fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Mae Adeilad Pilot House Wharf (neu lanfa Caban y Peilot) sydd bellach yn siop feiciau leol, yn nodi gorffennol diwydiannol cyfoethog Abertawe a’r diwrnodau pan oedd morwyr yr ardal yn nodedig am eu gallu i lywio o gwmpas yr Horn peryglus.

Edrychwn ar rywfaint o hanes cudd y lanfa gan ailddarganfod rhai o straeon y peilotiaid a oedd yn ennill eu bywoliaeth drwy rasio i Fôr Hafren i arwain llongau â llwythi llawn o fwyn yn ddiogel i’r porthladd.

Dyddiau cynnar yn ‘The Mount’

Mae peilotiaid wedi bod yn gweithio o harbwr Abertawe ers i’r llwybrau masnachu ar y môr gael eu sefydlu ar ddechrau’r Oesoedd Canol.  Un o’r gwylfeydd cynharaf a ddefnyddiwyd gan beilotiaid oedd y gwrthglawdd rhyfedd o’r enw ‘The Mount’ a gynhaliwyd gan y gorfforaeth. Lleolwyd yr wylfa hon am ganrifoedd lawer ar ben deheuol Wind Street, lle cafwyd golygfeydd da o fae Abertawe. Mae Mount Street, fel y’i dangosir ar gynlluniau’r dref yn y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, yn nodi’r lleoliad.

Erbyn dechrau’r 18fed ganrif, roedd y dref yn ehangu i’r de, a daeth yn amod na ddylai unrhyw adeilad newydd yn yr ardal ymyrryd â’r olygfa o ‘The Mount’. Fodd bynnag, tyfodd pwysau trefol, a diflannodd gwylfa gyntaf y peilotiaid ym 1804 pan sefydlwyd rheilffordd Ystumllwynarth gan Ddeddf Seneddol.

Erbyn 1791, y flwyddyn y penodwyd Ymddiriedolwyr yr Harbwr, roedd peilotiaid yn cael eu trefnu gan bwyllgor a orchmynnodd ym mis Hydref y flwyddyn honno y dylid rhoi trwydded beilot i Jeremiah Williams wedi iddo gyflwyno tystysgrif i ddangos ei fod yn berson addas i fod yn beilot ac am fod ganddo gwch yn unol â’r dimensiynau a bennwyd gan y pwyllgor peilotiaid. Erbyn 1803, roedd 24 o beilotiaid; yna rhoddwyd tystysgrifau i sawl unigolyn y byddai gan eu teuluoedd (y teulu Ace a’r teulu Rosser) gysylltiadau hir â thywys badau a’r harbwr. Yn ôl pob tebyg, o ganlyniad i gamymddygiad neu ddamwain, daeth yn angenrheidiol ar ôl 1803 i beilot ymrwymo i fond o £50, ynghyd â dau fach ar gyfer ei ymddygiad priodol, a gorchmynnwyd na fyddai unrhyw berson sy’n cadw tŷ tafarn yn cael ei benodi yn y dyfodol.

Cyflwyno rheoliadau a phroffesiynoldeb

Aethpwyd ati yn y pendraw i wella’r gwasanaeth, ynghyd ag ymddygiad a gallu uchafswm o dri deg o beilotiaid unigol.  Arweiniodd hyn at Reoliadau Peilotiaid Abertawe 1822, llyfr rheolau hir a oedd yn cynnwys dros 24 o orchmynion. Ar ôl y dyddiad hwn, roedd y rheolau’n dweud y byddai peilot newydd yn gorfod profi gwasanaeth o o leiaf dair blynedd o brofiad ar long a gofrestrwyd yn Abertawe, argymhelliad gan bum meistr arall o Abertawe a gwarant gymeradwy o £20.

