fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | November 12, 2020

sydd angen eu cymryd i ddod o hyd i'ch llwybr dianc...

Hoffech chi newid golygfa am rywbeth sy’n wahanol i’r cyffredin? Y newyddion da yw mai dim ond tri cham sydd angen i chi’u cymryd er mwyn cael awyr iach, golygfeydd trawiadol ac o bosib, chi newydd!

Mae cerdded yn wych – ar gyfer y corff a’ch lles – yn enwedig os gallwch elwa hefyd o awyr iach y môr wrth wneud hynny! Ac mae clogwyni tonnog, baeau tywodlyd a môr eang i’w gweld o’n harfordir…

Cymerwch gip drosoch chi’ch hun…

 

Cam Un – Cynllunio

Dyma’r amser i fynd ati i gynllunio. Ble hoffech chi fynd i gerdded? Cymerwch gip ar ein tudalennau cerdded i’ch helpu chi i benderfynu. Dewiswch o Lwybr Arfordir Gŵyr (mae’n mynd o gwmpas y penrhyn cyfan!), tro yn y coed neu dro ar draws canol Gŵyr ar hyd rhan o Ffordd Gŵyr.

Fel arall, rhowch gynnig ar lwybr yng nghanol y ddinas neu dro ar hyd promenâd Bae Abertawe. Mae hwn yn hygyrch i gadeiriau olwyn – felly hefyd rai rhannau o Lwybr Arfordir Gŵyr rhwng Bae Bracelet a Bae Caswell.

Nesaf, dewiswch o’n hamrywiaeth o letyau clud a bwytai bendigedig i gwblhau’ch dihangfa.  Neu os hoffech dreulio diwrnod yn y ddinas neu wneud gweithgaredd rhwng eich troeon, yna gallwch gynllunio hynny hefyd.  Mae gan y rhan fwyaf o’n busnesau yr achrediad ‘Barod Amdani’, sy’n golygu bod ganddynt y protocolau hylendid a chadw pellter angenrheidiol ar waith i helpu i’n cadw’n ddiogel.

Ble i gerdded?    Ble i aros?  Bwyta mas  Gweithgareddau a phethau eraill i’w gwneud

Cam Dau → Archebu

Mae’r amserau hyn yn rhai anarferol ac rydym am sicrhau na chewch eich siomi. Felly archebwch eich llety cyn i chi gyrraedd. Mae ein caffis a’n bwytai yn cynnig nwyddau lleol o safon, ond oherwydd mesurau cadw pellter cymdeithasol, mae’n hollbwysig eich bod yn archebu bwrdd cyn i chi gyrraedd. Cewch y newyddion diweddaraf am y rheoliadau ar gyfer bwyta mas YMA, fel eich bod wedi paratoi cyn i chi ymweld.

Mae atyniadau a gweithgareddau hefyd yn gweithredu system archebu, felly beth bynnag rydych chi’n bwriadu’i wneud, archebwch yn gyntaf – bydd llai gennych i wneud pan fyddwch yn cyrraedd – felly gallwch ymlacio a mwynhau’r golygfeydd!

Ble i gerdded?   Bwyta mas   Gweithgareddau a phethau eraill i’w gwneud

 

Cam Tri →Teithio

Dyna fe! Rydych gam yn unig o fynd am dro yn ardal godidog Gŵyr!

Un peth arall – cofiwch eich esgidiau, eich camera a’ch hylif diheintio – a’ch mwgwd wyneb gan y bydd angen i chi ei wisgo ar gludiant cyhoeddus yn ogystal â mewn mannau cyhoeddus dan do megis siopau a thoiledau cyhoeddus. Caiff plant dan 11 oed a phobl â chyflyrau iechyd eu heithrio. Dyma DDOLEN i gwestiynau cyffredin y rheoliad rhag ofn y bydd angen i chi wirio’r rheolau cyn teithio.

Yn barod? Ewch i mewn i’r car a gyrrwch – ‘dyn ni ddim yn bell ac rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi’n fuan.

Mae eich antur cerdded yr Hydref yn dechrau yma – cam wrth gam…

Cynllunio → Archebu → Teithio

Dewch i Fae Abertawe. Ond byddwch yn gyfrifol.