Mae’r tymhorau’n newid, mae dail yr hydref yn cwympo ac mae’n amser i ni gwtsio lan ac ailddarganfod beth sydd yn ein milltir sgwâr.
O weithgareddau i’w gwneud pan fydd yn bwrw glaw i leoedd i’w harchwilio pan fydd y tywydd yn braf, mae gennym syniadau i chi isod.
Llyfrau gwych…antur; cyffro; comedi a rhamant… pa fath bynnag o lyfrau rydych chi’n dwlu arnyn nhw, gallwch ddod o hyd iddynt yn un o lyfrgelloedd Abertawe.
Un o’r ffyrdd gorau o ymlacio yw ymgolli mewn llyfr da, ac mae staff llyfrgelloedd Brynhyfryd, Llansamlet, Pen-lan, Pennard a Sgeti, yn ogystal â Llyfrgell Ganolog Abertawe, Gorseinon, Treforys ac Ystumllwynarth, wedi mwynhau croesawu ymwelwyr yn ôl i bori silffoedd y llyfrgell i chwilio am y llyfr perffaith.
Os byddai’n well gennych ddefnyddio’r gwasanaeth “ffonio a chasglu”, ffoniwch eich llyfrgell o ddewis oherwydd bydd angen archebu’r gwasanaeth hwn ymlaen llaw. Y naill ffordd neu’r llall, gallwch fenthyca hyd at 10 llyfr am 3 wythnos.
Cofiwch hefyd y gallwch ddefnyddio cyfrifiaduron a’r deunyddiau argraffu sydd ar gael; mae e-lyfrau, e-gylchgronau ac e-lyfrau llafar y gallwch hefyd eu lawrlwytho am ddim.
Felly, dewch â’ch cerdyn llyfrgell ond peidiwch â phoeni os na allwch ddod o hyd iddo oherwydd gallwch gael un newydd – maent am ddim 🙂 ac ewch i’ch llyfrgell leol i ailddarganfod pleser darllen.
Cofiwch ymddwyn yn gyfrifol pan fyddwch yn ymweld â’r llyfrgelloedd. Bydd angen i chi wisgo mwgwd a chadw 2 fetr i ffwrdd o ymwelwyr eraill, a diheintio’ch dwylo’n rheolaidd. Caiff yr holl lyfrau a ddychwelir eu cadw mewn cwarantîn am 72 o oriau cyn iddynt gael eu rhyddhau unwaith eto.
Mae cerdded yn weithgaredd gwych ar gyfer eich lles corfforol a meddyliol ac mae cynifer o lwybrau prydferth ar gael o gwmpas Abertawe y gallwch chi eu mwynhau.
Ceir llwybrau sy’n addas i bob oedran, gallu a lefel ffitrwydd. Troeon trwy goetiroedd, ar draws tir ffermio, yng nghefn gwlad ac ar lwybrau cerdded.
Byddwn hefyd yn postio rhai llwybrau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol er mwyn peidio â’u colli, Facebook a Twitter
Trefnwch eich ymweliad a dewch i mewn drwy ardd yr oriel i ailddarganfod lleoliad a drawsnewidiwyd yn ddiweddar – chewch chi ddim eich siomi.
Mae’r Glynn Vivian yn gartref i rai o gasgliadau celf weledol gorau Cymru gan gynnwys cymynrodd Richard Glynn Vivian a chasgliad rhyngwladol o Tsieini Abertawe.
Ceir casgliadau o baentiadau cyfoes o’r 20fed ganrif a cherameg gan artistiaid o Gymru hefyd fel Ceri Richards, Gwen John a Will Evans i enwi rhai yn unig.
Gydag ailagoriad yr oriel cewch eich cyflwyno i dymor newydd o arddangosfeydd newydd, cyffrous mewn partneriaeth â Pride Abertawe, gan gynnwys y gwneuthurwr ffilmiau arloesol, Charles Atlas ac arddangosfa deithiol yr Amgueddfa Brydeinig, Pushing paper, contemporary drawing from 1970 to now, sy’n cynnwys gwaith gan Tracey Emin, Grayson Perry ac Anish Kapoor.
Pam oedi? Cadwch le i ailddarganfod y lle celf bywiog, llawn ysbrydoliaeth hwn i bawb, sydd am ddim.
Mae’r Glynn Vivian ar agor ar hyn o bryd o ddydd Mercher i ddydd Sul 11am – 3.30pm ac mae’r mynediad olaf am 2.40pm.
Yr hydref hwn, gallwch archwilio Abertawe ar gefn beic a mwynhau’r llwybrau beicio gwych a’r golygfeydd godidog bob cam o’r ffordd.
Gallwch ddewis beicio ar hyd Bae Abertawe ac edmygu’r golygfeydd gwych o Ben y Mwmbwls, beicio ar hyd rhai o’r ffyrdd tawelach, dilyn llwybrau ar hyd afonydd, dilyn llwybrau arfordirol neu fwynhau taith darganfod ar hyd llwybr beicio gogledd Gŵyr.
Am ysbrydoliaeth, cymerwch gip ar rwydwaith beicio Llwybrau Bae Abertawe i ailddarganfod ffyrdd o deithio o gwmpas Abertawe ar gefn beic – pa ffordd well o fod yn actif, cael hwyl a theithio o gwmpas Abertawe’n hawdd.