fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn, mae hynny’n sicr, gyda’n calendr llawn digwyddiadau ac atyniadau arferol yn Abertawe yn cael eu canslo neu eu cau. Yn lle, gobeithiwn eich bod wedi mwyhau ein gweithgareddau ar-lein eleni a’r digwyddiadau rhithwir a gyflwynwyd i chi fel Sioe Awyr Cymru a Gorymdaith y Nadolig.

Gyda dim ond deng niwrnod ar ôl tan y Flwyddyn Newydd, mae amser o hyd i weld yr hyn sydd gan Joio Bae Abertawe i’w gynnig…

Roedd gorymdaith eleni’n gwneud i ni hel atgofion am orymdeithiau’r gorffennol yn sicr, ac wedi ein llenwi â hwyl yr ŵyl!

Cerddoriaeth a dawnsio, archarwyr a thywysogesau, drymwyr wedi’u goleuo, a heb anghofio Siôn Corn yn ein diddanu ac yn dod â hwyl yr ŵyl i Abertawe.

Os golloch chi’r hwyl, neu os ydych am wylio’r cyfan eto, gallwch wylio’r orymdaith yma!

 

 

Ydych chi wedi clywed am 12 dydd y Nadolig? Wel, gallwn wneud yn well na hynny…. mae gennym 24 diwrnod o adfent i chi gyda’n Calendr Adfent Gweithgareddau Nadolig ein hunain!

Os ydych chi wedi bod yn brysur a heb gael cyfle i ysgrifennu eich cardiau Nadolig eto, peidiwch â phoeni – gallwch greu eich cardiau Nadolig ceirw eich hun sydd wedi’u paentio â llaw, neu beth am roi cynnig ar greu eich dyn eira o hosan eich hun? Mae’n hawdd, yn hwyl ac yn hyfryd!

Ydych chi wedi gweld ein pypedau bys arth wen neu ein castell gaeafol? (Mae gennym goblynnod hynod dalentog yma’n gweithio i Joio Bae Abertawe!) bydd y rhain yn siŵr o ddiddanu’r plant am gwpl o oriau!

Nid oes rhaid i chi fod yn grefftus er mwyn cymryd rhan, mae helfa sborion Nadoligaidd hyfryd ar gael hefyd y gallwch gymryd rhan ynddi gyda’r teulu, neu gallwch wisgo’n gynnes a mynd am dro o gwmpas eich pentref, neu beth am fynd am dro bach yn y car i weld faint o’r pethau hyn y gallwch eu ticio oddi ar y rhestr? Ar ôl cyrraedd adre, gallwch fwynhau siocled poeth a darn o’n teisen Nadolig o ddiwrnod 19 ein calendr adfent.

Rydym yn dwlu ar weld eich creadigaethau, felly cofiwch eu rhannu â ni ar ein tudalen Facebook Joio.

Syniadau am Anrhegion Nadolig

Os ydych chi’n dal i chwilio am anrheg funud olaf, does dim angen edrych ymhellach! Mae digonedd o syniadau, profiadau a thalebau ar gyfer y Nadolig i’ch helpu i gwblhau eich siopa Nadolig!

Gallwch eu gweld nhw yma!

Edrych ymlaen at 2021

 

Rydym yn brysur yn cynllunio digwyddiadau ar gyfer 2021, gan sicrhau bod y rhain yn ddiogel i bawb eu mwynhau.

Mae’r rhestr ddigwyddiadau hyd yn hyn yn dechrau poethi, gyda haf llawn perfformwyr o fri yn anelu am Barc Singleton sy’n cynnwys Catfish and the Bottlemen, Foals, Olly Murs, Nile Rodgers a CHIC.

A heb anghofio sioe awyr arobryn Cymru yn mis Gorffennaf a phen-blwydd Ras 10k Bae Abertawe Admiral yn 40 oed ym mis Medi.

Rhagflas yn unig yw hynny… sicrhewch eich bod yn cael y newyddion diweddaraf am yr hyn sydd ar ddod yn Abertawe drwy ‘hoffi’ a thanysgrifio i’n sianeli Joio Bae Abertawe ar Facebook, Instagram a Twitter.