fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | May 27, 2021

Sioe Awyr Cymru

Bydd rhai o’r awyrennau a’r sioeau styntiau awyr gorau erioed yn hedfan fry dros Abertawe’r haf nesaf ar ôl i’r pandemig ein gorfodi i ganslo Sioe Awyr Cymru eleni.

Mae’n golygu y bydd y sioe awyr fwyaf erioed yn hanes Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd ar 2 a 3 Gorffennaf, 2022.

Daw’r penderfyniad ar ôl i gyfres o sioeau awyr ar draws Prydain gael eu canslo oherwydd yr ansicrwydd parhaus ynghylch gallu Llywodraeth Cymru a’r DU i gymeradwyo digwyddiadau mawr iawn i wylwyr eleni.

Mae digwyddiadau yn y Rhyl, Blackpool, Weston-super-Mare a Southport eisoes wedi’u gohirio a bellach mae Cyngor Abertawe wedi derbyn, o’i anfodd braidd, y caiff Sioe Awyr Cymru 2021 ei chanslo eleni.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Rydym wedi bod yno i bobl Abertawe drwy gydol y pandemig a byddwn yno i’n cymunedau wrth i ni ddod drwyddo.

“Roeddem yn awyddus iawn i weld digwyddiad mwyaf am ddim Cymru i wylwyr yn dychwelyd eleni, ac rydym wedi aros mor hir â phosib cyn gwneud penderfyniad yn y gobaith y byddai’r digwyddiad yn gallu cael ei gynnal.

“Mae digwyddiadau prawf yn parhau ond does dim arwydd o hyd i nodi pryd y bydd hi’n bosib codi’r cyfyngiadau ar gadw pellter cymdeithasol, neu pryd y bydd eglurder ynghylch a all y digwyddiad fynd yn ei flaen neu beidio, gan gofio bod dros 250,000 o bobl yn dod i’r digwyddiad fel arfer.

Meddai’r Cyng. Francis-Davies, “Rydym am ailddechrau’n rhaglenni digwyddiadau blynyddol penigamp cyn gynted ag y mae cyfyngiadau’r pandemig yn caniatáu ar gyfer hynny. Rydym yn ymwybodol bod pobl am ddechrau mwynhau cyngherddau, digwyddiadau, perfformiadau cerdd a gwyliau eto, ac rydym yn gweithio’n galed i lunio rhaglen a allai fod ar waith erbyn diwedd 2021 ac yn gynnar y flwyddyn nesaf.

“Fodd bynnag mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cymryd misoedd i gynllunio ac sy’n denu dros 250,000 o ymwelwyr, yn cael ei chynnal cyn y pwynt lle bydd sicrwydd ynghylch a fydd cyfyngiadau a osodwyd gan lywodraethau cenedlaethol yn caniatáu digwyddiad gyda chynifer o wylwyr.

“Felly, bu’n rhaid i ni wneud y penderfyniad i ganslo’r digwyddiad’ Fodd bynnag, cyn gynted ag y byddwn yn cael sicrwydd am y misoedd sydd i ddod, bydd ein timau’n gweithio i gadarnhau digwyddiadau eraill.

“Gallai diwedd 2021 a 2022 fod yn flwyddyn wych – rydym yn agor yr arena, bydd llai o gyfyngiadau, neu dim o gwbl, bydd digwyddiadau mawr yn dychwelyd a bydd gennym nifer o gyngherddau a gwyliau i’w mwynhau, ar ôl iddynt gael eu gohirio eleni.”

Roedd disgwyl i ddigwyddiad eleni, y’i hystyrir yn un o’r digwyddiadau am ddim mwyaf poblogaidd yng Nghymru ac sy’n denu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr i Fae Abertawe, gael ei gynnal ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf a dydd Sul 4 Gorffennaf.

Mae tîm digwyddiadau’r cyngor eisoes yn ystyried amserlen o ddigwyddiadau ar gyfer yr haf a allai fynd yn ei blaen, ac mae’n gweithio ar gynlluniau ar gyfer arddangosfa tân gwyllt drawiadol ym mis Tachwedd a Gorymdaith y Nadolig, gan obeithio y byddwn yn gallu eu cynnal yn amodol ar ganllawiau a ffactorau eraill.”

Ychwanegodd y Cyng. Francis-Davies, “Os oes un wers rydym wedi’i dysgu dros y 12 mis diwethaf, rhaid mai diogelwch y cyhoedd yw’r brif flaenoriaeth o ran COVID-19.

“Ond, wrth i ni ddod allan o’r pandemig, wrth i gyfyngiadau gael eu llacio ac wrth i ni barhau i weld buddion anhygoel rhaglen frechu’r GIG, mae ‘na obaith ar gyfer y dyfodol.

“Rydym am roi gwên yn ôl ar wynebau pawb hyd yn oed os yw’r golygu weithiau y byddant yn gudd y tu ôl i fygydau oherwydd y pandemig.”

Ychwanegodd, “Mae ein calendr digwyddiadau’n un newidiol ac rydym wedi bod yn addasu’n rhaglen ein hunain yn barhaus yn ogystal â rhai’n partneriaid a digwyddiadau eraill yn y sector preifat mewn tirwedd sy’n fythol esblygu.

“Rydym yn dal i gadw llygad ar yr haf a’r hydref ac yn ystyried cynnal digwyddiadau a’u galluogi i ddigwydd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru .”