fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn gyffrous i gyhoeddi bod yr Ŵyl Para Chwaraeon wedi’i hychwanegu at galendr digwyddiadau Cymru – a lansiwyd Dydd Gwener 4 Mawrth mewn seremoni yn Abertawe.

Gan ddechrau gyda digwyddiad insport Chwaraeon Anabledd Cymru ym Mhrifysgol Abertawe ar 1 Awst 2022, bydd y digwyddiad yn dod â 5,000 o gyfleoedd i gymryd rhan ar draws yr ŵyl gan gynnwys pum digwyddiad cystadleuol mewn gwahanol leoliadau.

Yn dod i benllanw ar y penwythnos canlynol, bydd yr Ŵyl Para Chwaraeon yn ychwanegu at yr awyrgylch o ŵyl o amgylch Abertawe dros benwythnos 6/7 Awst, ochr yn ochr â Thriathlon Cyfres Para y Byd a Dyn Haearn 70.3 Abertawe.

Mae’r model darparu yn arloesol yn ei gyfuniad o dri digwyddiad annibynnol ond rhyng-gysylltiedig ac mae’n darparu cysylltiad diriaethol rhwng cyfranogiad ar lawr gwlad mewn gweithgarwch hyd at gyfle cystadleuol a pherfformiad para elitaidd a heb fod yn berfformiad para, drwy’r digwyddiadau partner sydd eisoes wedi’u cadarnhau.

Yn cael ei chydlynu gan Chwaraeon Anabledd Cymru, mae’r Ŵyl Para Chwaraeon wedi’i datblygu gan rwydwaith o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cyngor Abertawe, nifer o gyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol Cymru a Phrydain a chlybiau insport lleol sy’n anelu at ddarparu cyfleoedd hygyrch, o safon uchel, i blant, pobl ifanc ac oedolion anabl.

Bydd dwy elfen i’r Ŵyl Para Chwaraeon:

  • digwyddiad Cyfres insport
  • o leiaf bum digwyddiad cystadleuol a gynhelir gan gyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol unigol Cymru a Phrydain

Yn y pen draw, bydd y rhaglen tair blynedd yn cynyddu ystod a lefel y cyfleoedd a’r gystadleuaeth a ddarperir ac yn sefydlu templed ar gyfer digwyddiadau eraill o safon byd a fydd yn ysbrydoli dyhead, yn ysgogi ymwybyddiaeth ac yn denu diddordeb lleol ac ymwelwyr sy’n gysylltiedig â’r Ŵyl Para Chwaraeon yn ogystal â’r diddordeb a fydd eisoes yn bresennol ar gyfer digwyddiadau Triathlon Cyfres Para y Byd a Dyn Haearn 70.3 Abertawe.

Mae cwmpas anhygoel i ychwanegu at yr amrywiaeth o chwaraeon, dosbarthiadau a digwyddiadau o fewn dwy elfen yr Ŵyl, gan sicrhau cynnwys cyfleoedd a chystadlaethau ar draws grwpiau nam lluosog.

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru: “Rwy’n falch iawn ein bod ni’n gallu cefnogi Chwaraeon Anabledd Cymru i ddod â’r digwyddiad hwn i Abertawe ac y bydd y ddinas, unwaith eto, yn cael cyfle i ddangos ei harbenigedd mewn cynnal digwyddiad para chwaraeon mawr yn llwyddiannus – yn dilyn ymlaen o lwyddiant y ddinas i gynnal Pencampwriaeth Athletau Ewropeaidd yr IPC 2014. Mae hyn yn ailgadarnhau ein hymrwymiad i ddatblygu chwaraeon anabledd gyda’r digwyddiad a’r Ŵyl Para Chwaraeon yn darparu llwyfan pellach i hyrwyddo cyfleoedd chwaraeon i bobl anabl. Mae’r digwyddiad hefyd yn gwneud y gorau o leoliad glan y dŵr gwych y ddinas – ac edrychwn ymlaen at groesawu’r athletwyr i Gymru ac Abertawe y flwyddyn nesaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth ar Gyngor Abertawe: “Mae Abertawe bob amser wedi mwynhau enw da fel cyrchfan amlchwaraeon cynhwysol ac rydyn ni’n falch o fod wedi bod yn gartref i bencampwyr para chwaraeon a phrif ddigwyddiadau chwaraeon dros y blynyddoedd. Bydd yr Ŵyl Para Chwaraeon yn cael ei chroesawu ar draws ein cymunedau ni a bydd yn helpu i amlygu’r cyfleoedd a’r ddarpariaeth chwaraeon anabledd sydd ar gael yn Abertawe. Rydym hefyd yn hyderus y bydd yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o athletwyr sydd am fod y gorau y gallant fod yn eu dewis chwaraeon. Dyna pam rydym wrth ein bodd bod hon yn rhaglen tair blynedd sy’n cynnwys cyfleoedd ar lawr gwlad i gymryd rhan a digwyddiadau cystadleuwyr, gan sicrhau twf yn y chwaraeon a darparu gwaddol.

