fbpx
Castell Ystumllwynarth – Bellach ar agor ar gyfer tymor 2024!
Gweld Mwy

Yn dilyn seibiant o ddwy flynedd oherwydd y pandemig,  cynhelir digwyddiad blynyddol Sioe Amaethyddol Gŵyr eleni ddydd Sul 31 Gorffennaf 2022 ym mharcdir prydferth Parc Castell Pen-rhys ger Bae Oxwich.

Digwyddiad un diwrnod traddodiadol yw’r sioe, ac fe’i cynhelir yn un o’r lleoliadau gorau yn y wlad ar gyfer digwyddiad amaethyddol.  Os ydych yn mwynhau cefn gwlad, neu’n chwilio am rywbeth gwahanol am ddiwrnod allan gyda’r teulu, byddwch chi a’ch teulu’n mwynhau Sioe Amaethyddol Gŵyr – mae’n ddigwyddiad na ddylech ei golli!

Cynhelir rhaglen llawn arddangosiadau a chystadlaethau trwy gydol y dydd. Os ydych yn ymweld â Sioe Amaethyddol Gŵyr am y tro cyntaf, byddwch yn synnu ar yr amrywiaeth o weithgareddau y gall pobl o bob oedran eu mwynhau.

Mae’r Sioe Gŵn Unigryw’n dod yn fwy poblogaidd bob blwyddyn ac eleni rydym yn disgwyl mwy o ymgeiswyr nag erioed. Felly, dewch â’ch ci a chofrestrwch amdani! Mae pedwar dosbarth ar ddeg ar gael, felly bydd un ohonynt yn sicr o fod yn addas ar gyfer eich ffrind blewog.

Rydym yn ffodus iawn unwaith eto i allu arddangos un o atyniadau gorau’r sioe – y ceffylau gwedd poblogaidd – a bydd gan ymwelwyr y cyfle i weld y cewri cyfeillgar hyn wyneb yn wyneb.

Camwch yn ôl i ddiwrnodau ffermio’r gorffennol a dewch i edmygu’r hen geir a thractorau pan fyddant yn cael eu harddangos yn y prif gylch.

Dyma rai o’r digwyddiadau a gynllunnir yn unig; bydd llawer mwy’n digwydd ym maes y sioe trwy gydol y dydd.

Digwyddiad amaethyddol traddodiadol yw Sioe Amaethyddol Gŵyr; mae’n gyfle i weld bod ffermio’n bwysig iawn o hyd i’n hardal. Mae adran da byw wych gennym, sy’n cynnwys sawl math gwahanol o anifeiliaid fferm a fydd yn cystadlu eu  dosbarthau gwahanol, ac mae’n gyfle i edrych yn fanwl ar rai o’r enghreifftiau gorau o dda byw.

Cofiwch hefyd y bydd ceffylau o bob math, rhai mawr a rhai bach, yn cael eu harddangos yn y prif gylch. Bydd y cylchoedd cystadlu’n llawn drwy’r dydd, gyda chystadleuwyr yn gobeithio ennill y teitl pwysicaf yn eu hadran eleni, sef “Enillydd Pennaf Sioe Gŵyr 2022”.

Bydd arddangosiadau ac arddangosfeydd eraill ar gael mewn pebyll mawr ar draws y parcdir. Bydd arddangosiadau blodau deniadol ac artistig ar gael yn y babell garddwriaeth, a bydd cyfle i gymharu sgiliau coginio yn y babell goginio. Ym mhabell y mêl gallwch gael cip ar gwch gwenyn go iawn.

Os hoffech wneud ychydig o siopa, bydd digon o gelf a chrefftau lleol ar gael i’w prynu o amrywiaeth o stondinau masnach sy’n gwerthu cynnyrch unigryw na allwch ddod o hyd iddo ar y stryd fawr. Mae’r amrywiaeth o fwydydd lleol y gallwch eu blasu a’u prynu’n dod yn fwy poblogaidd.

Pan fyddwch wedi blino, beth am ymuno â merched ein Sefydliad y Merched lleol yn eu pabell luniaeth am baned a darn o deisen gartref?

Dewch i ymuno â ni a dathlu cefn gwlad ym Mharc Castell Pen-rhys yn ystod diwrnod Sioe Gŵyr.

Cynhelir y siow rhwng 9am a 5pm.

Gallwch brynu tocynnau ar-lein hyd at funud cyn canol nos ar 30 Gorffennaf 2022 yn www.gowershow.co.uk/tickets/.

Gellir talu â cherdyn wrth y giât ar ddiwrnod y sioe.