’w glywed.

Wrth i’w tad nesáu ati, trodd yr Arglwyddes Wen ei chefn ato. Synnodd y tad wrth weld bod rhan uchaf ei ffrog wedi’i rhwygo’n ddarnau. Roedd ei chefn yn gignoeth ac yn llawn rhwygiadau gwaedlyd.

Safodd y tad am eiliad cyn penderfynu mynd â’r plant yn ôl at ei wraig. Ar ôl dychwelyd ychydig eiliadau wedyn, nid oedd y fenyw ofidus i’w gweld yn unman. Mae’n ymddangos y byddai wedi bod yn eithaf amhosib iddi adael yr ardal mewn ffordd arferol hefyd.

Yr Arglwyddes Wen yn gwneud i gi nadu

Yn ein hail stori, roedd dyn lleol yn mynd â’i gi am dro ger Castell Ystumllwynarth. Am ychydig funudau collodd olwg ar y ci, a phan na ddychwelodd y ci wedi iddo chwibanu amdano, aeth i chwilio amdano. Ar ôl ychydig, clywodd y ci’n nadu a’i ganfod y tu ôl i goeden, wedi’i fferru gan ofn. Roedd ei lygaid yn syllu ar ran o wal y castell.

Roedd yr awyr yn dechrau tywyllu, ond roedd e’n awyddus i wybod beth allai fod wedi codi ofn ar ei gi bach. Aeth at y rhan o wal y castell a oedd wedi denu sylw’r ci, ac wrth wneud hynny, welodd siâp gwyn ar y llawr o flaen y wal.

Wrth iddo nesáu, dechreuodd y ci udo, a dechreuodd y siâp gwyn, a oedd yn ymddangos fel darn mawr o bapur gwyn neu rywbeth tebyg, godi o’r llawr. Menyw mewn mantell wen oedd e’, a chyn i’r dyn ymbwyllo ar ôl ei syndod, dechreuodd y fenyw ‘doddi’ i wal y castell.

Wrth iddo gyrraedd y man lle’r oedd y fenyw wedi diflannu, gwelodd nad oedd unrhyw ffordd o fynd drwy’r wal. Yn ei eiriau ef, “roedd y ddaear wedi’i llyncu”.

Piler o Fwg

 Ar ddiwrnod heulog ym mis Awst 2014, roeddwn ar ddyletswydd yn y Swyddfa Docynnau. Yn ystod yr egwyl ginio, dechreuodd ymwelydd sgwrs â fi a gofynnodd am daith dywys. Cynigiais gyflwyno taith fer iddo o’r llawr gwaelod sy’n cynnwys Tŵr y Capel, Gorthwr y De a’r Gogledd a seleri’r rhan orllewinol. Roeddem ar fin cychwyn ein taith dywys o’r grisiau sy’n uno beili’r castell â’r swyddfa docynnau pan dynnwyd fy sylw gan symudiad yn ffenestr ogleddol y Porthdy: roedd colofn o fwg llwyd yn codi yn ystafell y porthcwlis. Doedd dim byd o natur fflamadwy yn yr ystafell hon ac wrth i mi wylio, dechreuodd ffurf pen ymddangos ac yna ffigwr merch. Ar yr eiliad hwn, penderfynais ymchwilio i ffynhonnell y mwg ac es i’n gyflym i fyny i’r llawr cyntaf, ond pan gyrhaeddais, doedd dim byd yno – roedd y mwg wedi diflannu. Hwn oedd fy mhrofiad goruwchnaturiol cyntaf yn ystod oriau golau dydd.

Roger Parmiter, un o Gyfeillion Castell Ystumllwynarth

Cerdded drwy waliau

Yn ystod sgwrs rhwng contractwyr adeiladu a Rheolwr Prosiect ger tramwyfa porth y castell, ymddangosodd ffigwr yn y beili, a dechreuodd gerdded tuag atyn nhw. Heb golli cam, ymddangosodd ffigwr yn y beili, a dechreuodd gerdded tuag at y pentref. Os ysbryd ydoedd, mae’n rhaid ei fod yn perthyn i rywun a fu’n byw cyn i’r waliau gael eu hadeiladu.

Roger Parmiter, un o Gyfeillion Castell Ystumllwynarth

Camau

 Roedd y ddau gontractwr a grybwyllwyd yn y stori flaenorol wedi profi ffenomen arall yn yr un lle. Digwyddodd hyn am 8.30am un bore cyn i staff eraill gyrraedd y safle. Roedden nhw ar y chwith i dramwyfa’r porth, a doedd dim modd eu gweld o fynedfa’r porth. Clywon nhw gamau rhywun yn cerdded drwy’r fynedfa ac i fyny’r dramwyfa – gan fod gât y castell ar glo, roedden wedi’u syfrdanu braidd a symudon nhw i gael golwg ar y dramwyfa – ond doedd dim byd i’w weld.

