fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | April 09, 2021

Yma ym mythynnod Hael Farm, rydym wedi gweld eisiau gweld ein hymwelwyr rheolaidd yn ystod y cyfnod clo, ond ein ci, Alfie, sydd wedi gweld eisiau ein gwesteion yn bennaf oll.

Mae Alfie, Sbaengi Adara Euraid, yn byw drws nesaf i fythynnod Hael Farm ger Southgate ar benrhyn hardd Gŵyr. Mae Alfie yn rhannu ei stori am y cyfnod clo, ei le hapus a pham y mae’n edrych ymlaen cymaint at ymwelwyr yn dychwelyd.

 

Dyma stori Alfie…

Rwy’n dwlu ar fyw yma yn Hael Farm – mae llawer o le i’w fwynhau, ychydig funudau’n unig o Fae y Tri Chlogwyn, Castell Pennard a Phwlldu. Mae ein buarth preifat â gatiau o’i gwmpas yn gwbl breifat ac o’r neilltu felly gallaf chwarae heb boeni am draffig, ac mae wedi’i amgylchynu â choed. Mae ymwelwyr yn dweud wrthyf ei fod yn ‘hudol’, ta beth ma hynny’n ei olygu, ond am y flwyddyn ddiwethaf dim ond fi sydd wedi bod yn y lle yma.

 

 

Dwi’n gweld eisiau gweld pobl. Mae gwesteion bob amser yn rhoi llawer o sylw i fi. Maen nhw’n dweud fy mod i’n hardd ac yn rhoi trîts i fi pan dwi’n dda (dwi’n credu fy mod i’n dda drwy’r amser!) Ma tad-cu yn dweud wrthyf y byddan nhw nôl cyn bo hir, sy’n wych achos dwi’n gyfeillgar iawn! Mae rhai gwesteion hyd yn oed yn dod â chŵn gyda nhw, a dwi’n dwlu ar chwarae gyda nhw! Ond pobl yw fy ffefrynnau achos mai nhw sy’n rhoi trîts i fi.

 

Yn ystod y cyfnod clo, roeddwn i ychydig yn unig ond helpais i’r bobl i adeiladu pwll hwyaid newydd yn Hael Farm ac rydym wedi bod am droeon hir ar draethau bendigedig Gŵyr. Mae’r ffaith mai ci ydw i ddim yn meddwl na allaf fwynhau gwawr hyfryd (ac mae digon o rheini wedi bod).

 

Bob bore tua 6 o’r gloch dwi’n mynd â fy nhad-cu am dro, naill ai ar hyd y clogwyni neu i lawr i draeth Pobbles neu i lawr y cwm i draeth Pwll Du. Rwy’n dwlu ar y boreau achos dwi’n cael hanner fy mrecwast cyn i ni fynd a’r hanner arall ar ôl i ni ddod nôl.

Rwyf hefyd wedi helpu mam gyda’i phantiadau a’i garddio. Mae hi’n siarad â fi mewn llais dwl er mwyn gwneud i fi siglo fy nghynffon, ond dydy hi ddim yn deall fy mod i’n gweld eisiau’r holl westeion a’r bobl ‘dyn ni’n eu cwrdd ar ein troeon dyddiol. A dwi’n dwlu ar yr holl ganmoliaeth dwi’n ei chael oherwydd fy ngolwg a fy sgiliau dringo creigiau!

 

Mae dad yn dweud y gallwn fynd i chwarae golff ar Gwrs Golff Pennard heddiw, sy’n gyffrous gan nad ydyn wedi bod yno ers tro. Mae e’ hefyd yn dweud bod ein gwesteion cyntaf, gobeithio, yn dod i aros cyn bo hir. Dwi mor gyffrous, allai ddim aros i rannu fy mannau arbennig yng Ngŵyr gyda nhw Mae dad bob amser yn dweud wrth ymwelwyr am y mannau gorau i fynd iddynt ac mae e wedi creu llawlyfr ar-lein i ymwelwyr i ddweud wrthyn nhw amdanynt.

Gobeithio’i fod wedi cofio sôn am y trîts dwi’n eu hoffi hefyd! Mae ymwelwyr yn gwneud i fi deimlo’n hapus iawn – a Gŵyr yw fy lle hapus i.

 

 

Alfie x