fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe yn ôl gyda rhestr arall o berfformwyr enwog a ffefrynnau cyfarwydd mewn lleoliadau ar draws Abertawe o nos Iau 23 i nos Sul 26 Mehefin 2022.

Mae cyfarwyddwr artistig yr ŵyl, Dave Cottle, yn datgelu rhai o’r pethau i edrych ymlaen atynt yng Ngŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eleni isod…

1. Alan Barnes a Bruce Adams

Mae rhaglen y gyngerdd yn agor gyda Bruce Adams (trwmped) ac Alan Barnes (sacsoffon), ill dau’n gerddorion arobryn, uchel eu parch ym myd jazz y DU, yn chwarae gyda Thriawd Clwb Jazz Abertawe yng Nghlwb Jazz Abertawe yn lleoliad cerddoriaeth The Garage yn Uplands.

Gyda repertoire o flynyddoedd clasurol bop a phwyslais ar hygyrchedd a hiwmor da, byddant yn agor Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eleni ar nos Iau gydag argyhoeddiad y dylai jazz wneud i chi fod eisiau dawnsio.

Mwy o wybodaeth

2. The Simon Spillet Big Band
yn chwarae cerddoriaeth Tubby Hayes

Mae The Simon Spillett Big Band, a ymddangosodd ym myd jazz y DU yn 2020, yn gerddorfa llawn sêr sy’n uno rhai o’r unawdwyr mwyaf dawnus i ddathlu athrylith gerddorol y diweddar Tubby Hayes, y sacsoffonydd enwog.

Gan ddefnyddio repertoire o drefniannau Hayes ei hun, na chafodd llawer ohonynt eu cyhoeddi ar record, mae The Simon Spillett Big Band eisoes yn fand hynod boblogaidd. Dewch i glywed eu sain drosoch eich hun, byddant yn chwarae yn yr ail gyngerdd y mae angen tocynnau ar ei chyfer yn Theatr Dylan Thomas nos Wener.

“Yr holl gynhwysion ar gyfer noson jazz wych…”  London Jazz News

Mwy o wybodaeth

3. Pedwarawd Karen Sharp

Bydd y cerddor arobryn, Karen Sharp, sy’n adnabyddus am ganu’r sacsoffon mewn ffordd felodaidd a soniarus, yn fyw ar lwyfan Theatr Dylan Thomas brynhawn dydd Sadwrn gyda’i phedwarawd a fydd yn cynnwys Nikki Iles, Dave Green a Steve Brown – band a ddathlodd ei 10fed pen-blwydd yn ddiweddar.

Mwy o wybodaeth

4. Pedawrawd James Taylor

Mae Pedwarawd James Taylor wedi gosod y safon ar gyfer y seiniau mwyaf cŵl ym myd jazz asid ffynci am dros 30 o flynyddoedd, dan arweiniad James ar yr organ Hammond. Yn dilyn dwsinau o albymau llwyddiannus a’u perfformiadau bythgofiadwy gartref ac ar draws y byd, maent wedi dod yn ddihareb ar gyfer creadigrwydd Prydeinig o’r radd flaenaf. Fyddwch chi ddim am eu colli’n chwarae yn yr ŵyl nos Sadwrn.

Mwy o wyboaeth

5. The Louis and Ella Music Show

Yn The Louis and Ella Music Show, mae Sarah Meek a Dave Cottle yn ail-greu caneuon mawr y cyfnod ‘swing’ brynhawn dydd Sul, gyda threfniannau diledryw o ganeuon Louis Armstrong ac Ella Fitzgerald wedi’u recordio gyda’i gilydd ac ar wahân.

Daw Sarah Meek ag egni ifanc newydd i jazz gyda’i chyflwyniad pwerus ac amryddawn ochr yn ochr ag un o gerddorion proffesiynol mwyaf profiadol ac amryddawn Cymru, Dave Cottle, sy’n cyfuno’i ddoniau niferus wrth chwarae’r trwmped a’r piano (ar yr un pryd!) a chanu yn y sioe hynod ddifyr hon.

Mwy o wybodaeth

6. Some Kinda Wonderful – cerddoriaeth Stevie Wonder

Daw nos Sul yn yr ŵyl i ben gyda Some Kinda Wonderful, band a grëwyd gan Derek Nash, sacsoffonydd Jools Holland, a chyda llais esgynnol Noel McCalla, byddant yn eich ysgogi i godi ar eich traed i ddawnsio i ganeuon gwych Stevie Wonder.

Gydag un gân boblogaidd ar ôl y llall, o glasuron y llawr dawnsio fel I Wish a Superstition i drefniannau hyfryd My Cherie Amour ac Over-joyed, mae’r set hefyd yn cynnwys cyfansoddiadau hynod lwyddiannus gan Stevie ar gyfer artistiaid eraill.

Mwy o wybodaeth

7. Mordeithiau Jazz Copper Jack

Dewch ar fwrdd y Copper Jack am fordaith ar hyd afon Tawe gan wrando ar sain cŵl jazz byw. Mae trefnwyr yr ŵyl wedi ymuno ag Ymddiriedolaeth Cwch Cymunedol Abertawe i gynnig y profiad unigryw hwn i fynychwyr yr ŵyl brynhawn dydd Sadwrn a phrynhawn dydd Sul.

Ymunwch ag Ellie Jones a Gary Phillips am ddetholiad o bossa novas, baledi a swing o’r 1930au i’r 1960au ddydd Sadwrn neu Suzanna Warren a Jeremy Young ddydd Sul am ‘Brynhawn ym Mharis’ gyda gitâr, lleisiau a chlarinet yn cynhyrchu cerddoriaeth swing y pedwardegau o’r Hot Club of France.

Mwy o wybodaeth

8. Rhaglen grwydro lawn

Os nad yw hynny’n ddigon o jazz i’ch difyrru dros benwythnos yr ŵyl, bydd Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe hefyd yn cynnwys rhaglen grwydro sy’n llawn nosweithiau am ddim mewn lleoliadau sy’n rhan o’r ŵyl yn ardal forol y ddinas – cymerwch gip ar y rhestr lawn o berfformwyr yma.

Mwy o wybodaeth