Ewch am dro o gwmpas Marina Abertawe. Mae hi mor ddymunol o dawel y dyddiau hyn, fel ei bod hi’n anodd dychmygu dyrnu swnllyd diwydiant, wrth i longau ddadlwytho’u balast neu gasglu eu llwythi, a’r peiriannau â phŵer ager a agorodd lifddorau a fflodiardau ac a wnâi’r gwaith codi trwm.
Ond edrychwch yn fanylach ar Gei’r Tŷ Pwmpio a’r tir o’i gwmpas ac yno cewch hyd i rai cliwiau defnyddiol. Mae enw’r cei ei hun yn fewnweledol – mae wedi’i enwi ar ôl y tŷ pwmpio hydrolig, y mae ei dŵr wedi tremio dros fasnau doc y de ers dechrau’r 20fed ganrif.
Datgelwn hanes yr adeilad i’ch helpu i weld y gornel fach hon o’n dinas mewn goleuni gwahanol.
Erbyn i Ddoc y De agor ym 1859, roedd swm o £15,984 wedi’i wario ar beirianwaith hydrolig. Cafodd cyflenwad merddwr basn y doc ei bwmpio o wastraff y lociau dŵr gan beiriant ager Easton & Amos 24 marchnerth, a oedd yn gallu dadlwytho, â lifft os oedd yr uchder yn 5 troedfedd, 720,00 galwyn o ddŵr yr awr.
Ymgynghorodd James Abernethy, dylunydd Doc y De, â Syr William Armstrong, yr arbenigwr hydroleg nodedig, a argymhellodd y dylai’r peiriannau gwahanol a ddefnyddiwyd i agor y gatiau, y pontydd a’r llifddorau, y capstanau ar gyfer tynnu llongau i mewn ac allan o’r doc, gollwng balast, llwytho glo, a chludo a gollwng llwythi cyffredinol, weithio oddi ar ei system hydrolig, gyda chronwyr yn cyfateb i bwysau effeithiol o 750 pwys y fodfedd sgwâr. I’r perwyl hwn, defnyddiwyd tri pheiriant ager pwysau uchel a weithredai’n uniongyrchol, sef 80 marchnerth, 30 marchnerth, a 12 marchnerth yn y drefn honno. Darparwyd pŵer ychwanegol gan ddau beiriant hydrolig 8 marchnerth ar wahân ar bob ochr i’r llifddor. Cadwyd y rhain mewn Tai Peiriandai Hydrolig bach, ac mae un ohonynt wedi’i ailadeiladu ac i’w weld yn Sgwâr Abernethy. Ar wahân i’r rhain, gosodwyd yr holl beiriannau ar yr adeg hon o dan lefel y ddaear ac fe’u gorchuddiwyd â phlatiau haearn bwrw.
Yn yr 20 mlynedd a ddilynodd agoriad Doc y De cychwynnwyd dim llai na phum Deddf Harbwr i wella ac ehangu’r gosodiadau trwy ddatblygu pier gorllewinol newydd a mynedfa newydd i’r doc, ehangu’r Basn Hanner Llanw a gosod system newydd o reilffyrdd harbwr. Erbyn 1882 gallai’r doc dderbyn llongau oedd yn cario hyd at 6,000 tunnell.
Er mwyn ymdopi â’r bont droi newydd a’r llifddorau newydd (a osodwyd yn y waliau baril allanol newydd ym 1912 yn y pen draw), datblygwyd system hydrolig well, ar y tŷ pwmpio hydrolig a’i dŵr, a agorwyd ym 1901. Roedd y system wedi’i chanoli ar y pwmp gwasgu cydbwysol fertigol enfawr a’r cronnwr yn y tŵr, gyda pheiriannau wrth gefn wedi’u gosod yn y llawr cyntaf. Gwthiai’r peiriannau hyn ddŵr i’r rhan honno o’r pwmp gwasgu hydrolig o’r enw’r Cronnwr, yr oedd pwmp gwasgu haearn yn ei ganol, a oedd yn gweithredu fel piston. Gosodwyd y pwmp gwasgu ger pen y cronnwr gyda chylch pacio dwrglos, gyda phwysau metel aruthrol uwchben y pwmp gwasgu ei hun, i gynyddu’r grym yr oedd y pwmp gwasgu’n ei roi ar y golofn o ddŵr islaw. O waelod y cronnwr, gosodwyd sawl milltir o bibellau i’r llifddorau, y capstanau, y fflodiardau a’r teclynnau codi glo. Gellid cau rhannau o’r system lawr, a oedd yn arwain at gynyddu’r grym y gellid ei gymhwyso ar unrhyw adeg.
Y ddau gawr oedd wrth wraidd y system oedd tân a dŵr, a dethlir ar y goflech fach ar waelod y tŵr. Uwchben hwn mae plac cerfiedig mwy, mewn carreg Portland, sy’n portreadu peiriant ager Easton & Amos, o’r math a osodwyd i ddechrau ar ddiwedd y 1850au i bwmpio dŵr o’r system locio. Byddai hyn wedi cael ei weithredu ynghyd â phwmp allgyrchol Appold a phwlsadur.
Ar y wal annibynnol i’r dwyrain o’r Tŷ Pwmpio mae plac carreg Portland cerfiedig arall sy’n dangos peiriant ager o’r math a ddefnyddiwyd ym Mhrydain yr adeg honno i godi pŵer – Peiriant Ager Anferth Alban 1839. Roedd y prif silindr yn y canol yn pendilio o gwmpas siafft ac yn gweithio’n uniongyrchol ar grancsiafft y chwylolwyn. Ar ben y peirianwaith mae’r rheolydd allgyrchol, dyfais ddyfeisgar a oedd yn rheoli’r cyflymder y byddai’r peiriant yn rhedeg yn awtomatig.