fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Mae George Peasgood, enillydd dwy fedal yn y gemau Paralympaidd, yn teimlo y gall digwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd annibynnol gyntaf Prydain newid ei chwaraeon yn sylweddol yn y ddinas.

George Peasgood

Bydd paradreiathletwyr gorau’r byd yn dod i dde Cymru ddydd Sadwrn 6 Awst 2020 ac yn dychwelyd i’r ddinas hyd at gemau Paralympaidd 2024 ym Mharis.

Cynhelir y rasys yn Noc Tywysog Cymru yn Abertawe ac maent yn rhan o ŵyl chwaraeon para ehangach yn y rhanbarth.

“Mae’n beth mawr i gael digwyddiad annibynnol ar gyfer paradreiathlon ym Mhrydain,” meddai.

“Mae’n ymwneud â chynyddu ymwybyddiaeth o’r gamp a defnyddio’r momentwm a gawsom o Tokyo a cheisio tynnu sylw ato.

“Mae’r teimlad a gewch gyda thorf gartref yn arbennig. Gall ffrindiau a theulu ddod i’m gwylio’n rasio a bydd yn anhygoel bod gyda’r holl bobl sydd wedi fy helpu dros y blynyddoedd.

“Roedd gadael Tokyo gyda dwy fedal yn rhyfeddol ac yn rhywbeth y byddaf yn ei drysori am byth. Mae wedi bod yn flwyddyn swrrealaidd ac mae wedi cymryd amser i mi dderbyn popeth sydd wedi digwydd.”

Ychwanegodd Jonny Hamp, Cyfarwyddwr Digwyddiadau Triathlon Prydain, “Mae’n gyhoeddiad gwych i allu’i wneud.

“Rydym wedi bod yn gweithio am gwpl o flynyddoedd ar ein prif strategaeth digwyddiadau, ac mae’r paradreiathlon wedi bod yn ffocws allweddol ar gyfer yr hyn rydym wedi bod eisiau ei wneud, ac mae gallu gwneud y cyhoeddiad hwn heddiw yn dystiolaeth o’r holl waith sydd wedi cael ei wneud gan nifer o bobl dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

“Mae gennym dîm paradreiathlon hynod lwyddiannus ac felly mae gallu cynyddu proffil y tîm presennol a darparu ysbrydoliaeth i bara-athletwyr y dyfodol er mwyn iddynt ddatblygu’n athletwyr o’r radd flaenaf ar gyfer y rhaglen nesaf yn gyfle gwych i’r gamp yn y wlad hon, a dyna’r hyn rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn ei wneud dros y tair blynedd nesaf.”

Enillodd Peasgood y dwbl sef arian yn y treiathlon ac efydd yn y prawf amser beicio mewn ail Gemau Olympaidd gwych yn Japan. Enillodd fedal arian Ewropeaidd hefyd ym mis Medi pan ddychwelodd i rasio.

Mae’r gŵr 26 oed eisoes yn targedu Paris 2024 er mwyn cwblhau’r gyfres o fedalau Paralympaidd.

“Byddaf yn ceisio sicrhau fy mod ar fy ngorau ar gyfer Paris a Los Angeles (2028),” meddai.

“Mae gen i fedalau arian ac efydd, a dwi am ennill y fedal aur honno nawr. I gael medal aur neu cyrraedd sefyllfa lle dwi’n teimlo y gallaf eto, a’r nod fydd mynd i Baris ac ennill.”

Cyflwynir y digwyddiad yn Abertawe gan Triathlon Prydain ar y cyd ag UK Sport, World Triathlon, Triathlon Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Abertawe yn y digwyddiad cyntaf o’i fath i’w drefnu gan y Corff Llywodraethu cenedlaethol.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth ar gyfer Cyngor Abertawe, “Mae’n wych i bobl a dinas Abertawe fod Cyfres Para Treiathlon y Byd yn dod yma.

“Bydd yn canolbwyntio’n fawr ar y ddinas gyda’r cwrs yn mynd o gwmpas ein hardal forol a heibio’r arena newydd o gwmpas Bae Abertawe. Dyma’r treiathlon harddaf ym Mhrydain yn ôl pob tebyg.”

Meddai Tom Rogers, Rheolwr Partneriaeth yn Chwaraeon Anabledd Cymru, “I Abertawe, bydd yn ei harddangos fel dinas hygyrch, ac yn tynnu sylw at yr hyn sy’n bosib i berson anabl yn lleol.

“Gellir cysylltu’r digwyddiad hwnnw â chyfleoedd ehangach i blant, pobl ifanc ac oedolion lleol i ddarparu’r amrywiaeth hwnnw o gyfleoedd cystadleuol a chyfranogol sydd hefyd yn ymwneud â’r digwyddiad.”

Para Triathletes

Meddai Prif Swyddog Gweithredol Treiathalon Cymru, Beverley Lewis, “O’n safbwynt ni, mae gennym ddau nod ar gyfer y digwyddiad hwn.

“Un yw dangos i blant, pobl ifanc a hyfforddwyr y gallant fod yn gynhwysol ac y gallant gefnogi’r math hwn o weithgarwch. Y llall yw darparu cyfleoedd wedyn fel y gall pawb gymryd rhan.”

Meddai Ian Walsh, Profost Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, “Gyda’n prif gampws yng nghanol y ddinas, credwn fod hyn yn gyfle gwych i arddangos buddion ffordd iach o fyw a chyfranogiad mewn chwaraeon drwy arddangos y para-athletwyr gorau yma yng nghanol y ddinas.

“Rydym yn gyffrous iawn am y cyfleoedd a fydd ar gael i’n myfyrwyr ein hunain gymryd rhan yn y digwyddiadau a hefyd i gael eu hysbrydoli i gymryd rhan mewn chwaraeon fel rhan o’u hastudiaethau ac er mwyn dilyn ffordd iachach o fyw.”