Dethlir Dydd Gŵyl Dewi yn Abertawe mewn ffordd ychydig yn wahanol eleni. Er na allwn gynnal y digwyddiad Croeso arferol yng nghanol y ddinas, byddwn yn rhoi manylion i chi ynghylch sut gallwch wneud pryd tri chwrs blasus yng nghysur eich cartref eich hun.
Rydym wedi ymuno â 3 phen-cogydd o fri o 3 bwyty lleol a fydd yn arddangos sut i greu cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin perffaith fel y gallwch baratoi eich cinio Dydd Gŵyl Dewi eich hun #Gartref.
Emilio Fragiacomo o Langland’s Brasserie fydd yn paratoi’r cwrs cyntaf blasus.
Caiff y prif gwrs ei baratoi gan y pen-cogydd Hywel Griffith, y dyfarnwyd seren Michelin iddo, o fwyty’r Beach House, Bae Oxwich.
Yn olaf, cyflwynir y pwdin gan Calum Pickard, Prif Pen-cogydd The Secret Beach Bar & Kitchen.
Teimlo’n llawn ysbrydoliaeth? Yn barod i fod yn ben-cogydd ar Ddydd Gŵyl Dewi? Dyma sut i wneud hyn:
Bore da! Hwyl fawr! Ydych chi erioed wedi eisiau dysgu ambell air Cymraeg? Dyma’ch cyfle. Cynigir sesiwn ragflas Cymraeg, lle cyflwynir rhai brawddegau a geirfa sylfaenol i chi gan Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Byddwch hefyd yn dysgu rhai ffeithiau am Gymru ac am ddiwylliant Cymru, a gall hyd yn oed eich ysbrydoli i ddal ati a chofrestru ar gyfer un o’r cyrsiau i ddysgwyr hefyd.
Rydym yn dwlu ar ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ac mae gennym weithgareddau difyr y gallwch eu gwneud #Gartref yn barod ar gyfer y diwrnod. Gallech wneud cenhinen Bedr neu genhinen y gallech ei gwisgo ar y diwrnod a lliwio’r ddraig fawr goch ar ein baner genedlaethol ac yna’i harddangos yn eich ffenestr. Rydym hefyd wedi darparu chwilair difyr – faint o eiriau y gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw?
Cofiwch rannu’r pethau rydych yn eu gwneud â ni – hoffem eu gweld!
Dydd Gŵyl Dewi Hapus!