fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Digwyddiadau, cystadlaethau, gweithgareddau a llawer mwy o resymau dros #CaruAbertawe!

Gobeithio’ch bod chi’n mwynhau’r gwyliau ysgol!

Mae gennym lawer mwy o syniadau difyr hoffem eu rhannu â chi. Darllenwch ymlaen i gael gwybod am yr hwyl sydd ar ddod dros yr haf ym mis Awst.

❤️ Mae adloniant i’r teulu ar gael yng Nghastell Ystumllwynarth ddydd Iau 12 Awst gyda Treasure Island Paciwch bicnic a blanced ac ymunwch â Jim Hawkins ar ei antur llawn digwydd i ddod o hyd y drysor cudd.

Cliciwch yma am ragor o fanylion ac i archebu tocynnau

 

 

Byddwch yn dwlu ar ❤️ gynhyrchiad Theatr Quantum o gomedi boblogaidd Shakespeare sy’n llawn cariad a chynllwyn, dirgelwch ac anhrefn yng nghastell hardd Ystumllwynarth nos Wener yma. Paciwch bicnic a blanced a mwynhewch gomedi ramantus glasurol A Midsummer’s Night Dream.
Cliciwch yma am ragor o fanylion ac i archebu tocynnau

 

 

❤️ Mwynhewch ŵyl parciau gyda ffilmiau, cerddoriaeth fyw ac adloniant i blant yn yr awyr agored mewn pum parc yn Abertawe.

Am ddyddiadau, amserau a manylion yr adloniant, cliciwch yma

 

 

 

 

 

❤️ Ydych chi wedi bod yn loncian neu’n rhedeg ac eisiau her 10k i ddathlu? Yna gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral cyn i’r cyfle ddod i ben ar 31 Awst. Mae lleoedd yn mynd yn gyflym!

Rhagor y wybodaeth a cofrestrwch ar-lein

 

 

 

 

 

❤️Caru cyngherddau? Wel mae gennym 2 wych i chi y penwythnos hwn gyda Foals ac Olly Murs yn perfformio ym Mharc Singleton. Am werthiannau tocynnau, gwybodaeth am barcio a mwy

 

 

 

 

❤️ Caru hwyl yn yr awyr agored? Hyd yn hyn mae ein Tîm Chwaraeon ac Iechyd wedi darparu amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon gwahanol i dros 750 o gyfranogwyr ar draws y ddinas! Dim ond hanner gwyliau’r haf sydd wedi bod. Mae rhywbeth ar gyfer pob oedran, felly mwynhewch drwy wneud chwaraeon!
Mae’r amserlen lawn ar gael yma

 

 

 

 

Ydych chi’n ffansïo ennill beic i’ch plentyn? Ewch i’r Glynn Vivian, Arddangosfa Dylan Thomas, Llyfrgelloedd Abertawe, Canolfan Siopa’r Cwadrant, Marchnad Abertawe, Plantasia, Amgueddfa Abertawe a rhai parciau ac atyniadau awyr agored y mis Awst hwn i ddod o hyd i Jo Joio a fydd yn dal calon liw. Mae 4 lliw gwahanol o gwmpas y lle i chi ddod o hyd iddyn nhw. Mae holl fanylion y wobr wych hon, trwy garedigrwydd ein ffrindiau yn Cycle Solutions ar gael yma.

 

 

Ond nid dyna’r cyfan…

Mae’n haws fyth y mis Awst hwn i ddarganfod popeth y mae Abertawe’n ei gynnig gan y gallwch deithio am ddim ar wasanaethau bws lleol bob penwythnos (dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun) rhwng 30 Gorffennaf a 30 Awst 2021 cyn 11pm! Mwy o wybodaeth


Bus service advert

Gallwch ddal bws am ddim i Borth Einon a Bae Rhosili bob dydd Sul ym mis Awst – dim traffig neu barcio i boeni amdanynt, hyfryd!


 

Hefyd, newyddion gwych.. Mae Gŵyl Ymylol Abertawe yn ôl ym mis Hydre! Gallwch gael gwybod am y bandiau a fydd yn chwarae, y digrifwyr a fydd yn difyrru a lle bydd y beirdd yn perfformio a prynu tocynnau yma.