fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin
BLOG | December 30, 2021

Gwnewch Fae Abertawe'n Lle Hapus i chi yn 2022!

Cynlluniwch eich seibiant byr neu wyliau ar gyfer y dyfodol a mwynhewch rhai golygfeydd godidog (o gysur eich ystafell eich hun!) Dyma’n hoff leoedd i aros sy’n cynnig golygfeydd y byddwch yn breuddwydio amdanynt am flynyddoedd i ddod!

1.  Gwesty Worm’s Head

Mae’r gwesty hwn yn Rhosili yn edrych dros fae arobryn Rhosili, ac yn cynnig ystafelloedd â golygfeydd na allwch ddod o hyd iddynt yn unman arall! Gall gwesteion ddewis i aros yn adenydd y Clogwyn, y Bae neu’r Môr, y mae gan bob un ohonynt olygfeydd gwych o Ben Pyrod, Bae Rhosili a Thwyni Rhosili. Yna beth am fynd i Far Helvetia, The Bay Lounge neu The Bay Terrace (y mae gan bob un ohonynt olygfeydd gwych wrth gwrs) i ddewis o amrywiaeth o fwydydd lleol a Chymreig megis caws pob, draenogiaid môr lleol a chig oen morfeydd heli Gŵyr.

 

 

 

2.  Gwesty Bae Oxwich

Beth am ddeffro yn un o ystafelloedd moethus Bae Oxwich sy’n cynnig golygfa o’r môr a gwylio’r haul yn codi dros fae hardd Oxwich? Dafliad carreg yn unig o’r traeth, gallwch badlo cyn brecwast, yna rhoi cynnig ar gamp dŵr newydd a mynd am dro ar hyd yr arfordir yn y prynhawn – a’r cyfan heb orfod gyrru!

4.  Gwesty’r Marriott Abertawe

Mae gwesty The Marriott Abertawe, sydd yn yr Ardal Forol gyda golygfeydd ysgubol ar draws Bae Abertawe neu Farina Abertawe, yn cynnig profiad o ansawdd i ymwelwyr, gyda’r fantais ychwanegol o fod o fewn pellter cerdded o’r traeth, yr ardal forol ac atyniadau’r ddinas – gan gynnwys Arena newydd sbon Abertawe sy’n agor yng ngwanwyn 2022!

 

 

 

 

5.  Parc Gwyliau Bae y Tri Chlogwyn

Gosodwch eich pabell, gyrrwch yma (yn eich fan eich hunan) neu dewch i aros yn un o’r pebyll crwn moethus sydd eisoes ar y safle a mwynhewch y golygfeydd godidog dros Fae y Tri Chlogwyn! Mae’r cyfleusterau’n wych hefyd – mae gan y bloc amwynderau 20 o ystafelloedd ymolchi ensuite â gwres o dan y llawr, ac mae siop ar y safle sy’n gwerthu popeth, o fara ffres i fasgedi barbeciw. Popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer seibiant syfrdanol! Ar agor rhwng mis Ebrill a mis Hydref.

6.  Daisy’s Fisherman’s Cottage

P’un a ydych yn eistedd ar y dec blaen â gwydraid o win yn eich llaw (gallwch fwynhau potel o win am ddim gyda phob ystafell!) neu yn yr ystafell fyw o flaen y tân crasboeth, gallwch fwynhau golygfeydd godidog ar draws Bae Abertawe a’r Mwmbwls. Mae’r bwthyn rhyw funud yn unig o lan môr y Mwmbwls ar droed. Mae hefyd yn agos at lwybrau cerdded eraill ac mae’n bellter byr o’r Mwmbwls a’i orielau celf a chrefft unigryw, ei siopau syrffio steilus a’i fwytai amrywiol sy’n cynnig golygfeydd gwych o’r môr, wrth gwrs!

 

 

 

 

 

7.  Bythynnod Fferm Clun

Hen fferm laeth addasedig yw Canolfan Fferm Clun, ac mae’n edrych dros ehangder Bae Abertawe. Mae 9 bwthyn gwledig ar brif safle’r fferm wedi’u gwasgaru o gwmpas yr iard ganolog, sy’n cynnig amrywiaeth o olygfeydd morol a choetirol. Mae’n cynnig llonydd a thawelwch, ac eto dim ond taith fer mewn car ydyw i Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn prydferth Gŵyr. Mae Bythynnod Fferm Clun hefyd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau, o farchogaeth a saethyddiaeth i ddringo dan do a Dyffryn Her – Y Cwrs Ymosod Mwyaf Mwdlyd yn y Byd!’

 

 

 

8.  Fflatiau Cei Meridian

Gyda golygfeydd syfrdanol dros Fae Abertawe a’r Mwmbwls, mae fflatiau Cei Meridian yn cynnig holl gysuron eich cartref gyda’r manteision ychwanegol y byddech yn eu disgwyl o westy moethus, megis gwasanaeth glanhau rheolaidd a dillad gwely glan. Yn ogystal, byddwch yn y lleoliad perffaith i archwilio dinas Abertawe, pentref glan môr deniadol y Mwmbwls, a Phenrhyn Gŵyr, sef Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU.

Cliciwch yma i weld rhagor o leoedd gwych i aros.