Rydym yn wynebu her #DitectifsCarregDrws i ailddarganfod yr hyn sydd ar ein carreg drws, gan ddatgelu straeon cudd y bobl a’r lleoedd yn ein cymunedau y cerddwn heibio iddynt bob dydd.
I ddathlu #DiwrnodYLlyfr a’ch helpu i gloddio ymhellach, cymerwch gip ar y rhestr hon o 10 llyfr hanes lleol diddorol sydd ar gael o Lyfrgelloedd Abertawe.
Mae cynifer o lyfrau da am hanes Abertawe a Gŵyr mae’n anodd penderfynu ar 10 yn unig! Dyma rai llyfrau y gallwch eu benthyca oddi wrth eich llyfrgell leol i roi blas i chi o’r hyn sydd ar gael. Mae llawer o rai eraill ar gael drwy’r catalog ar-lein.
A ragor o wybodaeth am eich llyfrgell leol a’r gwasanaeth Clicio a Chasglu, ewch i abertawe.gov.uk/llyfrgelloedd
(Johns Hopkins University Press) | Chris Evans and Louise Miskell
Mae’n disgrifio sut mae diwydiant copr Abertawe wedi newid y byd.
(West Glamorgan Archives) | J.R. Alban
Ailgyhoeddiad o lyfr clasurol sy’n casglu dogfennau cyfoes am effaith y Blitz.
(Bryngold Books) | David Roberts
Un o nifer o lyfrau gan David Roberts sy’n casglu hen luniau o Abertawe.
Bob blwyddyn mae Cyfnodolyn Cymdeithas Gŵyr llawn erthyglau diddorol a straeon am Benrhyn Gŵyr.
Sam Blaxland
Hanes diweddar Prifysgol Abertawe a gyhoeddwyd i nodi ei phen-blwydd yn 70 oed yn 2020.
(West Glamorgan Archives) | Dinah Evans
Hanes ailadeiladu Abertawe ar ôl y rhyfel.
(Pimpernel Press) | Hugh St. Clair
Stori hynod ddiddorol am sut y gwnaeth Cedric Morris, artist o Abertawe, greu ysgol gelf gyda’i gariad Arthur Haines.
(Parthian Books) | Clifford Guard
Hanes bachgen a symudodd o Abertawe i America, gan ymladd yn yr Ail Ryfel Byd.
(Y Lolfa) | Tom Davies
Hanes gwasanaethau meddygol yn Abertawe, o’r canol oesoedd i fywydau doctoriaid lleol.
Gerald Gabb
Hanes arwrol ar ffurf tair cyfrol sy’n olrhain hanes Abertawe hyd at y 19eg ganrif.