fbpx
Castell Ystumllwynarth – Bellach ar agor ar gyfer tymor 2024!
Gweld Mwy

Hyd yn oed ar ôl 80 mlynedd, os edrychwch chi’n ddigon agos gallwch weld arwyddion yr effaith ddinistriol a gafodd bomiau’r Luftwaffe ar Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd a’r Blitz Tair Noson.

Tonnau o arswyd

Am oddeutu 7.30pm nos Fercher 19 Chwefror 1941, hedfanodd awyren Almaenig dros Abertawe, gyda dirgryniad ei fotor yn golygu ei bod yn hawdd i’r warden ARP (Rhagofalon Cyrchoedd Awyr) Laurie Latchford ei hadnabod.

Yn ystod y noson honno a’r ddwy noson ddilynol, gollyngwyd bomiau ar y dref islaw gan don ar ôl ton o awyrennau’r Luftwaffe. Yn ei ddyddiadur adeg y rhyfel, mae Laurie Latchford yn disgrifio fflach werdd a llenni o oleuni gwyn y bomiau cyneuol.

Gollyngodd y Luftwaffe ganiau metel, â phob un yn cynnwys 36 bom, yr oedd mecanwaith clocwaith yn eu hagor wrth iddynt gyrraedd lefel y ddaear, gan ganiatáu i glwstwr o fomiau cyneuol wasgaru dros ardal ganolog i sicrhau’r difrod mwyaf.

Cymaint oedd dwyster y cyrchoedd awyr Almaenig yn ystod y Blitz Tair Noson, mae Latchford yn rhoi’r teitl ‘Y Don a Foddodd’ ar y cofnod yn ei ddyddiadur ar gyfer dydd Gwener 21 February 1941. Mae e’n disgrifio tonnau o awyrennau’r gelyn yn gollwng ffaglau parasiwt, yna bomiau cyneuol a ffrwydrynnau ffyrnig yn eu dilyn. “Roedd sŵn y tanio, bomiau’n ffrwydro ac awyrennau’n waeth na’r hyn roeddwn i wedi’i brofi o’r blaen.”

“Ar draws Abertawe gyfan, roedd tai a siopau wedi’u chwalu a’u rhwygo’n agored gan ffrwydrynnau ffyrnig, neu wedi’u llosgi hyd at eu seleri llawn rwbel, rhai o gyrch neithiwr; roedd y briwiau ffres yn amlwg heb y gorchudd tenau o eira.”

Laurie Latchford, dydd Iau 20 Chwefror 1941

Diffeithdra llwyr

Gadawodd tridiau o fomio’i farc ar Abertawe, gan droi llawer o ganol y dref yn rwbel. Mae Latchford yn disgrifio’r farchnad, a orchuddiwyd unwaith gan wydr, ac yr oedd ganddi waliau brics uchel, fel pentwr o hytrawstiau gwyrdroëdig.

Gallwn weld faint o ddinistr a fu yn niffyg adeiladau hŷn yng nghanol y ddinas heddiw. Mae tirnodau a fu unwaith yn gyfarwydd fel siop Ben Evans neu Gapel Wesley wedi hen fynd – fe’u trowyd yn rwbel yn ystod y Blitz.

Wrth gerdded heddiw drwy Stryd Rhydychen, Whitewalls, Portland Street, Ffordd y Brenin ac Union Street, gwelwn adeiladau modern yn bennaf, a adeiladwyd yn gyflym ar ddiwedd y 1940au a dechrau’r 1950au er mwyn adfer y dref a chael popeth yn gweithio eto.

Fodd bynnag, llwyddodd rhai adeiladau i osgoi dinistr llwyr, ac mae’r creithiau arnynt a achoswyd gan y bomiau i raddau’n destun balchder iddynt. Ond mae angen i chi wybod ym mhle i edrych…

Castle Street

Ar lefel y ddaear yn Castle Street, wrth edrych yn agos ar y gwaith cerrig rhwng tu blaenau gwydr siopau a chaffis Castle Buildings, fe welwch wahaniaethau amlwg yn lliw ac ansawdd y gwaith cerrig, sy’n aml wedi’u gwahanu gan yr hyn sy’n edrych fel craciau mawr. Y gwaith cerrig mewnol yw’r adeiladwaith gwreiddiol sy’n deillio o’r cyfnod cyn y rhyfel. Mae’r rhan allanol, gyda chorneli wedi’u sgwario, yn gymysgedd concrit a ychwanegwyd i atgyweirio’r difrod a achoswyd gan y bomiau a ollyngwyd yn y Blitz Tair Noson.

Allwch chi ddychmygu nerth y ffrwydrad bom a lwyddodd i chwythu darnau mawr o gerrig nadd o gorneli’r adeilad a’i roi ar dân?

Capel Wesley

Wedi’i gysylltu wrth wal, rhwng dwy siop yn College Street gwelir plac di-nod â’r geiriau ‘Glory of God’ arno, i’n hatgoffa mai ar y safle hwnnw y safai Capel Wesley cyn iddo gael ei ddinistrio gan fomio’r gelyn.

Orchard Street

Heddiw, rydym yn fwy tebygol o deithio drwy Orchard Street mewn car neu ar fws yn hytrach na cherdded ar ei hyd. Fodd bynnag, os ewch chi am dro byr ar hyd y palmant gerllaw hen orsaf yr heddlu (sydd bellach yn gartref i Undeb y Myfyrwyr PCYDDS) cewch gipolwg ar effaith y Blitz Tair Noson. Mae tyllau shrapnel yn creithio briciau coch llachar yr adeilad crand yr olwg.

 

Sgwâr y Castell

Cafwyd llawer o ddigwyddiadau arwyddocaol yn hanes Abertawe ar safle Sgwâr y Castell. Ym 1941, roedd yn gartref i siop adrannol Ben Evans. Fodd bynnag, yn annhebyg i Castle Buildings sydd gerllaw, ni oroesodd y siop boblogaidd y Blitz Tair Noson.

Y Blitz Tair Noson mewn rhifau

  • Digwyddodd y bomio dros dair noson ar 19, 20 a 21 Chwefror 1941.

  • Gollyngwyd oddeutu 1,273 o fomiau ffrwydrol ffyrnig a 56,000 o fomiau cyneuol.

  • Yn drist iawn, lladdwyd 230 o bobl ac anafwyd 397.

  • Difrodwyd 11,000 o adeiladau ac 850 eiddo yn yr ymosodiadau.

Rhagor o wybodaeth

Llyfrgelloedd Abertawe

Gallwch archebu llyfrau ar y Blitz Tair Noson ar-lein, neu dros y ffôn i’w casglu yn eich llyfrgell leol gan ddefnyddio’r gwasanaeth clicio a chasglu newydd gan Lyfrgelloedd Abertawe

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg wedi cyhoeddi nifer o adnoddau ar-lein am y Blitz Tair Noson a’r effaith ar Abertawe a’i phobl.

  • Cofio Blitz Abertawe: i gofio am y sifiliaid a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd
  • Hanes Blitz Tair Noson Abertawe: does dim darnau ffilm o’r Blitz Tair Noson felly i adrodd hanes y tair noson ofnadwy hynny, rydym wedi gwneud y ffilm hon o’r ffotograffau cyfoes sydd gennym.
  • Y Blitz Tair Noson: pecyn addysg ar-lein sy’n edrych ar rai ffotograffau o Abertawe cyn ac ar ôl y Blitz Tair Noson.