fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Felly, mae gennym 7 wythnos o wyliau’r ysgol i’w mwynhau… 7 wythnos i ddiddanu’r plant… ond mae 52 o barciau a gerddi hardd yn Abertawe i ddewis ohonynt, felly does dim esgus. Darllenwch ymlaen, bydd hwn yn hawdd!

Un

Rydyn ni i gyd yn gwybod beth sydd ar garreg ein drws; ble mae ein siop agosaf, y llyfrgell leol, ein heglwys agosaf, a’r parc agosaf mae’n debyg, ond ydych chi wedi ystyried darganfod ardal arall yn Abertawe, efallai cerdded ychydig bach ymhellach, neidio ar gefn eich beiciau neu’ch sgwteri neu hyd yn oed mynd i ddal bws?

Mae gan Abertawe aceri ac aceri o barciau i ni eu mwynhau drwy gydol y flwyddyn, nid dros wyliau’r haf yn unig. Mae gennym barciau gyda chyrtiau tenis, rampiau sglefrfwrdd, offer ffitrwydd ar hyd y llwybr, gerddi botaneg, ardaloedd chwarae, caeau chwarae a hyd yn oed pedalos a golff gwallgof!

Gallwch weld popeth y mae angen i chi ei wybod am ein parciau yma. Gallwch chwilio yn ôl ardal, cyfleuster, hygyrchedd, gwobrau’r Faner Werdd a chasgliadau o blanhigion.

Dau

Iawn, felly rydych chi wedi dod o hyd i’ch parc am y dydd. Beth nesaf? Y ffordd hawsaf i chi ddod o hyd i’ch ffordd o gwmpas y parc yw drwy gymryd rhan mewn Helfa Sborion. Gallwch greu eich un eich hun neu beth am roi cynnig ar yr un yma, a grëwyd gan ein masgot Jo Joio? Yr un olaf i dicio popeth oddi ar y rhestr sy’n prynu’r hufen iâ!

Tri

Ar ôl yr holl chwilota, bydd angen bwyd arnoch. Dadbaciwch eich blanced a mwynhewch bicnic haeddiannol… blasus! Beth byddwch chi’n ei bacio? Ychydig o frechdanau, pasteiod porc, ffrwythau, creision, pasteiod, caws neu hoff frechdanau Jo – jam mefus a chreision cawslyd (nid ar yr un pryd wrth gwrs, ych a fi!).

Pedwar

Dewch i ni chwarae… gyda chymaint o le gwyrdd mae digonedd o le i chi a’r plant gael hwyl, taflu’r ffrisbi’n bell, chwarae tic neu fynd â phêl a chwarae’n wirion. Yn well byth, os oes gennych fat, beth am chwarae gêm o griced neu rownderi? Gallwch hyd yn oed ddefnyddio bagiau a siwmperi fel marcwyr, bydd pawb wrth eu boddau.

 

 

Pump

Os yw’n well gennych ymuno â sesiwn wedi’i threfnu, mae gan ein tîm Chwaraeon ac Iechyd y rhaglen ParkLives awyr agored orau sy’n cael ei darparu ledled Abertawe yr haf hwn. Gyda rhaglenni ar gyfer plant ac oedolion, mae digonedd o ddewis.

Gallwch edrych ar eu hamserlen lawn yma, mae pob sesiwn ParkLives yn rhad ac am ddim, ac maent yn ffordd wych o ddod i adnabod eich ardal leol (neu un newydd) a gallwch chi a’r plant gwrdd â phobl o’r un meddylfryd, a’r cyfan wrth fod yn actif yn yr awyr agored gwych.

Chwech

Faint o anifeiliaid y gallwch chi eu gweld? Ydych chi erioed wedi cymryd rhan mewn helfa drychfilod? Dewch i fod yn dditectif natur ac archwiliwch eich parc lleol. Y ffordd berffaith o archwilio’r amgylchedd lleol a dysgu rhagor am fywyd gwyllt. Bydd plant wrth eu bodd yn cael eu dwylo’n frwnt a bod yn agos at natur – gall helfa drychfilod ddatblygu sgiliau arsylwi hefyd, nid yw plant hyd yn oed yn sylweddoli’r buddion addysgol!

Sicrhewch eich bod yn cadw’n agos at y ddaear, a’ch bod yn gafael y trychfilod yn ofalus ac yn eu rhoi yn ôl lle daethoch chi o hyd iddyn nhw. Ddim yn siŵr beth rydych chi’n edrych arno? Cofiwch dynnu digonedd o luniau fel eich bod yn gallu dangos yr hyn rydych wedi dod o hyd iddo i’ch teulu a ffrindiau ar ôl i chi gyrraedd adref, neu gallwch chwilio ar apiau neu ar-lein am ragor o wybodaeth amdanynt.

Saith

Gallai’r rhestr hon gynnwys 77 o bethau i’w gwneud, gan fod ein rhestr, yn debyg i’n dychymyg, yn wirioneddol ddiddiwedd! Er bod yr holl weithgareddau uchod AM DDIM, os hoffech chi wario ychydig o arian ar eich diwrnod yn y parc, mae Parc Singleton yn lle gwych i fynd, gyda thros 250 erw ar gael, gallwch gael diwrnod llawn yn archwilio’r man gwyrdd naturiol. Mae ardal chwarae i blant, llyn, gerddi botaneg, a gallwch fwynhau’r pedalos a golff gwallgof am ffi fach.

 

 

Mwynhewch yr haf, rydym yn caru parciau, rydym yn caru Abertawe!