fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Mae hanner tymor mis Mai ar y gorwel a chyda’r nosweithiau goleuach, cyfyngiadau’n codi ychydig a phethau’n dechrau ailagor, mae digon gennym i edrych ymlaen ato – a chroesi bysedd am ychydig o heulwen!

Dyma grynodeb defnyddiol o’r hyn sy’n digwydd dros hanner tymor i gadw pobl o bob oed yn brysur…

Cadw’n heini gyda ParkLives

Mae ParkLives yn ôl i’n cadw’n heini yn ein parciau lleol!

Yn ogystal â sesiynau wythnosol i oedolion gan gynnwys cylchedau, beicio gyda chydymaith, Cerdded Nordig a Zumba, mae amserlen lawn o weithgareddau ar gynnig i blant dros yr hanner tymor gan gynnwys aml-gampau, sgiliau tenis, sboncen i’r teulu, pêl-osgoi a hyd yn oed padlfyrddio!

Mae pob sesiwn am ddim ond mae lleoedd yn brin felly mae’n hanfodol cadw lle ymlaen llaw.

Rhagor o wybodaeth

Arddangosfa Dwlu ar y Geiriau yng Nghanolfan Dylan Thomas

Mae’r arddangosfa ryngweithiol  ‘Dwlu ar y Geiriau ar agor o ddydd Iau i ddydd Sadwrn, 10am – 4pm. Mae mynediad am ddim ond rhaid cadw lle o flaen llaw er mwyn sicrhau bod digon o le i allu cadw pellter cymdeithasol ac osgoi siom.

Mae tîm Canolfan Dylan Thomas yn edrych ymlaen yn arbennig i groesawu ei ymwelwyr ieuengaf yn ôl! Er nad yw’r Man Dysgu wedi ailagor eto, gall ein selogion ifanc ddal i chwilio am rai o’r anifeiliaid sy’n ymddangos yn ysgrifennu Dylan wrth ddilyn y Llwybr i Blant. Os yw’n bosib, ewch â’ch pensil eich hun i’w gwblhau.

Mae llond trol o weithgareddau difyr y gallwch eu gwneud gartref ar y wefan a chadwch lygad am chwileiriau newydd, ysgogiadau ysgrifennu a gweithgareddau barddoniaeth dros hanner tymor.

Hwyl hanner tymor gyda Llyfrgelloedd Abertawe

Mae’r gwasanaeth clicio a chasglu wedi bod yn boblogaidd a bydd yn dal i fod ar gael drwy gydol hanner tymor. Gallwch fynd i mewn i 16 o lyfrgelloedd i bori ar lyfrau, defnyddio cyfrifiaduron, argraffu a llungopïo.

Mae digwyddiadau’n cael eu cynnal ar-lein o hyd am y tro – cadwch lygad ar y dudalen Facebook ddydd Iau am 10.30am ar gyfer Amser Stori ‘What the Ladybird Heard’ gyda Heather a dydd Gwener am 10.30am ar gyfer Amser Rhigwm gyda Sue.

Drwy gydol yr wythnos, bydd llawer o argymhellion am lyfrau a syniadau i ddifyrru’r teulu y tu mewn a’r tu fas! Rhagor y wybodaeth

Ailddarganfod y Glynn Vivian 

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian ar agor eto, gyda thymor o arddangosfeydd unigol gan dri artist ifanc o Gymru; Kathryn Ashill, Anya Paintsil a Dafydd Williams. Bydd gweithiau celf gan gymunedau a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cael eu harddangos hefyd, gan gynnwys ‘Cardiau Post i’r Dyfodol’ a’n ‘Baner Croeso’ a wnaed mewn partneriaeth ag ‘Abertawe Dinas Noddfa’ i goffáu eu pen-blwydd yn 10 oed.

Os ydych yn ymweld gyda’ch plant dros hanner tymor, cofiwch godi pecyn gweithgareddau i blant sy’n cynnwys  gweithgareddau celf y gall y plant eu gwneud eu hunain a fydd yn eu helpu i greu, arlunio a cherflunio’u ffordd o gwmpas yr oriel. Darperir yr holl ddeunyddiau i chi orffen eich creadigaethau gartref. Ar gael o ddydd Gwener 28 Mai. Fel arall, gallwch ddod o hyd i lawer o brosiectau crefft ar y wefan i’w gwneud gartref.

Bydd yr oriel ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul, 10.30am – 4pm. Mae mynediad am ddim ond rhaid cadw lle o flaen llaw er mwyn sicrhau bod digon o le i allu cadw pellter cymdeithasol ac osgoi siom.

Hwyl yn yr Awyr Agored!

Bydd ein parc dŵr am ddim, Lido Blackpill, yn ailagor ddydd Sadwrn 29 Mai a bydd ar agor o 9am i 5pm bob dydd tan ddiwedd mis Awst. Gyda’i ardal sblasio, nodweddion dŵr, ardal chwarae i blant a chyfleusterau picnic, mae’n ddiwrnod mas gwych i’r teulu.

Mae Llyn Cychod Singleton bellach ar agor o 11am i 5pm bob penwythnos a thrwy gydol y gwyliau ysgol – cadwch lygad am y pedalos ceir newydd, lliwgar!

Ac os ydych yn ffansïo profi’ch sgiliau taro a phytio, maer;’ cyrsiau golff gwallgof yn Llyn Cychod Singleton a Gerddi Southend y Mwmbwls ar agor o 11am i 5pm bob penwythnos a thrwy gydol y gwyliau ysgol. Rhagor o wybodaeth

Dyddiad ar gyfer eich dyddiadur…

Bydd Amgueddfa Abertawe yn ailagor ei drysau bendigedig i helwyr treftadaeth a meddyliau chwilfrydig o 8 Mehefin. Mae’r amgueddfa hynaf yng Nghymru’n rhoi cipolwg ar fywyd Abertawe yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.

Bydd Amgueddfa Abertawe ar agor  ar ddydd Mawrth a dydd Mercher ac o ddydd Gwener i ddydd Sul, 10am – 3pm. Mae mynediad am ddim ond rhaid cadw lle o flaen llaw er mwyn sicrhau bod digon o le i allu cadw pellter cymdeithasol ac i osgoi siom. Rhagor o wybodaeth