“Bydd yr Ŵyl Para Chwaraeon, Triathlon Cyfres Para y Byd a Dyn Haearn 70.3 yn cyfrannu at yr hyn sydd eisoes yn mynd i fod yn haf gwych o ddigwyddiadau yn Abertawe ac edrychwn ymlaen at groesawu athletwyr, eu teuluoedd a’u cefnogwyr i’r ddinas ym mis Awst.”

Dywedodd Tom Rogers, Rheolwr Partneriaethau Chwaraeon Anabledd Cymru: “Mae’r dyheadau ar gyfer yr Ŵyl Para Chwaraeon yma’n canolbwyntio ar ddatblygu gwaddol gwirioneddol o gyfleoedd cymryd rhan a chystadleuol i bobl anabl yn Abertawe. Gan weithio ochr yn ochr ag amrywiaeth eang o randdeiliaid allweddol, ein nod ni yw tynnu sylw at yr ystod eang o bosibiliadau ar gyfer pobl anabl yng Nghymru, gan hefyd dynnu sylw at Abertawe fel y ddinas i fynd iddi ar gyfer darparu chwaraeon ar lawr gwlad, datblygu perfformiad a darpariaeth para elitaidd a chwaraeon anabledd.

“Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd rhaglen digwyddiadau’r Ŵyl Para Chwaraeon yn cynnwys cyfleoedd ar draws nifer o chwaraeon Paralympaidd a heb fod yn Baralympaidd ac rydym yn falch iawn o fod yn gweithio ochr yn ochr â Thriathlon Cymru, Ffederasiwn Saethu Targedau Cymru, Rygbi Cadair Olwyn Prydain Fawr, Undeb Rygbi Cymru, Undeb Rygbi Byddar Cymru, a Phêl Fasged Cymru i ddod â gŵyl para chwaraeon gystadleuol i Abertawe.

“Mae’r Ŵyl Para Chwaraeon yn ei chyfanrwydd yn gyfle gwych i arddangos y cyfleoedd o’r radd flaenaf sydd ar gael yn Abertawe i gynulleidfa fwy, ac i roi llwyfan gwych i ni adeiladu arno yn ystod y cyfnod cychwynnol o dair blynedd.”

Gall mynd i ddigwyddiad insport fod yn brofiad sy’n newid bywyd, fel y gall Beth Munro dystio.

Mynychodd hi un o ddigwyddiadau insport Chwaraeon Anabledd Cymru yn 2019, lle cafodd ei chyflwyno i taekwondo.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach yn unig, enillodd Beth fedal arian yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo!

Dywedodd Beth Munro: “Mae mynd o roi cynnig ar taekwondo am y tro cyntaf mewn digwyddiad insport ym mis Tachwedd 2019 a dod yn athletwr Paralympaidd a enillodd fedal arian lai na dwy flynedd yn ddiweddarach yn 2021 yn dal yn anghrediniol i mi! Roedd yn gamp newydd i’r Gemau Paralympaidd ac fe wnes i greu hanes yn ystod y dydd ac mae’n wirioneddol anhygoel.

“Rwy’n hynod falch ohonof i fy hun ac yn falch o’r unigolion o’m cwmpas i sydd wedi fy nghefnogi i drwy bopeth. ChAC ddechreuodd y siwrnai. Anthony Hughes, mae’n rhaid i mi ei ganmol e eto achos mae’n ddyn ffantastig!

“Taekwondo Cymru wnaeth arwain y ffordd a ’fyddwn i ddim wedi gallu ei wneud e heb GB Taekwondo hefyd – a gyda’n gilydd gobeithio y byddaf yn parhau i wella ac ennill aur yng Ngemau Paralympaidd Paris 2024.

“Mae’r freuddwyd yma wedi bod ar fy rhestr i o bethau i’w cyflawni erioed, ond o dan y pennawd ‘amhosib.’ Ond does dim byd yn amhosib oherwydd mae gen i’r fedal i brofi hynny!

“Y ffaith ’mod i bellach yn fodel rôl i bobl ifanc a merched ifanc, i’w grymuso nhw i fod yn athletwyr elitaidd y dyfodol, ydi’r rheswm pam byddaf i’n parhau â’r gwaddol cyhyd ag y gallaf i.”