fbpx
Castell Ystumllwynarth – Bellach ar agor ar gyfer tymor 2024!
Gweld Mwy
Image Credit: West Glamorgan Archive Service

Yn ystod y Blitz Tair Noson bomiwyd Abertawe’n ddifrifol gan Luftwaffe yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Bomiwyd Abertawe ar 19, 20 a 21 Chwefror 1941 ac yn anffodus lladdwyd 230 o bobl ac anafwyd 397. Dinistriwyd 11,000 o adeiladau ac 850 eiddo hefyd yn ystod y bomio.

Mae eleni’n nodi 80 o flynyddoedd ers y Blitz Tair Noson, a byddwn yn nodi’r dyddiad drwy rannu straeon, ffotograffau a sgyrsiau o’n lleoliadau Gwasanaethau Diwylliannol.

Llyfrgelloedd Abertawe

Bydd arddangosfa ddigidol ‘Blitz Tair Noson’ Llyfrgelloedd Abertawe’n portreadu digwyddiadau rhwng 19 a 21 Chwefror 1941 drwy eu casgliadau. Bydd llyfrau hanes lleol, ffotograffau o’r awyr, eu casgliad erthyglau SWEP unigryw a ffynonellau achau yn ailadrodd straeon personol arwrol am yr ymosodiadau.

Bydd y gwasanaeth llyfrgelloedd hefyd yn archwilio stori anhygoel canlyniadau’r Blitz fel y’u gwelwyd mewn erthyglau papurau newydd a hysbysebion siopau o’r cyfnod. Bydd yn dangos sut roedd ein rhagflaenyddion wedi ymdopi i wynebu a normaleiddio’r annormal, fel rydym ni’n ceisio’i wneud heddiw.

Image Credit: West Glamorgan Archive Service

Swansea Libraries Three Nights Blitz from Swansea Libraries on Vimeo.

Bydd yr arddangosfa’n dangos sut y gallwch chi ddarganfod mwy am y Blitz Tair Noson drwy wasanaeth Llyfrgelloedd Abertawe. Gallech hefyd ymchwilio i’ch hynafiaid eich hun neu ddarganfod a oedd eich stryd yn rhan o’r bomio.

Am fanylion llawn, cymerwch gip ar eu gwefan a Facebook a Twitter.

Canolfan Dylan Thomas

Ysgrifennodd Dylan yn deimladwy am Blitz Tair Noson Abertawe yn ei ddrama radio ‘Return Journey’.

Bydd Canolfan Dylan Thomas yn coffáu 80 o flynyddoedd ers y Blitz y mis Chwefror hwn gyda blogiau a gweithgareddau, gan ddefnyddio ‘Return Journey’ a safbwyntiau unigryw eraill fel man cychwyn. Cadwch lygad am weithgarwch ysgrifennu eich taith ‘Return Journey’ eich hun, map stori ‘Return Journey’ a chyfle i greu eich taflen sbonc eich hun o rai o dirnodau diwylliannol Abertawe.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma, a Facebook a Twitter

Image Credit: West Glamorgan Archive Service

Image Credit: West Glamorgan Archive Service

 

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Am y tro cyntaf, mae’r cyfrol Meirwon Sifil y Rhyfel ar gael yn ddigidol er mwyn cynnwys rhestr wedi’i mynegeio o’r holl ddinasyddion hynny a gafodd eu lladd gan y gelyn, 1939-1945.  Ceir tudalennau sy’n dangos lle claddwyd y bobl hynny a hanesion rhai o’r bobl a laddwyd. Rhagor o wybodaeth yma.

Caiff ffilm fer sy’n adrodd dyddiadur James R John, aelod o’r Gwarchodlu Cartref, yn ystod y Blitz Tair Noson ei dangos yn ogystal â ffilm fer sy’n dangos lluniau o’r digwyddiadau o gasgliadau’r archifau.

Bydd Dr John Alban yn cyflwyno sgwrs ar-lein am Blitz Tair Noson Abertawe, nos Wener 19 Chwefror am 7pm drwy Teams. Mae’r Blitz Tair Noson gan Dr John Alban ar gael i’w brynu o’r siop ar-lein.

Yn ystody tair noson (19-21 Chwef) bydd y gwasanaeth archifau hefyd yn rhannu negeseuon trydar a physt Facebook, mewn amser go iawn, i gyd-fynd â’r digwyddiadau go iawn drwy ddefnyddio dogfennau o’r casgliadau gan gynnwys dyddiaduron, llyfrau cofnodion ysgolion, cofnod galwadau’r Gwasanaeth Tân Cynorthwyol, ffotograffau ac erthyglau papur newydd.

Mae llu o wybodaeth ar gael ar eu tudalen ddysgu hefyd, a Facebook a Twitter.

Image Credit: West Glamorgan Archive Service

Amgueddfa Abertawe

Bydd Amgueddfa Abertawe’n rhannu delweddau na welir yn aml o ddinistr canol y ddinas sy’n dod o albwm a ddarganfuwyd yn ddiweddar.
Byddant hefyd yn nodi’r achlysur drwy rannu’r straeon y tu ôl i rai o’r gwrthrychau hynod ddiddorol yn eu casgliad sy’n gysylltiedig â phrofiad Abertawe yn ystod y Blitz.

Mae Amgueddfa Abertawe hefyd wedi creu fideo ar y cyd â Cyfuno Abertawe sy’n edrych ar fywyd yn Abertawe cyn, yn ystod ac ar ôl y Blitz Tair Noson.

Oriel Gelf Glynn Vivian

Bydd yr oriel yn darparu arddangosfa ar-lein o waith yr artist lleol, Will Evans, a gofnododd olygfeydd dinistriol y Blitz tair noson mewn cyfres o baentiadau. Mae’r rhain yn rhan o Gasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian Dinas a Sir Abertawe. Am ragor o wybodaeth ewch i’n horiel ar-lein.

Ffotograffau:  ‘Entrance to Swansea Market 1941‘ by Will Evans. © Anne Sandifer a Jennifer Cockle. Cyngor Abertawe: Oriel Glynn Vivan

All images on this page – credit: West Glamorgan Archive Service