Mae Cymru’n un o’r ychydig wledydd lle ceir llwybr cerdded di-dor o gwmpas ei harfordir, i annog preswylwyr ac ymwelwyr i wneud yn fawr o’n harfordir anhygoel ac amrywiol – ar gyfer ymarfer corff, awyr iach ac wrth gwrs, y golygfeydd!
Mae Llwybr Arfordir Gŵyr yn debyg i’r llwybr cenedlaethol ond yn llai o faint! Ar hyd adran Bae Abertawe o’r llwybr, gallwch gerdded ar hyd y clogwyni, promenadau, ar draws traethau, drwy gorstiroedd a thwyni. Mae’n llwybr amrywiol a golygfaol ar hyd 51 milltir o arfordir – y mae 39 milltir ohono’n ardal gyntaf yn y DU i’w dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol – Penrhyn Gŵyr.
Felly p’un a ydych wedi gosod her i chi’ch hun ar gyfer y flwyddyn newydd i gerdded ar hyd arfordir cyfan Gŵyr neu os ydych am fynd am dro ar brynhawn Sul yn unig – dyma rai o uchafbwyntiau llwybr yr arfordir.
Mae’r promenâd, llwybr hamddenol a gwastad sy’n rhedeg o ganol y ddinas i’r Mwmbwls, yn llwybr beicio a rennir, felly cadwch lygaid am ddefnyddwyr eraill y llwybr. Mae’n hygyrch iawn ac yn addas i gadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn. Tretiwch eich hun i hufen iâ o un o’n caffis ar y ffordd.
Dyma ran boblogaidd arall o Lwybr Arfordir Gŵyr, y mae rhannau ohono’n addas i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio. Nepell o ganol y ddinas, byddwch ar glogwyn caregog yn gwylio’r tonnau’n taro islaw – mae’n bosib y gallech weld morlo chwilfrydig yn syllu’n ôl arnoch! Am dro hirach, ewch heibio i Langland i Fae Caswell. Mae caffis a bwytai yn Limeslade, Langland a Caswell os oes angen bwyd neu ddiod arnoch ar y ffordd.
Ewch am dro ar hyd clogwyni gwyntog Pennard a chewch eich gwobrwyo gan yr olygfa enwog o’r Tri Chlogwyn. Cerddwch ymlaen ychydig yn bellach i weld adfeilion Castell Pennard. Bydd angen gwisgo esgidiau cerdded ar gyfer y llwybr hwn ac nid yw’n addas i gadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn. (A does dim ots gan y caffis yn Southgate os yw’ch esgidiau’n fwdlyd os ydych am gael bwyd neu ddiod ar ôl eich tro!)
Gwobrwyir crwydrad ar hyd adran Rhosili o lwybr yr arfordir gan olygfeydd trawiadol o ben Twyni Rhosili, ond mae adran cymharol wastad y gellir ei cherdded yn hawdd sy’n mynd â chi i ymyl y sarn i ben Pyrod. Os ydych yn mentro mas ar y sarn, gwiriwch amserau’r llanw yng ngorsaf Canolfan Gwylio’r Glannau cyn i chi fentro! Mae hefyd ddigon o leoedd yn Rhosili i fwynhau cinio haeddiannol gydag un o olygfeydd gorau yn byd yn ôl pob sôn yn gefndir iddo!
Ewch tua’r gogledd i Gwm Ivy a thraeth Whiteford a bydd yr olygfa’n newid – wrth i chi ddechrau’r tro fe welwch gipolygon o’r twyni a’r traeth drwy’r coed, cyn i’r traeth gael ei ddatgelu fel golygfa lydan ac agored ar draws moryd Burry. Cadwch lygad am oleudy Whiteford – goleudy haearn olaf y DU a olchir gan y tonnau (ond gwiriwch amserau’r llanw’n ofalus cyn mynd i gael cipolwg agosach – daw’r llanw i mewn yn gyflym yma). Bydd caffis yng Nghwm Ivy a Llanmadog yn eich croesawu chi a’ch ffrind gorau (yr un â phedair coes!).
Mae gennym hefyd lwybrau cerdded mewndirol, gan gynnwys Llwybr Gŵyr sy’n heriol. Cerddwch drwy goetiroedd a gweundiroedd a gerllaw llynnoedd a gwlyptiroedd – rhagor o wybodaeth…