fbpx
Joio ein hatyniadau awyr agor yr haf!
Gweld Mwy

Iron Man Swansea 70.3 Logo

Cyhoeddodd IRONMAN heddiw y bydd yn ychwanegu digwyddiad newydd sbon at ei galendr ras fyd-eang yn 2022 gyda threiathlon IRONMAN® 70.3® Abertawe yng Nghymru. Cynhelir treiathlon agoriadol IRONMAN 70.3 Abertawe ddydd Sul, 7 Awst 2022 gyda’r broses gofrestru gyffredinol yn dechrau ar 9 Tachwedd am 2pm.

Gall athletwyr a gwylwyr ddisgwyl llwybr gwych mewn cyrchfan rasys sy’n cynnig golygfeydd godidog gyda’r dociau hanesyddol, penrhyn Gŵyr, bryniau tonnog gwyrdd, porfeydd ac amaethyddiaeth gyfoethog Abertawe wledig. Gall athletwyr a’u teuluoedd a’u ffrindiau hefyd fwynhau’r golygfeydd ar hyd glannau eang Bae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn hardd Gŵyr.

“Rydym yn hynod gyffrous am y ras IRONMAN 70.3 ychwanegol yn Abertawe gan fod ein hathletwyr wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am sefydlu digwyddiad o’r fath yng Nghymru ers tro. Roedd Abertawe’n ddewis amlwg gyda’i harddwch naturiol eithriadol a’r ffaith ei bod yn gyrchfan ffyniannus i dwristiaid, sy’n darparu ar gyfer ymwelwyr rhyngwladol a phobl leol fel ei gilydd,” meddai Declan Byrne, Cyfarwyddwr Rhanbarthol IRONMAN UK ac Iwerddon. “Ein gobaith yw y bydd IRONMAN 70.3 Abertawe yn cael yr un effaith gadarnhaol ar y rhanbarth ag y mae IRONMAN Wales wedi’i chael ar Sir Benfro.”

Mae llwyddiant IRONMAN Wales yn arwyddocaol gan fod y digwyddiad wedi bod yn gatalydd enfawr ar gyfer twf treiathlon yn y rhanbarth. Arweiniodd y digwyddiad at gynnydd sylweddol mewn twristiaeth a ffitrwydd yn Sir Benfro, gan gynnwys cynnydd mawr mewn clybiau treiathlon.

Nododd Llywodraeth Cymru’r effaith hon a gweithiodd gyda The IRONMAN Group Cyngor Abertawe i ddod â digwyddiad IRONMAN 70.3 i Abertawe.

Meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, “Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi IRONMAN 70.3 – a bod Abertawe wedi’i chyhoeddi fel un o’r digwyddiadau newydd ar draws Ewrop. Mae gan Gymru berthynas hir ag IRONMAN – gyda llwyddiant IRONMAN Wales yn gatalydd ar gyfer twf y gamp yn yr ardal. Bydd y digwyddiad hwn yn codi proffil Cymru ymhellach fel dinas cynnal digwyddiadau – ac yn rhoi hwb economaidd i’r rhanbarth. Rwyf hefyd yn falch o’r gwaith cydweithredol a wnaed gyda Ffederasiwn Treiathlon Prydain a Chwaraeon Anabledd Cymru ac mewn perthynas â digwyddiadau eraill sy’n digwydd ar yr un pryd yn Abertawe.”

Mae digwyddiad IRONMAN 70.3 Abertawe a gynhelir ddydd Sul 7 Awst yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau a fydd yn dathlu parachwaraeon yn y DU. Cynhelir digwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd yn Abertawe ddydd Sadwrn 6 Awst gan ddefnyddio rhai o’r un cyrsiau ag y bydd athletwyr IRONMAN yn eu profi. Cynhelir gŵyl parachwaraeon ehangach yn Abertawe trwy gydol wythnos 1 Awst gyda sawl digwyddiad parachwaraeon yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau o gwmpas y ddinas.  Mae rhagor o fanylion am ddigwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd ar gael gan Ffederasiwn Treiathlon Prydain ac ar yr Ŵyl Parachwaraeon gan Chwaraeon Anabledd Cymru.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, “Bydd cystadleuwyr, ffrindiau a chefnogwyr yn siŵr o gael croeso cynnes yn Abertawe. Bydd yn gydweddiad perffaith o gamp sy’n ffynnu a dinas flaengar, diolch i’w phobl, ei diwylliant, ei lleoliad a’i hadfywiad canol y ddinas gwerth £1 biliwn.”

Bydd athletwyr sy’n cymryd rhan yn IRONMAN 70.3 Abertawe’n nofio 1.2 milltir (1.9km) yn Noc Tywysog Cymru cyn beicio ar hyd cwrs un ddolen 56 milltir o hyd (90km). Bydd athletwyr yn beicio drwy’r Mwmbwls ar hyd ffyrdd sy’n cadw at glogwyni arfordirol Gŵyr cyn beicio drwy Abertawe wledig ac yna ar hyd Bae Abertawe i’r ddinas. O fan hyn, byddant yn dychwelyd i Abertawe wrth iddynt baratoi ar gyfer trosglwyddo yn yr Ardal Forol wrth ymyl yr Afon Tawe. Yn olaf, bydd athletwyr yn dilyn cwrs rhedeg dwy ddolen 13.1 milltir (21.1km) sy’n mynd â nhw o ganol y ddinas, heibio Arena lliw aur trawiadol newydd Abertawe, tuag at y Mwmbwls cyn mynd yn ôl tuag at y llinell derfyn yn y Marina.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth:

“Mae Ironman 70.3 Abertawe’n ychwanegu at bortffolio cynyddol y ddinas o ddigwyddiadau o safon, gan gynnwys y Sioe Awyr Genedlaethol flynyddol, cyngherddau Parc Singleton a ras 10k Bae Abertawe Admiral. Bydd yn denu miloedd o wylwyr a llawer o athletwyr o Gymru ymhlith y rheini sy’n dod o lawer o leoedd eraill – a bydd yn dod â hwb sydd i’w groesawu i’n sectorau twristiaeth a lletygarwch gwych. Bydd Ironman 70.3 yn helpu i wneud y penwythnos hwnnw’n un arbennig iawn ar gyfer chwaraeon Abertawe, gyda digwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd annibynnol cyntaf erioed Prydain yn cael ei gynnal yma ddydd Sadwrn, 6 Awst.”

Bydd IRONMAN 70.3 Abertawe yn ras grŵp oedran a bydd yn cynnig slotiau cymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth y Byd IRONMAN 70.3 2023 a gynhelir yn Lahti, Y Ffindir rhwng 26 a 27 Awst, 2023.

I gael rhagor o wybodaeth am IRONMAN 70.3 Abertawe, ewch i www.ironman.com/im703-swansea neu e-bostiwch unrhyw ymholiadau uniongyrchol at sarah.malone@ironman.com.