Mae naws Nadoligaidd yn y ddinas wrth i fis Rhagfyr nesáu, gyda sglefrio iâ, marchnadoedd Nadoligaidd, cerddoriaeth fyw, gwin y gaeaf, y panto a mwy i’w fwynhau…. mae’n sicr yn mynd i fod yn Nadolig a hanner yn Abertawe!
Ni fyddai’n Nadolig yn Abertawe heb ymweliad â Gwledd y Gaeaf ar y Glannau ym Mharc yr Amgueddfa! Mae ar agor tan ddydd Llun 3 Ionawr 2022 ac yn cynnig y cyfan sydd ei angen arnoch ar gyfer diwrnod allan Nadoligaidd i’r teulu.
Gallwch gael golwg o’r awyr ar y ddinas drwy fynd ar yr Olwyn Arsylwi enfawr, neu sglefrio o gwmpas y llyn iâ a thrwy’r coed ar y llwybr iâ hudol, sy’n newydd sbon ar gyfer 2021!
Gallwch gwrdd â ffrindiau a mwynhau’r awyrgylch yn y Pentref Alpaidd – efallai yr hoffech flasu’r danteithion a’r diodydd blasus sydd ar gael cyn mynd ar reidiau’r ffair?
Rydych wedi llunio rhestr ac efallai wedi ei gwirio ddwywaith, ond bydd taith i Ganolfan Siopa’r Cwadrant Abertawe yn siŵr o’ch helpu i ddod o hyd i’r holl eitemau sydd arni!
Mae’n gartref i frandiau enwog, ffefrynnau’r stryd fawr ac ambell siop gyffrous newydd, ond nid siopau yn unig sydd ar gael. Gallwch fwynhau perfformiadau cerddorol dros dro bob dydd Sadwrn yn y cyfnod cyn y Nadolig, a chadwch lygad am Quin, Coblyn y Cwadrant i gael cyfle i ennill £100 i’w wario yn eich hoff siop yn y Cwadrant!
Galwch heibio Marchnad Dan Do enwog Abertawe lle gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o fasnachwyr lleol sy’n cynnig rhagor o anrhegion gwych, yn ogystal â llu o gynnyrch ffres ar gyfer eich gwledd Nadoligaidd.
Mae Abertawe hefyd yn cynnal Marchnad y Nadolig dros dro ar Stryd Rhydychen nes dydd Mawrth 21 Rhagfyr. Gallwch ddod o hyd i anrhegion a wnaed gan grefftwyr, masnachwyr traddodiadol, bwyd stryd blasus a danteithion i’ch temtio. Pan fydd angen i chi gael hoe, ewch i’r Bar Bafaraidd i fwynhau’r awyrgylch Nadoligaidd.
Mae gennym anrhegion gwych i’w cynnig i un enillydd lwcus iawn y mis Rhagfyr hwn.
Hoffech chi ennill £100 i’w wario mewn siop o’ch dewis yng Nghanolfan Siopa’r Cwadrant Abertawe?Beth am daith i Wledd y Gaeaf ar y Glannau, gyda sglefrio iâ, tocynnau reidiau a bwyd am hyd at 4 person am ddim, er mwyn i chi ddechrau’ch dathliadau mewn steil? Beth petawn ni’n cynnig basged foethus llawn danteithion blasus o Olive & Oils yn y Mwmbwls hefyd?
Wel, rydym wedi ymuno â Sayers Events, Siopa’r Cwadrant ac Olive & Oils i gynnig y wobr wych hon, gwerth dros £250!
I gael cyfle i ennill, ewch i’n gwefan, nadoligabertawe.com, ac atebwch ein cwestiwn hawdd iawn i gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Pob lwc!
IOs nad yw hynny’n ddigon i lenwi sled Siôn Corn, mae digon o ddigwyddiadau gwych eraill ar gael yn Abertawe’r Nadolig hwn, fel panto Theatr y Grand Abertawe, ‘Snow White and the Seven Dwarfs’, neu Dathliadau Nadolig Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Neuadd Brangwyn.
Mae amgueddfeydd, orielau a llyfrgelloedd Abertawe’n cynnig llwyth o weithgareddau a syniadau i ddiddanu’r teulu yn y cyfnod cyn y Nadolig ac yn ystod y gwyliau.
I gael y manylion llawn ewch i’n gwefan, nadoligabertawe.com – mae’n wefan a hanner!