Mae’n adeg wych o’r flwyddyn i archwilio’n cefn gwlad – mae’r diwrnodau’n gynnes o hyd, mae’r gwair yn wyrdd ac mae’r dail yn dechrau newid yn goch ac yn felyn.
Gwyliwch ein fideo newydd yna darllenwch ymlaen i gael ysbrydoliaeth ar gyfer sut i wneud yn fawr o’n cefn gwlad!
O fryniau Cefn Bryn i gorstiroedd gogledd Gŵyr, mae ein tirwedd amrywiol yn golygu bod golygfa newydd o gwmpas pob cornel! Gallwch hefyd gael blas ar gefn gwlad yn ein bwytai – nawr yw’r adeg berffaith i roi cynnig ar gig oen morfeydd heli, neu beth am brynu peth o Farchnad Abertawe a’i fwyta gartref?
Mae’n amser i arafu a chrwydro ar hyd llwybr ger-y-llyn Dyffryn Lliw – cadwch lygad am y llwybr cerfluniau newydd. Neu ewch am dro drwy goetir Penllergaer – cofiwch stopio i wrando ar y rhaeadr a gwylio am las y dorlan ar hyd y lan. Byddwch chi’n teimlo’n llonydd yn syth.
Yn teimlo’n fwy anturus? Yna mae Llwybr Gŵyr yn llwybr mwy heriol y gallwch ei groesi oddi ar eich rhestr teithiau cerdded i’w cyflawni. Mae’r llwybr, a chanddo dair rhan, yn eich arwain drwy ganol Bae Abertawe, o Abertawe wledig yn y gogledd i benrhyn Gŵyr – gwych!
Mae marchogaeth a beicio mynydd yn ffyrdd gwych o weld mwy o ardaloedd, neu beth am roi cynnig ar ddringo, gweithgarwch cyffrous sy’n sicr o’ch gwobrwyo gyda golygfa syfrdanol! Mae gennym y darparwyr gweithgareddau a’r wybodaeth – y cyfan sydd ei angen yw y chi!
Bydd chwant bwyd arnoch ar ôl hynny, ac er y gall y diwrnodau fod yn gynnes o hyd, mae’r nosweithiau oerach yn berffaith ar gyfer cwtsio lan mewn tafarn wledig (gyda thân, wrth gwrs), a mwynhau te hufen gyda’r prynhawn neu siocled poeth gyda’r holl drimins – rydych chi ar eich gwyliau wedi’r cyfan!
Mwynhewch eich hun drwy drefnu seibiant hydrefol mawr ei angen cyn i glychau’r Nadolig ddechrau canu eto!