Roger Parmiter, un o Gyfeillion Castell Ystumllwynarth

Digwyddiad y tap

 Sawl blwyddyn yn ôl, roedd ffrind yn llenwi cwpan plastig â dŵr o’r tap wrth fynedfa’r castell a phan roedd y cwpan yn llawn, cafodd ei daro allan o’i llaw a syrthiodd i’r llawr. Ni allai esbonio’r hyn a ddigwyddodd ond roedd hi’n meddwl efallai ei bod wedi colli gafael arno heb sylweddoli. Ychydig wythnosau’n ddiweddarach, digwyddodd yr un peth yn union, er iddi fod yn fwy gofalus wrth lenwi’r cwpan. Rhyw bryd yn ddiweddarach, roedd ffrind arall wedi gwlychu papur cegin wrth y tap i sychu’i wyneb ar ddiwrnod twym. Trodd o gwmpas i gerdded i ffwrdd ac wrth iddo gamu ymlaen, cipiwyd y papur cegin o’i law.

Roger Parmiter, un o Gyfeillion Castell Ystumllwynarth

Trybedd gylchdröol

 Dros y 25ain mlynedd diwethaf, mae sawl grŵp ac unigolyn wedi archwilio gweithgareddau goruwchnaturiol yng Nghastell Ystumllwynarth. Ar dri achlysur, mi es gyda Geraint Hopkins (dyn y nadroedd) yn ei ymchwiliadau. Digwyddodd y mwyaf nodedig am 2am ar fore oer ym mis Tachwedd 2013. Roedd ef a’i dîm wedi gosod camera a thrybedd yn nhŵr y de lle gellid ei rolio o bell o babell yr arddangosfa. Tua 2am, collwyd yr holl bŵer ac roedd pob batri’n farw. Archwiliwyd y system drydanol a newidiwyd y batris – yna fe ddarganfuom nad oedd y camera na’r drybedd yn yr un safle.

Roger Parmiter, un o Gyfeillion Castell Ystumllwynarth

Arglwyddes Wen Ystumllwynarth

Mae gan bob castell sy’n werth ei halen ysbryd, ac nid yw Castell Ystumllwynarth yn wahanol. Yn debyg i’r rhai rydym eisoes wedi’u clywed, mae digon o straeon ar gael, a’u prif gymeriad yw’r Arglwyddes Wen.

Y fenyw sy’n cael ei chysylltu fwyaf â’r castell yw Alina de Braose. Ai hi yw Arglwyddes Wen Ystumllwynarth?

Er na allwn fod yn siŵr, mae stori Alina yn sicr yn un ddiddorol.

Yr Arglwyddes Alina de Braose

Alina de Braose oedd merch hynaf William de Braose III, Arglwydd Gŵyr. Ym 1298, priododd Alina â John de Mowbray yng Nghastell Abertawe. Byddai John yn mynd ymlaen i gymryd rhan yn nherfysg y barwniaid yn erbyn Brenin Edward II o Loegr gyda Thomas o Gaerhirfryn.

Ar ôl colli brwydr Boroughbridge ym 1322, dienyddiwyd John de Mowbray a ffodd Alina ar gwch o benrhyn Gŵyr i Ddyfnaint. Fodd bynnag, fe’i darganfuwyd a’i charcharu yn Nhŵr Llundain.

Ar ôl iddi gael ei rhyddhau, cafodd Alina gadarnhad bod y Brenin Edward III wedi rhoi tir ym mhenrhyn Gŵyr iddi hi a’i hetifeddion a bu’n dal y tir hwnnw gyda’i hail ŵr, Richard de Peshale, tan iddi farw ym 1331.

Yr Arglwyddes Wen mewn carreg

Ymysg y gwrthrychau canoloesol sy’n cael eu harddangos yn Amgueddfa Abertawe mae cerfiad carreg 700 mlwydd y credir ei fod yn cynrychioli Arglwyddes Wen Ystumllwynarth, Yr Arglwyddes Alina de Braose.

Darganfuwyd y pen carreg cerfluniedig hwn ar safle’r hen Reithordy yn Stryd Fisher, Abertawe; mae’n dyddio o oddeutu 1330. Credir iddo ddod o Eglwys y Santes Fair, Abertawe, lle mae’n bosibl mai post ffenestr ydoedd mewn pensaernïaeth Gothig, bar fertigol a oedd yn rhannu’r cwareli mewn ffenestr.

Ac yn olaf…

Os ydych chi’n gweld Arglwyddes Wen Ystumllwynarth yng Nghastell Ystumllwynarth ar Nos Galan Gaeaf, cofiwch adrodd y geiriau hyn:

Arglwyddes Wen, plîs paid â dychryn,
Arglwyddes Wen, cwsg yn ddiderfyn.