fbpx
Joio ein hatyniadau awyr agor yr haf!
Gweld Mwy

Mae’r 1af o Fai wedi cyrraedd, mae’r gwanwyn yn ei anterth ac mae hwyliau pobl yn dechrau codi wrth i ni ddychwelyd i’r ‘normal newydd’ a nawr gallwn gwrdd â mwy o bobl; dyma’r cyfle perffaith i gwrdd â ffrindiau newydd ac anwyliaid i fynd am dro hyfryd a gwneud yn fawr o ‘Fis Cenedlaethol Cerdded’ fis Mai.

Beth bynnag yw’ch oedran, eich gallu, lefel eich ffitrwydd neu’ch diben, mae llawer o droeon gwych i chi eu mwynhau! Boed hynny’n gerdded drwy ein parciau a’n gerddi, coetiroedd, o gwmpas yr arfordir neu ar hyd dir fferm, cerdded yw un o’r ffyrdd gorau o ddarganfod harddwch Bae Abertawe.

P’un a yw’n well gennych gerdded ar hyd promenadau gwastad a pharcdiroedd neu  fynd ar grwydr mwy egnïol dros draethau, gweundiroedd a thrwy goetiroedd hynafol, mae digon o ddewis gyda’r holl olygfeydd godidog sydd gan Abertawe i’w cynnig.

Darllenwch ragor i gael eich ysbrydoli, a rhowch wybod i ni i ble y byddwch yn mynd i gerdded ym mis Mai…

Teithiau cerdded yng nghefn gwlad

Os ydych chi’n chwilio am deithiau cerdded yng nghefn gwlad, mae llawer o deithiau cerdded ar hyd yr arfordir, lle mae’r llwybrau’n amlygu ardaloedd gwledig gorau ein sir – gallwch weld rhai llwybrau yma Abertawe – Teithiau cerdded yng nghefn gwlad. Gallwch hefyd lawrlwytho PDFs neu eu hargraffu ar gyfer eich taith gerdded.

Llwybrau cerdded

Teithiau cerdded trefol

Efallai nad ydych am gerdded yng nghefn gwlad neu nid yw’n hygyrch i chi- neu efallai eich bod chi am ddarganfod ardal newydd. Mae ein harweiniad Abertawe – teithiau cerdded trefol yn lle da i ddechrau. O daith gerdded fer o gwmpas Llyn y Fendrod neu Ben-clawdd i Erddi Clun a Pharc Singleton.

Teithiau cerdded trefol

Llwybr Arfordir Gŵyr

Mae Llwybr Arfordir Gŵyr mewn mannau yn fwy hygyrch yn awr nag yr oedd o’r blaen i gadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn oherwydd gwelliannau diweddar, sy’n golygu y gall mwy ohonom fwynhau’r arfordir hardd, o draethau euraidd a chlogwyni syfrdanol i forfeydd heli a thwyni tywod. Yn gartref i 400 milltir o hawliau tramwy, mae rhywbeth at ddant pawb.

Llwybr Arfordir Gŵyr

Pa lwybr y byddwch chi’n ei ddewis? Efallai y byddwch am fynd o Benmaen i Fae y Tri Chlogwyn, o Rosili i Fae Mewslade neu efallai o Langland i Caswell? Gallwch weld y llwybrau yma!