Mae wedi bod yn dair blynedd ers i The End of the F***ing World (Channel 4), sef cyfres ddrama glodwiw sy’n dywyll o ddoniol, ymddangos ar ein sgriniau teledu am y tro cyntaf. Mae’r gyfres, sydd bellach yn glasur, wedi derbyn adolygiadau brwd. Ffilmiwyd rhai golygfeydd yma yn Abertawe ac roeddem am gymryd cipolwg arall arnynt.
Y garej y mae’r cymeriad newydd, Bonnie, a chwaraeir gan Naomie Ackie (Star Wars: Rise of Skywalker), yn gyrru i mewn iddo yn ystod y nos, yw garej Northway yn Llandeilo Ferwallt a ddisgrifiwyd gan Garry Howell fel “nice little garage”.
Bydd y rheini sy’n hoff o’r sioe deledu ac sy’n gyfarwydd ag Abertawe yn methu’n lan â deall pan fyddant yn gweld James y tu allan i Lys y Goron – mewn gwirionedd, mae y tu allan i Swyddfa’r Cofrestryddion yn y Ganolfan Ddinesig.
Yn y bennod hon, gwelwn Alyssa yn cael ei ffitiad terfynol o’i ffrog ar y diwrnod cyn ei phriodas. Bydd rhai priodferched wedi sefyll yn yr union fan ag Alyssa oherwydd dyma siop briodas Rowberry ym Mhort Tennant. Ond pwy fydd Alyssa’n ei briodi?
Er ein bod yn hyderus fod geiriau cân The Dixie Cups’ Chapel of Love, sef Going to the chapel, yn gweddu i arddull gerddorol The End of the F***ing World, gwelwn Alyssa’n camu i mewn i swyddfa gofrestru. Ond, ydych chi’n adnabod yr ystafell? Dych chi’n iawn, dyma ystafell ddathlu Cefn Bryn yn y Ganolfan Ddinesig. Credwch hi neu beidio, fe gymerodd yr olygfa fer honno ddiwrnod cyfan i’w ffilmio.
while we’re on the subject, and we’re not gonna go on about it, BUT we’re sending love to each and every one of you all in the TEOTFW fan family. You lot are truly amazing, thank you for being loud, funny, proud and brilliant ❤️ pic.twitter.com/5uUNniPBgb
— TEOTFW (@TEOTFW) December 6, 2019
Gwnaeth Chwarae teg, sef adran gelf y cynhyrchiad, waith gwych ar gyfer yr olygfa yn y bwyty Tsieineaidd yn y bennod. Allwch chi gredu mai hwn oedd caffi’r Kardomah ar Stryd Porland?
Gwnaeth y tîm cynhyrchu ddefnydd da o’r Kardomah ac fe’i gwelir hefyd tuag at ddiwedd y bennod olaf pan fu James yn hel atgofion am sgwrs a gafodd e un tro gyda’i Dad. Rydym wedi hen arfer â gweld y Kardomah ar ein sgrîn, mae’r caffi poblogaidd yng nghanol y ddinas wedi bod yn lleoliad ffilmio ar gyfer Doctor Who, ynghyd â ffilm fywgraffiadol Dylan Thomas, Set Fire to the Stars. Er, yn y ffilm honno, roedd yn chwarae rôl tŷ bwyta y tu allan i Efrog Newydd.
Mae The End of the F***ing World ar gael ar wasanaeth ffrydio Channel 4 ar hyn o bryd, All4, a Netflix gan 4 Tachwedd.
I gael rhagor o wybodaeth am ffilmio yn Abertawe, ewch i www.abertawe.gov.uk/ffilm.