fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin
BLOG | November 09, 2021

Hoffech chi de prynhawn? Hoffwn! Bwyd sawrus syfrdanol, danteithion blasus a diod boeth (neu wydraid o win pefriog)...ychwanegwch bobl arbennig...a dyna chi...y rysáit berffaith am brynhawn wych!

Gallwch fwynhau te prynhawn moethus Penrhyn Gŵyr ym Mharc Le Breos. Eisteddwch yn ôl ac ymlaciwch ar y teras sy’n edrych dros y gerddi godidog. Yn y misoedd oerach gallwch fwynhau’r hen ystafell fwyta gyda’r tân coed neu’r ystafell wydr olau ac awyrog â golygfeydd dros y tiroedd amgylchynol sydd wedi’u tirlunio. Gweinir te prynhawn drwy gydol y flwyddyn (dydd Mercher i ddydd Sadwrn o 3pm). Gellir ychwanegu gwydraid oer o Prosecco, neu seidr neu gwrw lleol. Rhaid cadw lle.

Pris: £22.50 y person

Mwynhewch de prynhawn ar thema Nadolig Plentyn yng Nghymru ym man geni a chartref teuluol Dylan Thomas wrth wrando ar Nadolig Plentyn yng Nghymru yn yr ystafell lle cafodd ei leoli. Ar ôl taith dywys o rif 5 Cwmdonkin Drive, gall gwesteion fwynhau te prynhawn wedi’i weini mewn hen set o lestri Edwardaidd.

Pris
: O £24 i blant ac oedolion gan gynnwys taith o’r tŷ. Mae’r te prynhawn unigryw ar gael bob dydd. Cadwch le o leiaf bedwar diwrnod o flaen llaw.

Mwynhewch de prynhawn yn Bistrot Pierre yn y Mwmbwls am £12.95 yr un yn unig. Mae Te Prynhawn Pefriog ar gael hefyd am £16.95 yr un. Ar gael bob dydd rhwng 2.30pm a 5.00pm.

Mwynhewch De Prynhawn yn The New Gower Hotel, Llandeilo Ferwallt, rhwng 3pm a 5pm bob dydd Llun, dydd Mawrth a Dydd Mercher. Mae’r opsiynau sydd ar gael yn cynnwys:

Te Hufen Traddodiadol  Sgonau wedi’u pobi’n ffres gyda jam a hufen tolch gyda the o’ch dewis.
Te Hufen Moethus £17.95 yr un – Sgonau wedi’u pobi’n ffres gyda jam a hufen tolch, amrywiaeth o frechdanau bach, brechdanau lapio a theisennau gyda the o’ch dewis.
Te Hufen Crand £22.95 yr un – Sgonau wedi’u pobi’n ffres gyda jam a hufen tolch, amrywiaeth o frechdanau bach, brechdanau lapio, teisennau, teisennau crwst sawrus, bisgedi a petit fours wedi’u gweini gyda the o’ch dewis.

Mwynhewch De Prynhawn yn Sullivan’s Tea and Coffee Co! Gallwch fwynhau amrywiaeth o frechdanau bach, sgon gyda jam a hufen tolch ac amrywiaeth o deisennau. Mae te a choffi americano Gower Coffee diderfyn hefyd yn rhan o’r pris.

Mwynhewch De Prynhawn traddodiadol ym mwyty Brasserie Gwesty Mercure, Abertawe, gwesty 4 seren a chanddi olygfeydd hyfryd o’r llyn.

Mae’r te prynhawn yn cynnwys amrywiaeth o ddanteithion sawrus blasus gan gynnwys brechdanau bach, ynghyd â sgonau a detholiad o bethau melys. Am brynhawn llawn moethusrwydd, beth am uwchraddio’ch te prynhawn i gynnwys prosecco Galanti diderfyn? Rhaid cadw lle.

 

Cymerwch gip ar ein hadran bwyd a diod am ragor o brofiadau ciniawa unigryw ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr.