fbpx
Joio ein hatyniadau awyr agor yr haf!
Gweld Mwy

Mae hanner tymor bron â chyrraedd, gyda Gŵyl y Banc ychwanegol!
Mae digon i’w wneud dros yr wythnos nesaf a’r misoedd sydd i ddod gyda thîm Joio Bae Abertawe, darllenwch ymlaen i gael gwybod beth sy’n digwydd.

Joio’r awyr agored!

Mae atyniadau awyr agored ar agor! Ewch â’ch ci ar daith ar Drên Bach Bae Abertawe, ewch â’r plant i chwarae yn Lido Blackpill, ewch â’ch mam-gu am daith ysgafn ar bedalos Singleton neu gofynnwch i’ch ffrindiau am gêm o golff bach yng Ngerddi Southend – mae’n rhaid i’r person sy’n colli brynu’r hufen iâ!

Gweithgareddau ParkLives dros hanner tymor

Cynhelir nifer o sesiynau chwaraeon difyr dros hanner tymor mewn parciau ar draws Abertawe ar gyfer pobl rhwng 5 a 100 oed! Ydych chi am roi cynnig ar gylchedau yng Nghlydach? Beth am roi cynnig ar aml-gampau ym Mhontlliw a Brynmill?

Mae hefyd sesiwn Us Girls ym Mhen-lan yn ogystal â’r sesiynau wythnosol arferol sef cerdded Nordig, T’ai Chi, ffitrwydd i oedolion hŷn a Zumba. Bydd angen i chi gadw lle, mae prisoedd y sesiynau’n amrywio rhwng £1.00 a £5.00

Cadw lle ar gyfer dosbarth

Teithio am ddim

Ding ding!

Mae teithio am ddim ar fysus yn dychwelyd ar gyfer y penwythnos hir! Gallwch deithio i unrhyw le o fewn y sir am ddim ddydd Sadwrn 28 a dydd Sul 29 Mai a dydd Iau 3 Mehefin i ddydd Sul 5 Mehefin.

Llwybr tei bô yng Nghanolfan Dylan Thomas

Rydym wedi dyfeisio llwybr difyr, newydd i’r teulu i ddathlu eitem sy’n gyfystyr â Dylan! Dewch i’n harddangosfa Dwlu ar y Geiriau i weld a allwch ddod o hyd i’r 8 tei bô sydd wedi’u cuddio yn yr arddangosfa. Ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul ac ar wyliau banc.

Ddydd Sadwrn 4 Mehefin, bydd Canolfan Dylan Thomas yn cymryd rhan ym mharti Jiwbilî Marchnad Abertawe! Galwch heibio Gardd y Farchnad rhwng 12pm a 2pm am amrywiaeth o weithgareddau i’r teulu sy’n dathlu Dylan a’i waith, gan gynnwys cerddi wedi’u torri’n ddarnau. Ariennir y gweithdy hwn gan Gronfa Casgliadau Sefydliad Esmée Fairbairn.

Dathliadau’r Jiwbilî yn Llyfrgelloedd Abertawe

Yn ogystal â’r clybiau wythnosol arferol fel y clybiau Lego, amserau rhigwm, clybiau gwyddbwyll, clwb Nintendo Switch, garddio i deuluoedd a chlybiau gwaith cartref a gynhelir yn llyfrgelloedd Abertawe, mae dathliadau crefft y Jiwbilî arbennig hefyd!

Pontarddulais, ddydd Llun 30ain, 11am, straeon a chrefft (cadwch le ymlaen llaw) 01792 882822.

Townhill, ddydd Llun 30ain, 2.30-3.30pm, amser stori a chrefft, mae pob bag llyfrau’n cynnwys cit creu coron!

Gorseinon, ddydd Llun 30ain, 4-4.30pm, crefftau’r Jiwbilî (1+ oed).

Llansamlet, ddydd Mawrth 31ain, bag o roddion a choron enfawr i’w haddurno.

Sgeti, ddydd Mercher 1af, 10.30am stori a chrefftau’r Jiwbilî.

Pen-lan, ddydd Mercher 1af, helfa drysor a chrefftau’r Jiwbilî.

Pennard, ddydd Mercher 1af, 11am-12pm straeon bendigedig a chreadigaethau mawreddog (cadwch le ymlaen llaw)

Abertawe Ganolog – lliwio baneri

Tre-gŵyr, ddydd Sadwrn 4ydd, 10.30am – 12.30pm Crefftau’r Jiwbilî

Byddwch yn greadigol yn y Glynn Vivian

Dewch i ymweld â’r Oriel Gelf Glynn Vivian i ddarganfod ein harddangosfeydd a’n gweithgareddau rhyfeddol y gwanwyn hwn.

Dewch i fydoedd dychmygol a breuddwydluniau rhyfeddol yn y gweithdy paentio arbrofol hwn i’r teulu cyfan – Byd o Ddychymyg, Dydd Mercher 1 Mehefin. Dewch i rannu’ch syniadau a’ch dyluniadau ar gyfer gardd newydd yr oriel, fel rhan o’n harddangosfa, Meddwl yn Wyrdd, gan yr artist Owen Griffiths.

Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ein llwybr anifeiliaid i’r teulu, a chofiwch gasglu hadau blodau haul i fynd adref gyda chi ar gyfer eich gardd.

Does dim rhaid cadw lle ymlaen llaw mwyach. Amserau agor: Dydd Mawrth i ddydd Sul, 10am – 5pm, mynediad olaf 4.30pm. Ar agor Dydd Iau a Dydd Gwener Gŵyl y Banc.

Amserau agor Gŵyl y Banc

Newyddion gwych! Mae’r rhan fwyaf o’n lleoliadau ac atyniadau awyr agored ar agor dros Ŵyl y Banc felly gallwch fynd allan a mwynhau.

Canolfan Dylan Thomas – 10am – 4.30pm Iau 2, Gwe 3, Sad 4, Sul 5.
Amgueddfa Abertawe (mynediad olaf 4pm) – 10am – 4.30pm Iau 2, Gwe 3, Sad 4, Sul 5.
Oriel Celf Glynn Vivian (mynediad olaf 4.40pm) – 10am – 5pm Iau 2, Gwe 3, Sad 4, Sul 5.
Castell Ystumllwynarth (mynediad olaf 4.30pm) -11am – 5.00pm Iau 2, Gwe 3, Sad 4, Sul 5.
Atyniadau Awyr Agored – ar agor.
Llyfrgelloedd – ar gau Iau 2 & Gwe 3, ar agor Sad 4 & Sul 5.
Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg – ar gau.

Cyngherddau gwych!

Cynhelir cyngerdd gyntaf yr haf ym Mharc Singleton y penwythnos nesaf pan fydd Gerry Cinnamon, y canwr o’r Alban yn perfformio ar gyfer torf Abertawe (4 Mehefin). Ar ddiwedd mis Gorffennaf bydd penwythnos llawn cyffro ar gyfer y rheini sy’n dwlu ar gerddoriaeth wrth i’r meistr ffync, Nile Rogers (29 Gorffennaf), y seren bop, Anne Marie (30 Gorffennaf) a Paul Weller (31 Gorffennaf) berfformio yn Singleton. Prynwch eich tocynnau nawr.

Prynwch eich tocynnau

Mwynhewch Jazz ym mis Mehefin

Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe’n dychwelyd eleni i gyflwyno rhai o’r artistiaid a’r bandiau lleol a rhyngwladol gorau sydd ar gael. Bydd y ddinas yn llawn cyffro a cherddoriaeth jazz o ddydd Iau 23 i ddydd Sul 26 Mehefin, pan fydd yr ŵyl yn dychwelyd i Abertawe.

I fyny â ni!

Mae Sioe Awyr Cymru‘n dychwelyd i’r awyr dros Fae Abertawe ar 2 a 3 Gorffennaf gyda’r Red Arrows yn perfformio ar y ddau ddiwrnod! Mae’r digwyddiad am ddim ond mae tocynnau ar gyfer y profiad Bwrdd Hedfan arbennig ar werth nawr.

Prynwch eich tocynnau ar gyfer Theatr Awyr Agored yr haf hwn

Paratowch bicnic a dewch i ymlacio yn lleoliad darluniadol tir Castell Ystumllwynarth ar gyfer theatr awyr agored byw a noddir gan Home from Home ym mis Awst.

Mae Rapunzel (dydd Gwener 5 Awst) yn chwa o awyr iach i bob oedran, gan addo digonedd o hiwmor slapstic corfforol, pypedwaith a digon i gadw’r oedolion yn hapus hefyd.

The course of true love never did run smooth… mwynhewch berfformiad awyr agored o A Midsummer Night’s Dream (nos Iau 25 Awst), comedi fythol Shakespeare o gariad a brad, hud a thryblith.

Cofrestru ar gyfer ras 10k Bae Abertawe

Os ydych chi wedi bod yn ystyried cofrestru ar gyfer ras 10k Bae Abertawe ar 18 Medi, mae amser i wneud hynny o hyd. Mae’n llwybr gwastad, cyflym gyda digon o bethau i edrych arnynt a llawer o gefnogwyr i’ch cefnogi. Os ydych chi’n ffafrio gwylio yn lle, bydd digon o stondinau ac adloniant i’ch cadw chi’n brysur wrth i chi aros i’ch ffrind heini orffen.

Cofrestrwch ar gyfer y ras!!