fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | November 12, 2020

Mae'r amser wedi cyrraedd o’r diwedd lle bydd Ant a Dec yn croesawu enwogion eleni i'r gwersyll, ond bydd cyfres eleni ychydig yn wahanol!

Am y tro cyntaf erioed ni fydd yr enwogion yn mynd i’r gwyllt yn Awstralia, ond ar antur wahanol iawn yma yng Nghymru! Yng Nghastell Gwrych, gogledd Cymru, i fod yn benodol. Ac os ydych chi’n byw yng Nghymru, gallwch fwynhau antur Gymreig eich hun dros yr hydref/gaeaf hefyd – yma ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr! Gall ymwelwyr â’r ardal fynd ar eu hantur awyr agored eu hunain a gwneud crefft y goedwig, gwersylla, dringo coed, creu tanau, dod o hyd i bryfetach a choginio tu fas!

A dyma rai syniadau ar gyfer sut i gael eich profiad I’m a Celebrity eich hun ym Mae Abertawe!

Plantasia

Mae gennym baradwys drofannol ein hunain yn Plantasia, sydd wedi’i leoli mewn pyramid gwydr unigryw yng nghanol dinas Abertawe. Mae’n llawn planhigion trofannol, anifeiliaid a phryfetach.

Ac nid ydym yn sôn am nadroedd y glaswellt a chorryn heglog – gallwch weld peithon o Fyrma (un o nadroedd mwyaf y byd), tarantwlaod, piranaod, swricatiaid a chrocodeilod caiman!   Ddim yn teimlo’n ddewr? Mae hynny’n iawn, gallwch wylio’r pryfetach o’r tu ôl i’r gwydr heb eu cyffwrdd – ni fydd angen help Medic Bob felly!

Dryad Bushcraft

Mae Dryad Bushcraft yn un o brif sefydliadau hyfforddi goroesi yn y gwyllt a chrefft y goedwig y DU, ac mae’n cynnig y profiad antur awyr agored gorau posib. Dysgwch sut i adeiladu lloches, dechrau tân heb fatsis, dod o hyd i’ch bwyd a’ch dŵr eich hun a phob math o sgiliau goroesi yn yr awyr agored.

Adventure Britain

Gyda gweithgareddau fel ceunanta, cerdded ceunentydd, dringo, abseilio, ogofa, canŵio, adeiladu rafft a chaiacio, rydym yn hoffi ystyried Adventure Britain fel y profiad treialon ‘bushtucker’ gorau. Mae’n berffaith ar gyfer diwrnodau mas gyda’r teulu ac yn addas i bob oedran a gallu corfforol – ac os ydych chi’n cyrraedd jyngl go iawn I’m a Celebrity un diwrnod, ar ôl cael profiad gydag Adventure Britain bydd gennych ddigon o sgiliau i ennill yr holl sêr sydd ar gael!

Down to Earth

Yn ogystal â’r detholiad o weithgareddau antur cyffrous sydd ar gael, gan gynnwys dringo coed, caiacio ac abseilio, gall Down to Earth hefyd eich helpu i ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddiogelu’r amgylchedd naturiol. O eco-adeiladu (gosod/creu fframiau â phren, adeiladu â beliau gwair, adeiladu waliau sychion ac adeiladu gyda phridd) i dyfu bwyd a choginio yn yr awyr agored, byddwch yn dysgu sut i oroesi yn yr awyr agored a sut i gadw trefn ar wersyll hefyd.

 

 

Marchnad Abertawe

Byddwch yn falch o glywed nad oes unrhyw lindys witchetty, cynrhon y blawd, llygaid pysgod nac unrhyw eitemau amheus eraill ar y fwydlen! Fodd bynnag, rydym yn cynnig ein hanturiaethau bwyd ein hunain. Ym Marchnad Abertawe, gallwch ddod o hyd i lu o gynnyrch lleol a Chymreig i roi cynnig arnynt – gan gynnwys ein cocos enwog, bara lawr (gwymon), caws a phice ar y maen.

 

 

 

 

 

Rip N Rock

Gallwch esgus eich bod yn rhan o’r her ‘Dingo Dollar’ gyda Rip N Rock, sy’n cynnig diwrnodau antur ar draws penrhyn Gŵyr a de Cymru i deuluoedd a chyplau. Ar ôl cymryd rhan mewn gweithgareddau fel dringo creigiau, cerdded ceunentydd, syrffio a cheunanta, byddai’n rhaid i ‘Kiosg Kev’ roi’r wobr i chi!

 

 

 

 

 

 

Cofiwch, o 9 Tachwedd, oherwydd y cyfyngiadau symud yn Lloegr, gall Bae Abertawe groesawu ymwelwyr o Gymru yn unig. Gofynnwn yn gwrtais i ymwelwyr ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar bob adeg a pharhau i ymweld â Bae Abertawe mewn ffordd gyfrifol.