fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Mae gennym ddigonedd o ddigwyddiadau gwych i chi edrych ymlaen atynt ym Mae Abertawe eleni…

Croeso – 25 a 26 Chwefror

Rydym yn dathlu popeth Cymreig cyn Dydd Gŵyl Dewi gyda gŵyl Croeso, gŵyl ddeuddydd sy’n cynnwys diwylliant Cymreig lleol o’r radd flaenaf.

Ewch i ganol dinas Abertawe ddydd Gwener 25 a dydd Sadwrn 26 Chwefror ar gyfer cerddoriaeth fyw, arddangosiadau coginio, bwyd a diod, adloniant stryd a mwy.

Rhagor o wybodaeth

Gerry Cinnamon – 4 Mehefin

Mae Gerry Cinnamon, canwr-gyfansoddwr o’r Alban, yn dechrau haf llawn cerddoriaeth fyw gyda’i berfformiad ym Mharc Singleton ddydd Sadwrn 4 Mehefin.

Mae caneuon gonest Gerry yn cysylltu’n naturiol â’i gynulleidfa enfawr a ffyddlon. Fel artist annibynnol mwyaf y DU, mae Gerry bellach yn brif atyniad sy’n perfformio mewn stadia ac arenâu llawn. Bydd ei sioe yn Abertawe’n un o nifer bach o gyngherddau awyr agored lle gallwch weld Gerry yn 2022.

Prynu tocynnau

Sioe Awyr Cymru –  2 a 3 Gorffennaf

Bydd Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd i Fae Abertawe ddydd Sadwrn 2 a dydd Sul 3 Gorffennaf gydag awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o’r oes a fu, a bydd sioe eleni’n fwy ac yn well nag erioed!

Rhagor o wybodaeth

Nile Rodgers a CHIC – 29 Gorffennaf

Bydd un o fandiau enwocaf y byd cerddoriaeth, Nile Rodgers a CHIC yn perfformio’u casgliad helaeth o ganeuon poblogaidd ym Mharc Singleton ddydd Sadwrn 29 Gorffennaf.

Bydd y band parti gorau’n siŵr o’ch annog i ddawnsio i ganeuon diamser fel ‘Everybody Dance’, ‘Le Freak’ a ‘Good Times’, gan sicrhau y  bydd y gyngerdd hon yn cael ei chofio fel un o bartïon haf mwyaf cofiadwy Abertawe.

Prynu tocynnau

Paul Weller – 31 Gorffennaf

Ymunwch â Paul Weller a’i fand ym Mharc Singleton ar 31 Gorffennaf am noson o gerddoriaeth fyw anhygoel, ei unig sioe awyr agored yng Nghymru.

Daeth yn enwog gyda’i fand adfywio modern, The Jam, a chafodd lwyddiant pellach gyda The Style Council. Bydd Paul (a elwir hefyd yn ‘The Mod Father’) yn perfformio caneuon o’i holl yrfa gynhyrchiol ynghyd â chaneuon newydd o’i albwm diweddar, Fat Pop (Volume 1).

Prynu tocynnau

Cyfres Para Treiathlon y Byd – 6 Awst

Eleni bydd Abertawe’n cynnal digwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd am y tro cyntaf, gydag athletwyr yn cystadlu yn y ddinas cyn y Gemau Paralympaidd 2024 ym Mharis.

Ddydd Sadwrn 6 Awst bydd para-athletwyr gorau’r byd yn dod i Ddoc Tywysog Cymru Abertawe a gallwch fod yn rhan o’r dathliad hwn trwy gefnogi’r athletwyr elît hyn fel rhan o’u taith i Baris 2024.

Rhagor o wybodaeth

IRONMAN 70.3 – 7 Awst

Mae arfordir trawiadol a harddwch gwledig Gŵyr yn ogystal â dociau hanesyddol Abertawe’n darparu lleoliad dramatig ar gyfer treiathlon IRONMAN 70.3 cychwynnol Abertawe ddydd Sul 7 Awst.

Sicrhewch eich bod yn rhoi’r dyddiad yn eich dyddiadur ac yn cefnogi’r athletwyr ar hyd y llwybr wrth iddynt fwynhau golygfeydd gwledig Gŵyr a rhai trefol Abertawe. Gan ddechrau yn Noc Tywysog Cymru, byddant yn nofio 1.2 milltir (1.9km) cyn beicio’r cwrs beicio cylchol 56 milltir (90km), ac yna’n rhedeg y llwybr cylchog 13.1 milltir (21.1km) o ganol y ddinas i’r Mwmbwls ac yn ôl i’r Marina ddwywaith.

Rhagor o wybodaeth

Ras 10k Bae Abertawe Admiral – 18 Medi

Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral yn dychwelyd ar 18 Medi 2022, a chaiff ei chynnal ar hyd bae eiconig a hardd Abertawe!

Mae’r cwrs yn agored i bobl 15+ oed o bob gallu, ac mae’n boblogaidd gyda rhedwyr profiadol a newydd gan fod y cwrs gwastad a chyflym yn gyflwyniad perffaith i redeg ffordd ac yn berffaith ar gyfer gwella ar eich amser gorau.

Cofresrtrwch ar-lein!

Llawer mwy i’w fwynhau ym Mae Abertawe

Os nad yw hynny’n ddigon i’ch cadw chi i fynd yn 2022, gallwch ddod o hyd i ragor o ddigwyddiadau hyfryd yn Abertawe i’ch cadw chi’n brysur eleni, fel cyfres o gyngherddau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Neuadd Brangwyn.

Neu, mae amgueddfeydd, orielau a llyfrgelloedd Abertawe llawn gweithgareddau a syniadau i’ch ysbrydoli a chadw’r teulu’n brysur trwy gydol y flwyddyn.

I gael y manylion llawn, ewch i joiobaeabertawe.com