Ble mae eich Lle Hapus chi? Ai lle penodol yw? Bod yng nghwmni rhywun rydych chi’n ei garu neu feddylfryd lle rydych chi’n teimlo’n ymlaciedig ac yn ddi-straen?
Ein nod yw helpu cynifer o bobl â phosib i ddod o hyd i’w Lle Hapus yn 2021 – yma ym Mae Abertawe!
Felly pan fyddwn yn gallu teithio eto, ac yn sylweddoli na allwn wneud y cyfan ar yr un pryd, rydym am roi’r holl wybodaeth angenrheidiol i chi fel y gallwch wneud eich Lle Hapus yn realiti!
Gwyliwch y fideo!
Yr arfordir, cefn gwlad neu wyliau yn y ddinas? Neu beth am roi cynnig ar bob un ohonynt – a mwynhau hufen iâ ar yr un pryd? Gallwch ddechrau ym mae hyfryd dinas Abertawe – yna, beth am fynd i bentref bach y Mwmbwls? Ar ôl hynny, gallwch syllu ar draethau godidog penrhyn Gŵyr (tua 40 munud yn y car i gyrraedd y man pellaf), felly mae’n wir, gallwch gael eich hufen iâ a’i fwyta!
Mae gwasanaeth hunanarlwyo’n golygu y gallwch wneud yr hyn yr hoffech ei wneud, pryd bynnag yr hoffech. Pitsa i frecwast? Pam lai! O bodiau gwersylla crand moethus i fythynnod cysurus yng nghefn gwlad, mae ein llety hunanarlwyo’n barod i fynd ac yn awyddus iawn i’ch croesawu – a dweud y gwir, maen nhw’n Barod Amdani! Mae hyn yn golygu eu bod wedi gweithio’n galed i ddilyn canllawiau’r Llywodraeth a diwydiant COVID-19 ac wedi cynnal asesiad risg. Felly gallwch ymlacio a mwynhau eich arhosiad gyda hyder.
P’un a hoffech chi gael cappuccino, paratoi picnic neu gael pryd o fwyd rhamantus i ddau – mae nifer o’n bwytai a’n caffis blasus yn cynnig gwasanaeth cludfwyd clicio a chasglu, sy’n berffaith ar gyfer eich gwyliau ‘eich ffordd chi’ yn eich Lle Hapus! (bydd dim angen i chi olchi unrhyw lestri chwaith!)
Mae’n gwneud i chi deimlo’n dda, y profiad o deimlo’r tir o dan eich traed a syllu ar yr awyr las uwchben – anadlwch yn ddwfn a dywedwch ‘helô, Lle Hapus!’ Gallwch fyw yn yr eiliad honno dipyn yn hirach drwy grwydro ar hyd Llwybr Arfordir Gŵyr neu fynd am dro drwy’r coetir. Beth am ddysgu sut i hedfan barcut, chwarae boules ar y traeth neu fynd am dro law yn llaw yn y tywod…
A’r newyddion da? Bydd yr atgofion Lle Hapus hynny ar gael i chi pan fyddwch am eu profi eto – does dim angen tanysgrifio! Rhowch wên i ni!