fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | November 30, 2020

Siopa Nadolig, gwneud addurniadau ar gyfer y goeden, coginio danteithion Nadoligaidd a gwisgo’n gynnes i fynd am dro gaeafol, ffres – rydym yn dwlu ar fis Rhagfyr ac mae gennym lawer o syniadau i sicrhau y byddwch chi’n mwynhau hefyd.

Dynion eira Hosan a Phasta Gwydr Lliw: Hwyl gyda’n Calendr Adfent Gweithgareddau

O, mae gennym lond sach o hwyl i chi ar gyfer mis Rhagfyr gyda’n syniadau Calendr Adfent sy’n hawdd eu gwneud. Bob dydd o’r 1af hyd at y 24ain byddwn yn rhannu gweithgaredd newydd i chi ei fwynhau #Gartref. Gallwch greu gwydr lliw gyda dalenni lasagne, angylion papur, mwynhau gêm pinio’r trwyn ar Rwdolff, a helfa sborion ddifyr wrth fynd allan am eich troeon gaeafol – hoffem weld eich creadigaethau felly rhannwch nhw â ni.

Gweld Mwy

Prynwch rywbeth ‘ychydig yn wahanol’ ym Marchnad Nadolig Abertawe

Mae addurniadau hyfryd a wnaed â llaw, anrhegion unigryw, danteithion blasus ac awyrgylch Nadoligaidd yn aros amdanoch ym Marchnad y Nadolig ar Stryd Rhydychen.

Mae crefftwyr talentog a masnachwyr traddodiadol yn edrych ymlaen at eich croesawu a byddant yn eich helpu i ddewis anrheg unigryw ac arbennig a wnaed â llaw.

Bydd y farchnad yno tan 21 Rhagfyr, a bydd y cabanau pren Nadoligaidd yn gweithredu’n ddiogel ac yn dilyn rheoliadau a chanllawiau COVID-19 Llywodraeth Cymru.

Gweld Mwy

Siôn Corn, Tywysogesau ac Archarwyr yn dod â llawenydd i Abertawe

Rydym yn gobeithio’ch bod wedi mwynhau Gorymdaith y Nadolig Rithwir Abertawe a’i bod wedi’ch llenwi â hwyl yr ŵyl; maen sicr wedi rhoi gwên ar ein hwynebau ni!

Roedd cerddoriaeth, dawnsio, archarwyr, drymwyr wedi’u goleuo, cerbydau sioe hudol, tywysogesau a Siôn Corn yno i’n diddanu ac i ddod â hwyl yr ŵyl i Abertawe.

Hoffech chi wylio’r cyfan eto? Golloch chi’r cyfle i’w gweld y tro cyntaf? Peidiwch â phoeni, gallwch wylio’r cyfan eto.

Gwyliwch Eto

Celf ac arddangosfeydd, straeon y Nadolig, ffitrwydd a hwyl

Mae ein lleoliadau diwylliannol yn dwlu ar y Nadolig ac mae ganddynt lawer o syniadau difyr.

Dewch i fwynhau darllen straeon am y Nadolig; cadwch yn heini gyda gweithgaredd “12 dydd o Chwaraeon ac Iechyd” a dewch i weld ein Horiel Gelf yng nghanol y ddinas (cofiwch gadw lle ymlaen llaw).

Bydd hefyd weithgareddau i’w mwynhau #gartref wedi’u hysbrydoli gan stori hudol, ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’.

Gweld Mwy