fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae’r diwrnod mawr bron â chyrraedd wrth i ni ddechrau cyfri’r dyddiau olaf, ac mae hwyl yr ŵyl yn parhau gyda digon o sglefrio iâ, cerddoriaeth fyw, gwin y gaeaf, a phanto i’w mwynhau … mae’n Nadolig a hanner yn Abertawe!

Parhewch i sglefrio iâ yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau

Ar agor ym Mharc yr Amgueddfa tan ddydd Llun 3 Ionawr 2022, gallwch ddod o hyd i bopeth y mae ei angen arnoch ar gyfer diwrnod mas Nadoligaidd yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe! Ewch ar yr Olwyn Arsylwi a gweld y ddinas o’r awyr, neu llithrwch o gwmpas y llyn iâ dan do a thrwy’r coed ar y llwybr iâ hudolus, sy’n newydd sbon ar gyfer 2021! Dathlwch y Nadolig trwy ymweld â’r Pentref Alpaidd, lle mae naws yr ŵyl yn berffaith gyda malws melys wedi’u tostio a danteithion blasus yn rhostio, perffaith ar gyfer treulio amser gyda’ch ffrindiau cyn mynd ar reidiau’r ffair.

Fe’i cyflwynir i chi gan Sayers Events ac A2H Live, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe.

Gweld Mwy

Prynwch anrhegion munud olaf yng Nghanolfan Siopa’r Cwadrant

‘Dych chi wedi llunio’ch rhestr a’i gwirio ddwywaith, ond mae rhywbeth ar goll o hyd – peidiwch â phoeni! Bydd Canolfan Siopa’r Cwadrant Abertawe’n cynnal siopa gyda’r hwyr o ddydd Iau 16 Rhagfyr tan ddydd Iau 23 Rhagfyr, gan agor rhwng 9am a 7pm. Yn gartref i’r brandiau gorau, ffefrynnau’r stryd fawr a rhai siopau newydd cyffrous, bydd ymweliad â’r Cwadrant yn siŵr o gael trefn ar eich siopa Nadolig munud olaf.

Gweld Mwy

Siopwch yn Lleol ym Marchnad Nadolig a Marchnad Dan Do Abertawe

Mae Marchnad Nadolig Abertawe ar agor tan ddydd Mawrth 21 Rhagfyr ar gyfer anrhegion hosanau Nadolig munud olaf, anrhegion o waith llaw a rhai diodydd a danteithion gaeaf blasus i’ch cynhesu wrth i chi siopa! Cymerwch gip ar yr wybodaeth lawn ar-lein, gan gynnwys eu Harweiniad Siopa 2021. Ac mae amser gennych o hyd i alw heibio Marchnad Abertawe lle gallwch ddod o hyd i ddigon o anrhegion gwych a digonedd o gynnyrch lleol ffres ar gyfer eich gwledd Nadoligaidd. Gallwch hyd yn oed gymryd saib a mwynhau sgwrs dros goffi yn yr Ardd Farchnad sydd newydd ei hagor!

Gweld Mwy

Archwiliwch Fae Abertawe’r Gaeaf Hwn

P’un a ydych am losgi calorïau’r pwdin a mynd am dro sionc, neu fwynhau mynd am dro hamddenol, gall y gaeaf fod yn amser gwych i archwilio Bae Abertawe a mwynhau’r awyr iach.

Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae gennym lawer o lwybrau cerdded cofiadwy i chi roi cynnig arnynt.

Rydym hefyd yn ffodus iawn o gael nifer o barciau a gerddi, gyda llawer ohonynt yn ddelfrydol i blant roi cynnig ar eu beiciau newydd.

Ac mae mwy na hynny!

Os nad yw hynny’n ddigon i lenwi sled Siôn Corn, bydd digon o ddigwyddiadau gwych yn Abertawe i’ch diddanu’r Nadolig hwn, fel panto Theatr y Grand, Snow White and the Seven Dwarves.

Fel arall, mae amgueddfeydd, orielau a llyfrgelloedd Abertawe yn llawn dop o weithgareddau a syniadau i danio’r dychymyg a diddanu’r teulu cyn ac ar ôl y Nadolig – gwiriwch eu hamserau agor ar-lein.