 

Roedd gan y llong a ragnodwyd 23 troedfedd o le storio, roedd yn saith a hanner troedfedd o led, ac o leiaf dair troedfedd o ddyfnder hyd at y gynwal, gyda chwe rhwyf wedi’u gosod arni er mwyn halio llongau neu fadau, gydag enw’r peilot wedi’i baentio arni, yn ôl y gyfraith. Roedd yn rhaid bod modd adnabod y badau’n glir – byddai ganddynt ochrau gwyn, byddai’r gynwal a’r rhesen uchaf yn ddu, ac roedd yn   rhaid i bob bad gael ei farcio â’r rhif a bennwyd iddi, mewn paent du ar y pen blaen, ac ar yr hwyliau uwch y riffiau; byddai’n rhaid i’r rhifau ar y pen blaen fod o leiaf naw modfedd o hyd, a’r rheini ar yr hwyliau o leiaf ddwy droedfedd a hanner o hyd; byddai’r llythyren ‘S’ yn cael ei gosod ar y pen blaen mewn llinell â’r rhif, ac ar yr hwyliau uwchben hyn byddai tabl o daliadau a oedd yn nodi’r ffioedd y byddai’n rhaid gofyn i fad fyddai’n cael ei dywys i’r lanfa eu talu, ynghyd â chosbau am beidio â thalu’r taliadau hyn.

Byddai meddwdod, anfedrusrwydd, esgeulustod, twyll, diffyg sylw, gocheliad neu arfer llwgr yn arwain at waharddiad neu ddiswyddiad. Gwaharddwyd gweithio ar fadau nad oeddent yn y golwg rhwng 9am a 6pm ar ddydd Sul.

Bywyd anodd, peryglus a chystadleuol

Ar gyfer parhad y 19eg ganrif, roedd peilotiaid yn dibynnu ar eu medrusrwydd eu hunain. Roedd eu hoes waith yn anodd, yn beryglus ac yn gystadleuol. Unwaith yr oedd si ar led fod llong fawr ar ei ffordd i Abertawe (gwybodaeth a gafwyd gan froceriaid), byddai’r peilot yn dechrau ei daith i un o dair gorsaf godi gydnabyddedig, a’r pellaf o’r rhain oedd yr un rhwng Trwyn Oxwich a goleulong yr Helwick. Fodd bynnag, roedd y gystadleuaeth mor frwd y canfuwyd peilotiaid ifanc yn aml gerllaw Aberdaugleddau (4 i 5 diwrnod o hwylio) er mwyn cwrdd â’r llong – rhywbeth y cwynai’r peilotiaid hŷn amdano gan mai’r cychod llai i’w casglu’n lleol oedd ar ôl iddyn nhw. Er mwyn tywys y llongau’n ddiogel i’r harbwr, roedd y peilotiaid yn defnyddio tirnodau naturiol ac o waith dyn fel Pwynt y Mwmbwls, melinau gwynt a thafarndai. Mae tywys badau’n alwedigaeth drwy gydol y flwyddyn lle mae gofyn i ddynion fynd i’r môr ym mhob tywydd.

Ym mis Gorffennaf 1823, tarwyd y bad tywys Angally gan long a oedd yn anelu am yr harbwr tua thair milltir oddi ar Ben y Mwmbwls, ac roedd ar goll yn llwyr. Ar yr achlysur hwn, roedd y peilot yn ffodus o gael ei achub wrth i’r bad tywys suddo, ac achubwyd ei gychwyr yn ddiweddarach gan fad y llong.

Ym mis Ionawr 1880, cafwyd stormydd difrifol am wythnosau lawer, ac yn sgîl hyn boddodd dau forwr yn noc y dwyrain, haliwyd y llong Ethel of Newcastle i’r harbwr gan 2 dynfad, torrwyd rhaffau angori’r bad Ashlow, a  gwrthdarodd y Cambrian Princess â phen y pier. Ar anterth y stormydd ar 21 Ionawr, golchwyd un o beilotiaid trwyddedig Abertawe, Philip Mitchell, ac un o’i gychwyr oddi ar eu pynt mewn moroedd mawr wrth geisio mynd ar yr agerlong Mascotte. Er i gapten tynfad a oedd gerllaw (y Gwalia) daflu rhaff at y dynion, boddwyd Mitchell, a bu farw ei gychwr, Mr Burton, yn ddiweddarach yn yr ysbyty. Roedd disgwyl i beilotiaid roi tystiolaeth mewn ymchwiliadau i longau a gollwyd neu a adawyd; nhw yn aml oedd o bobl olaf i weld llongau oedd yn ymadael yn agos.

