fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Gall pobl ifanc sydd am fod yn dywysog neu’n dywysoges am y diwrnod gael eu castell eu hunain hefyd os ydynt yn mynd i Gastell Ystumllwynarth yn hwyrach y mis hwn.

Mae cyfle i ymwelwyr ifanc ddod i’r castell wedi gwisgo fel eu hoff gymeriad o stori dylwyth teg yn ystod digwyddiad arbennig a gynhelir ddydd Llun gŵyl y banc, 28 Awst, o 11am tan 4pm. Bydd cyfleoedd i fwynhau straeon tylwyth teg, canu a dawnsio gyda chymeriadau fel Rapunzel, Belle, Aladdin ac Elsa.

Bydd y diwrnod hwyl hwn i’r teulu yn rhoi’r cyfle i dywysogion a thywysogesau wireddu eu breuddwydion a’u hoff straeon tylwyth teg mewn castell canoloesol go iawn, gan ddysgu mwy am yr hyn a ddigwyddodd yno yn nyddiau marchogion Normanaidd ac Arglwyddi ac Arglwyddesau Penrhyn Gŵyr.

Meddai Elliott King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant a Chydraddoldeb, “Mae’r cyngor yn gweithio’n agos gyda Chyfeillion Castell Ystumllwynarth i gynnal yr atyniad hanesyddol a threfnu nifer o ddigwyddiadau i deuluoedd drwy gydol y cyfnodau y mae’r castell ar agor.

“Mae miloedd o bobl yn ymweld â Chastell Ystumllwynarth bob haf. Mae’r castell yn cynnig profiad o’r radd flaenaf i ymwelwyr, sy’n ddifyr yn ogystal ag addysgol, ac mae’n helpu i roi hwb i’r economi leol hefyd.”

Mae Castell Ystumllwynarth yn eistedd ar ben y bryn yn y Mwmbwls, gyda golygfeydd godidog o Fae Abertawe. Mae gan y castell waith celf o’r 14eg ganrif, pont wydr 30 troedfedd o uchder a grisiau preifat sy’n arwain o gromgelloedd i ystafelloedd a oedd yn cael eu defnyddio fel neuaddau gwledda. Mae Castell Ystumllwynarth ar agor yn ddyddiol o 11am tan 5pm nes 30 Medi, ac yn ystod y penwythnos ym mis Hydref.