Gofynnom i’n busnesau rannu eu #LleHapus gyda ni – ac esbonio pam y mae Bae Abertawe’n arbennig iddynt.
Yn gyntaf, dyma Hywel o fwyty The Beach House ar draeth Bae Oxwich.
Mae Hywel Griffith, pen-cogydd clodwiw a chystadleuydd ar Great British Menu y BBC, wedi gweithio fel cogydd ers ei fod yn 17 oed ac mae wedi gweithio mewn lleoliadau adnabyddus yn Llundain, Caer a Chymru cyn agor ei fwyty ei hun ym Mae Oxwich yn 2016.
Ers hynny, mae’r bwyty wedi ennill cyfres o anrhydeddau coginio, gan gynnwys
Gwobr Bwyty’r Flwyddyn yng Nghymru yr AA yn 2018, 3 rhoséd gan yr AA a seren Michelin.
Mae gan Fae Oxwich 2 filltir a hanner o draeth euraidd, a’r tu cefn iddo mae twyni
tywod a Gwarchodfa Natur Genedlaethol. Mae’n hygyrch, mae ganddo ddigon o leoedd parcio,
mae’n wych ar gyfer chwaraeon dŵr ac mae croeso i gŵn drwy gydol y flwyddyn …