Yn nyddiau’r llongau peilot, byddai’r peilot yn treulio’r rhan fwyaf o’i oes gwaith yn gweithio, yn bwyta, yn cysgu ac yn chwilio am longau ar ei fad, cyn cysylltu â llong a oedd yn anelu am ei borthladd cartref. Roedd yn ddyn hynod ddewr, a oedd yn gyfarwydd â phob agwedd ar Fôr Hafren, ar bob adeg o’r dydd neu’r nos, ac ymhob tywydd. Yn ogystal, roedd peilotiaid Abertawe’n gorfod cystadlu â pheilotiaid o Fryste, Caerdydd a phorthladdoedd eraill i fyny Môr Hafren. Yn yr oriau tawel a dreuliwyd yn chwilio am longau rhwng trin yr hwyliau a chysgu, byddai’r dynion yn gweu straeon neu’n ail-fyw digwyddiadau hanesyddol a oedd yn ymwneud â thirnodau a welwyd a’r rheini nas gwelwyd.

Roedd peilot môr yn ffigwr mawr ei barch yn Abertawe’r 19eg ganrif. Derbyniwyd sawl peilot yn Rhyddfreiniwr Etifeddol neu’n Fwrdeisiaid fel y’u hadwaenid yn lleol. Roedd y tâl yn uwch na’r cyfartaledd oherwydd y gwaith anodd a pheryglus. Roedd crynodeb y Llywodraeth ar gyfer y ffurflenni a oedd yn ymwneud â thywys badau ym 1920 yn dangos y cofrestrwyd 1599 o longau Prydeinig ac 1575 o longau tramor wrth gyrraedd a gadael Abertawe, ac mai £991.8s.8d yr un oedd enillion net y 23 o beilotiaid ar gyfer y flwyddyn honno.

Y badau roeddent yn dibynnu arnynt

Roedd badau cynnar agored y 19eg ganrif tua 23 troedfedd o hyd ac yn sylfaenol iawn ac nid oeddent yn darparu unrhyw loches i’r peilot a’i gychwyr. O oddeutu 1850 ymlaen, roedd gan y badau hyn fwrdd dwrglos di-fwlch o’r blaen i’r starn, roeddent yn pwyso rhwng 20 a 30 tunnell ac roeddent tua 50 troedfedd o  hyd – gyda lled o 13 troedfedd ar y pwynt lledaenaf a dyfnder o 8 i 10 troedfedd.

Erbyn y 1850au roedd y llongau’n rhai cryno ac fel arfer cafwyd dau gaban a oedd yn cynnwys yr holl gysuron cartref. Roedd cegin mewn un caban, gydag ardaloedd eistedd a chysgu yn y llall, a phentyrrwyd gwelyau i dri pherson neu fwy mewn cilfachau. Parhaodd y patrwm hwn nes cyflwyno’r Beaufort.

Dan Ddeddf Harbwr Abertawe 1896, rhoddwyd caniatâd i ymddiriedolwyr yr harbwr brynu neu logi badau at ddibenion tywys neu halio badau, ac o fewn 2 flynedd, disodlwyd yr hen fadau tywys i raddau helaeth gan yr agerlong Beaufort, a adeiladwyd gan Seath & Co. yn Glasgow. Roedd yn llong nodedig gan mai hon oedd yr agerlong gyntaf i’w hadeiladu yn y byd at ddiben gorwedd yn ymyl llongau ar y môr er mwyn rhoi peilotiaid yn uniongyrchol arnynt a’u casglu oddi arnynt. Roedd y Beaufort yn 90 troedfedd o hyd, rhyw deirgwaith maint ei rhagflaenwyr hwylio. Erbyn 1904, dim ond dwy long hwylio a gofrestrwyd gyda’r Beaufort, sef Grenfell a Benson, ac roedd enwau Ace a Rosser yn dal i fod ar y rhestr o beilotiaid trwyddedig. Mor hwyr ag 1913, cafwyd dadleuon o hyd ynghylch rhinweddau’r ddau ddull hwylio, ac ai hwyliau neu ager oedd y ffordd orau o yrru llongau peilot ymlaen.

Ym 1924, daeth y llong Roger Beck i gymryd lle’r Beaufort. Roedd hon yn llong ychydig yn fwy a weithredai fel llong beilot a llong archwilio lyngesol yn ystod yr Ail Ryfel Byd – achubodd nifer sylweddol o longau a oedd wedi dioddef oherwydd ymosodiadau gan y gelyn. Ar ôl 35 mlynedd o wasanaeth, disodlwyd Roger Beck gan Seamark, a adeiladwyd yn Appledore. Gallai symud ar gyflymder o 12 not o ganlyniad i 2 injan diesel Lister Blackstone 480 marchnerth brecio.