fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

PAUL WELLER YN CYHOEDDI SIOE ENFAWR YN YR AWYR AGORED YM MHARC SINGLETON AR 31 GORFFENNAF 2022.

Ar 14 Mai, rhyddhaodd Paul Weller ei 16eg albwm unigol ers ei albwm gyntaf a enwyd ar ei ôl ym 1992, ei bedwaredd mewn cynifer o flynyddoedd a’i ail mewn ychydig llai na deuddeng mis ers rhyddhad ei albwm syfrdanol, On Sunset, a gyrhaeddodd frig y siartiau ym mis Mehefin 2020. Nid gorddweud yw disgrifio’r albwm newydd hwn, Fat Pop (Volume 1), fel un o’i gasgliadau mwyaf cymhellol, heb eithriad, gan gynnwys ei holl ganeuon a ddiffiniodd oes y 70au a’r 80au gyda The Jam a The Style Council. Mae’n albwm a hanner.

Mae’r sioe ym Mharc Singleton Abertawe  a fydd yn cynnwys gwaith ar draws ei yrfa doreithiog a’i ddeunydd newydd gwych yn dilyn cyngherddau llwyddiannus ar y safle gyda Noel Gallagher, Jess Glynne a Catfish & The Bottlemen ac unwaith eto caiff y digwyddiad hwn ei hyrwyddo gan yr hyrwyddwyr arobryn Orchard Live.  Meddai Pablo Janczur o Orchard Live, “Rydym wrth ein boddau ein bod yn gweithio unwaith eto gydag artist gwych fel Paul Weller ac yn dod â’r ‘Modfather’ i Abertawe!”

Pan gyhoeddwyd y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020, penderfynodd Paul Weller ar unwaith yr oedd am gael rhywbeth i ganolbwyntio arno, gan ei fod yn annhebygol y byddai’n gallu mynd â’i albwm ‘On Sunset’ ar daith yr haf hwnnw.

“Roedd gen i lawer o syniadau ar fy ffôn”, esboniodd ar yr union ffôn hwnnw, gan siarad y tu allan i’w gartref yn Llundain, “a rhoddodd hynny gyfle i mi ddatblygu’r syniadau hynny.” Felly aeth ati i recordio’i ganeuon ar ei ben ei hun, gan baratoi’r ffeiliau sain, piano a gitâr, ac anfon y rheini at aelodau craidd y band fel y drymiwr, Ben Gordelier, Steve Cradock ar y gitâr ac offerynnau amrywiol eraill, a’r baswr, Andy Crofts, er mwyn iddynt ychwanegu eu rhannau nhw at y ffeiliau. “Roedd yn rhyfedd iawn peidio â bod yn yr un lle gyda’n gilydd, ond roedd yn ffordd o barhau, o leiaf. Byddwn i wedi colli arni fel arall.”

TOCYNNAU AR WERTH AM 10AM, DYDD GWENER 19 TACHWEDD DRWY. Mwy o wybodaeth.