Er ein bod yn ôl i drefn gwaith neu’r ysgol, gallwch ddal i wneud yn fawr o’n harfordir hardd a mwynhau heulwen yr haf hwyr ar y penwythnos – neu beth am dretio’ch hun i seibiant hydrefol cynnar?
Ewch am dro bach ar hyd y traeth neu grwydrwch Lwybr Arfordir Gŵyr – mae digon o lwybrau ar gael ar hyd ein harfordir.
Mae’n wir! Mae’r môr ar ei gynhesaf yn awr ar ôl heulwen yr haf – perffaith ar gyfer padlo a chwaraeon dŵr!
Eisteddwch y tu fas i un o’n bwytai neu gaffis glan môr ac edmygwch yr olygfa yn ogystal â’ch bwyd, wrth i chi fwynhau pryd a dal i fyny gyda ffrindiau.
Byddwch yn garedig i chi’ch hun wrth i ni agosáu at yr hydref, a chadwch yr awyr agored ar eich rhestr o bethau i’w gwneud – does dim byd yn well na mynd i’r traeth a theimlo awel y môr ar eich wyneb!