fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Ydych chi’n un o Arwyr y Byd Gwyllt?

Mae Sialens Ddarllen yr Haf 2021 yn ddathliad o ddarllen, natur a gweithredu ar gyfer yr amgylchedd a bydd yn cyfuno mynediad am ddim at lyfrau gyda gweithgareddau hwyl, creadigol yn ystod gwyliau’r haf.

Wedi’i datblygu mewn partneriaeth â WWF, sefydliad cadwraeth annibynnol arweiniol y byd, bydd Arwyr y Byd Gwyllt yn ysbrydoli plant i gefnogi dyfodol ein planed.

Mae’r sialens wedi’i gosod mewn lle ffuglennol o’r enw Trewylltach, lle mae chwe phreswylydd ifanc wedi dechrau sylwi ar broblemau amgylcheddol yn eu hardal. Ar y dechrau, mae’n teimlo fel na allant wneud unrhyw beth i helpu, ond wrth weithio gyda’i gilydd, maen nhw’n darganfod, wrth fod yn unedig, fod ganddynt y pŵer i wneud Trewylltach yn lle i bobl a natur ffynnu.

Sut mae’r sialens yn gweithio

Arwyr y Byd Gwyllt yn eich llyfrgell leol:

  • Mae plant yn cofrestru yn eu llyfrgell leol ac yn derbyn poster casglwr Arwyr y Byd Gwyllt.
  • Mae plant yn benthyca llyfrau o’u llyfrgell 3 gwaith yn ystod gwyliau’r haf ac yn darllen o leiaf 6 llyfr o’u dewis eu hunain, gan gasglu sticeri arbennig i gwblhau eu poster ar hyd y ffordd.
  • Trwy gydol y sialens, mae staff y llyfrgell a’n gwefan wrth law i gefnogi’r plant, gan eu helpu i ddarganfod awduron a darlunwyr newydd ac i archwilio amrywiaeth eang o wahanol lyfrau a ffyrdd o ddarllen.
  • Cyflwynir tystysgrif a medal sticer aur i blant sy’n cwblhau Sialens Ddarllen yr Haf.

 Arwyr y Byd Gwyllt ar-lein:

  • Mae plant yn cofrestru ar gyfer proffil gwefan ar wefan swyddogol y sialens, wildworldheroes.org.uk
  • Maen nhw’n gosod nod darllen personol ar gyfer yr haf, ac yn derbyn argymhellion ac awgrymiadau ar gyfer llyfrau er mwyn cael gafael ar e-Lyfrau a llyfrau llafar o’u dewis am ddim gartref.
  • Bob tro y byddant yn gorffen llyfr, byddant yn ei ychwanegu at eu proffil ac yn rhoi adolygiad, gan ddatgloi bathodynnau digidol ac eitemau gwobrwyo ar-lein ar hyd y ffordd.
  • Maent yn datgloi tystysgrif am gyrraedd eu nod sialens.


Canolbwynt Sialens Ddarllen yr Haf yw plant yn dewis a rhannu llyfrau o’u dewis, mewn unrhyw fformat. Mae nofelau, llyfrau ffeithiau, llyfrau lluniau, nofelau graffig, llyfrau jôcs, e-Lyfrau ac e-Lyfrau llafar yn cyfri tuag at gwblhau’r sialens.

Daw Arwyr y Byd Gwyllt yn fyw gyda gwaith celf pwrpasol gan y darlunydd enwog i blant, Heath McKenzie.

 

Cofrestrwch ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf

Darganfyddwch ragor am eich llyfrgell leol