fbpx
Castell Ystumllwynarth – Bellach ar agor ar gyfer tymor 2024!
Gweld Mwy

Rydym yn croesawu mis Medi gyda mis llawn digwyddiadau, atyniadau a gweithgareddau i chi gyd eu mwynhau!

Mae 40fed ras 10k Bae Abertawe, cyngherddau, comedi, arddangosfeydd, Gŵyl Parciau a mwy yn rhai o’r pethau sydd ar ddod, felly darllenwch ymlaen i gael rhagor o wybodaeth!

Mwynhewch Ŵyl Parciau Abertawe ym Mharc Jersey ar 10 a 11 Medi, gyda dangosiad sinema awyr agored o Toy Story a The Greatest Showman ddydd Gwener a diwrnod hwyl i’r teulu ddydd Sadwrn. Bydd llu o weithgareddau i ddifyrru’r teulu cyfan – gan gynnwys gweithdai sgiliau crefft a syrcas, gweithgareddau chwaraeon, sioe ddeinosoriaid, reidiau i blant, castell neidio, bwyd, diod a cherddoriaeth fyw gyda’r nos. Rhagor o wybodaeth.

 

 

Mwynhewch gefnogi’r rhedwyr yn ras 10k Bae Abertawe Admiral ar 19 Medi. Mae eleni’n nodi 40fed ras 10k Bae Abertawe, felly rydym yn dathlu popeth sy’n ymwneud â’r 80au! Gofynnwyd i’r rhedwyr hefyd i ddod o hyd i’w cynheswyr coesau, plisgwisgoedd a’u bandiau chwys – a gallwch chi gymryd rhan yn yr hwyl hefyd! Eleni, bydd parthau cefnogi retro pwrpasol ar hyd y llwybr fel y gallwch ddod i gymeradwyo’r rhedwyr wrth iddynt basio – a mwynhau ychydig o gerddoriaeth ac adloniant yr 80au hefyd! Rhagor o wybodaeth.

 

 

Mwynhewch Ŵyl Ymylol Abertawe, sy’n dychwelyd ar 21-24 Hydref ac sy’n arddangos rhai o’r perfformwyr gorau o fyd cerddoriaeth, comedi, gair llafar a llawer mwy. Mae tocynnau ar gyfer mynediad dydd a’r penwythnos ar werth yn awr a gall plant dan 16 oed gael mynediad AM DDIM. Archebwch eich tocynnau nawr! Rhagor o wybodaeth ac archebu tocynnau.

 

 

 

Mwynhewch weithgareddau ParkLives, gydag amserlenni wythnosol a fydd yn ailddechrau trwy gydol mis Medi! Cawsom haf gwych gyda thros 200 o gyfranogwyr bob wythnos a chan fod y plant nôl yn yr ysgol erbyn hyn, beth am ymuno ag un o’n sesiynau wythnosol, o gerdded Nordig a chylchedu, beicio gyda chydymaith i Zumba. Cymerwch gip ar yr amserlen ar-lein.

 

 

Mwynhewch deithiau tywys yng Nghastell Ystumllwynarth – dewch i ddarganfod ei hanesion cudd a dysgwch am y gwaith cadwraeth presennol ar Gapel Alina gan dywyswyr profiadol a gwybodus. Cynhelir y teithiau bob dydd Llun, dydd Mercher a dydd Sadwrn a byddant yn para tua 1 awr – bydd angen i chi archebu eich tocyn ymlaen llaw. Rhagor o wybodaeth ac archebu tocynnau ar-lein.

 

 

Ffotograffiaeth: Polly Thomas, 2021

Mwynhewch Oriel Gelf Glynn Vivian yr hydref hwn i ddarganfod byd o gelf i’ch ysbrydoli. Archwiliwch ein harddangosfeydd rhyngweithiol difyr, gweithiau celf cymunedol a chasgliadau parhaol sy’n cael eu harddangos. Rhowch gynnig ar ein llwybrau teuluol neu cymerwch gip
ar-lein ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau am ddim yn y dyfodol. Gellir dod o hyd i amserau agor a threfnu eich ymweliad ar-lein.

 

 

Mwynhewch yr arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’ yng Nghanolfan Dylan Thomas, eich cyrchfan cyntaf i ddechrau o’r dechrau a darganfod pam roedd Dylan yn credu bod ‘Swansea is still the best place’. Os na allwch ymweld eto, ewch i’n gwefan ar gyfer ysgogiadau ysgrifennu, blogiau a gweithgareddau i deuluoedd y gellir eu lawrlwytho am ddim. Gallwch weld yr holl wybodaeth ddiweddaraf i’ch helpu i drefnu’ch ymweliad ar-lein. 

 

 

Mwynhewch sialens ddarllen yr haf yn eich llyfrgell leol ac fe’i cynhelir tan ddydd Gwener 17 Medi ac mae’r sialens ar agor i bob plentyn 5-11 oed. Gallech ennill tystysgrif, sticer hynod werthfawr i’r rheini sy’n cwblhau’r sialens, cyfle i ennill cit adeiladu cuddfan, tocyn teulu i Plantasia, a thocyn llyfr gwerth £10. Cofiwch, gallwch fenthyca llyfrau, cyrchu e-lyfrau, e-gylchgronau ac amrywiaeth o adnoddau ar-lein AM DDIM o’ch llyfrgell leol. Rhagor o wybodaeth.

 

Mwynhewch Amgueddfa Abertawe, a ddisgrifiwyd unwaith gan Dylan Thomas fel “museum that should be in a museum”. Mae’r amgueddfa ar agor i helwyr hanes a meddyliau chwilfrydig, ac mae’n llawn eitemau a luniodd hanes Abertawe, o’r cyfnod cyn hanes i’r Oesoedd Canol, o’r chwyldro diwydiannol i’r oes fodern. Mae mynediad am ddim, ond mae lleoedd yn gyfyngedig ar hyn o bryd, ac i drefnu’ch ymweliad ar-lein heddiw.