fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin
BLOG | August 26, 2020

Efallai ein bod ni'n agosáu at ddiwedd mis Awst ond mae gennym benwythnos Gŵyl y Banc mawr o'n blaenau ...

… ’dyn ni wedi ffarwelio â storm Francis, a rhaid croesi’n bysedd am ddydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun heulog! Ddim yn siŵr beth i’w wneud gyda’r amser ychwanegol hynny? Byddwch yn barod am lu o syniadau gŵyl y banc.

Tu allan?

Mae digon o bethau i ddewis ohonyn nhw, boed law neu hindda.  Hyd yn oed os yw’n boeth ac yn heulog, gallwch wlychu o hyd – beth am rywfaint o syrffio neu badlfyrddio ar eich traed neu gaiacio yn ein dyfroedd glas, clir?

Mae pwll sblasio Lido Blackpill ar gael i’r rhai bach ac mae pawb yn dwlu ar rownd o golff gwallgof (ym Mharc Singleton a Gerddi Southend yn y Mwmbwls).

Mae’r antur y ffordd yma!

… neu dan do?

Am fod dan do? Dim problem. Daw Plantasia â’r trofannau i Abertawe gyda phlanhigion, anifeiliaid a thrychfilod egsotig – yr union beth ar gyfer eich Chris Packham neu Michaela Strachan ifanc! Mae arddangosion rhyngweithiol ar gael yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i ddifyrru dwylo a meddyliau prysur neu cydiwch mewn raced yn yr LC a chael gêm o badminton neu denis bwrdd.

Dewch i mewn …

Mae’n wych yn yr awyr agored!

Mae arddangosion rhyngweithiol ar gael yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i ddifyrru dwylo a meddyliau prysur neu cydiwch mewn raced yn yr LC a chael gêm o badminton neu denis bwrdd. Mae digon o ardaloedd gwledig ac arfordirol i gerdded ynddynt, tynnu lluniau ohonynt neu eistedd ac ymlacio ynddynt!

Mae harddwch Gŵyr yn enwog ac felly hefyd y safleoedd treftadaeth niferus sy’n britho’r dirwedd. Archwiliwch safleoedd claddu, adfeilion cestyll a meini hirion a chymerwch gam yn ôl o brysurdeb bywyd bob dydd.

Mae Coed Cwm Penllergaer yn em arall i’w archwilio lle gallwch gerdded trwy’r coetir a heibio i raeadrau, ac mae Cronfa Ddŵr Lliw yn Abertawe wledig yn lle hyfryd diarffordd arall.

Cwiliwch am Chwedlau!  Dyma Bro Gŵyr  ac Abertawe Wledig

Bwyta mas

Mae’n benwythnos Gŵyl y Banc ac mae’n bryd i chi fwynhau rhywbeth blasus i’w fwyta. Mae caffis a bwytai yn barod i archebu bwrdd ar eich cyfer a derbyn eich archeb – ond peidiwch ag oedi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu o flaen llaw gan fod llai o leoedd ar gael heddiw.

O hufen iâ hyfryd a bwydydd pob ffres i fwyd môr lleol a llysiau blasus – mae llawer o’n busnesau’n defnyddio cynnyrch a blasau lleol ac maent yn awyddus i’ch croesawu am ginio, cinio gyda’r hwyr neu baned a darn o deisen dymunol!

Mwy, os gwelwch yn dda!

Cynllunio → Cadw lle → Teithio

 

Dyma’r tri cham i nefoedd Gŵyl y Banc – gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio ac yn archebu’ch llety, eich prydau a’ch gweithgareddau cyn i chi agor y drws ffrynt – YNA gallwch fynd yn eich car! Y stop nesaf, Bae Abertawe!

 

Dewch i Fae Abertawe. Yn gyfrifol