fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Rydym yn dathlu Mis Hanes Menywod ym mis Mawrth a Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth, ar draws Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe.

Mae menywod wedi chwarae rôl allweddol yn stori Abertawe, ac maent yn parhau i wneud hynny, o’r Arglwyddes Alina de Mowbray yn yr oesoedd canol i Amy Dillwyn yn Oes Victoria. Fel rhan o raglen gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar-lein drwy gydol Mis Hanes Menywod, byddwn yn dathlu’r menywod eithriadol sy’n helpu i lywio gorffennol, presennol a dyfodol Abertawe.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, ddydd Mawrth 8 Mawrth, byddwn yn ymuno â’r gymuned fyd eang wrth gymeradwyo cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod.

Cadwch lygad ar ein sianeli cymdeithasol (Facebook, Twitter) am…

Canolfan Dylan Thomas

Ar gyfer Mis Hanes Menywod, bydd Canolfan Dylan Thomas yn archwilio gwrthrychau unigryw o’n casgliad sy’n ymwneud ag awduron, artistiaid a ffotograffwyr gan gynnwys Edith Sitwell, Brenda Chamberlain, Rollie McKenna a Nora Summers.

Byddwn hefyd yn cyhoeddi cyfres o flogiau a fydd yn taflu goleuni ar fywyd Florence Thomas. Cadwch lygad ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth.

Glynn Vivian

Ymunwch â Glynn Vivian ym mis Mawrth wrth i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2022 drwy edrych ar y gwaith anhygoel gan fenywod sy’n cael ei arddangos yn y gallery.

O 8 Mawrth (Diwrnod Rhyngwladol y Merched), gallwch weld uchafbwyntiau eu sioe Hayward Gallery Touring bresennol, Not Without My Ghosts – The Artist as a Medium ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol, wrth iddynt rannu detholiad o gelfweithiau gan fenywod sy’n rhan o’r arddangosfa.

Gwrandewch nawr ar Guradur Cynorthwyol Hayward Touring, Gilly Fox, wrth iddi eich tywys o gwmpas yr arddangosfa.

Hefyd yn yr oriel ym mis Mawrth mae dwy arddangosfa gan artistiaid benywaidd o Gymru, Fern Thomas a Zoe Preece.

Gwyliwch yr artist Zoe Preece yn cael sgwrs â Dr Frances Woodley nos Fawrth 8 Mawrth am 6pm ar sianel YouTube y Glynn Vivian, wrth iddynt rannu eu meddyliau a’r hyn a ysbrydolodd y gwaith, In Reverence.

Bydd yr arddangosfeydd Spirit Mirror ac In Reverance yn parhau tan 20 Mawrth.

Methu cyrraedd yr Oriel? Ewch ar daith rithwir o’n harddangosfeydd ar-lein nawr.

 

Llyfrgelloedd Abertawe

Gallwch ddod o hyd i ddigonedd o lenyddiaeth am fenywod a chan fenywod yn Llyfrgelloedd Abertawe trwy’r gwasanaeth Clicio a Chasglu neu gallwch  lawrlwytho’r cyfan AM DDIM gan ddefnyddio ap BorrowBox.

I’ch ysbrydoli, byddant yn llunio rhestr o’r 10 llyfr y mae’n rhaid i chi eu darllen i nodi Mis Hanes Menywod.

Amgueddfa Abertawe

Yn 2018, cyflwynodd Amgueddfa Abertawe arddangosfa a oedd yn dathlu pasio Deddf Cynrychiolaeth y Bobl ym 1918, a oedd yn rhoi’r hawl i fenywod dros 30 oed bleidleisio am y tro cyntaf. Yn ystod cyflwyniad ar-lein arbennig o gynnwys yr arddangosfa, bydd yr amgueddfa’n adrodd straeon menywod anhygoel Abertawe a oedd wedi ymgyrchu dros y bleidlais i ferched.