Bydd y ffair bleser a’r sesiynau sglefrio iâ hyd at 8pm ar 24 Rhagfyr yn digwydd yn ôl y bwriad, yn unol â chynllun diogelwch COVID-19 Gwledd y Gaeaf ar y Glannau. Bydd yr holl docynnau’n ddilys o hyd ac ni fydd amserau’r sesiynau’n newid. Sylwer, nid ydym yn gallu symud neu gyfnewid unrhyw docynnau ar gyfer y sesiynau sy’n weddill mwyach.
Yna, bydd Gwledd y Gaeaf ar y Glannau a’r Llyn Iâ’n cau am 8pm ar 24 Rhagfyr.
Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth lawn ar-lein, ac ar gyfer unrhyw ymholiadau am docynnau, e-bostiwch y tîm tocynnau yn support@ticketsource.co.uk neu’r tîm gwasanaeth cwsmeriaid yn customerservices@a2hice.com neu cymerwch gip ar dudalen Facebook Gwledd y Gaeaf ar y Glannau.
Gwisgwch eich esgidiau sglefrio a dewch i fwynhau hwyl yr ŵyl!
Sglefriwch o gwmpas y llyn iâ dan do poblogaidd ac yn newydd sbon ar gyfer 2021, beth am sglefrio drwy’r coed ar y llwybr iâ hudol 120m, wrth wrando ar ganeuon Nadolig ac edmygu’r goleuadau disglair? Mae’n siŵr o wneud i chi deimlo’n Nadoligaidd!
Gall y rheini sy’n dwlu ar wefrau fwynhau’r Nadolig ar y Sizzler, neu roi cynnig ar reidiau ffair poblogaidd gan gynnwys ceir taro a’r Santa Express.
Ddim at eich dant? Ar yr Olwyn Arsylwi enfawr gallwch edmygu’r golygfeydd wrth symud yn arafach.
Ar ôl yr holl gyffro, bydd chwant bwyd arnoch! Felly ewch i Bentref Alpaidd Gwledd y Gaeaf ar y Glannau lle mae digon o ddanteithion Nadoligaidd – perffaith i’ch cynhesu ar ddiwrnod oer o aeaf.
Gydag ardal ehangach i fwynhau bwydydd a diodydd yr ŵyl, y Pentref Alpaidd yw’r ffordd berffaith o gymdeithasu gyda theulu a ffrindiau a bod yn rhan o’r awyrgylch Nadoligaidd.
Rhagor o wybodaeth, amserau agor ac archebu’ch tocynnau sglefrio iâ
Digwyddiadau Nadoligaidd, lleoedd i gasglu’ch siopa Nadolig munud olaf, amserau agor lleoedd diwylliannol a mwy – mae gwybodaeth am bopeth sy’n digwydd yn Abertawe y Nadolig hwn ar gael yn nadoligabertawe.com!