fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | August 17, 2020

Ni fyddai'n haf yn Abertawe heb ychydig o law... felly gan ystyried hynny, mae gennym nifer o awgrymiadau da ar gyfer pethau y gallwch chi eu gwneud ar ddiwrnod gwlyb!

Adeiladu cwrs rhwystrau dan do

Rydym wedi gweld nifer o fideos a syniadau gwych gan dîm Chwaraeon ac Iechyd ar gyfer cyrsiau awyr agored, ond mae digon o hwyl i’w gael dan do hefyd yn ystod y tywydd gwael presennol. Pa bethau gallwch chi ddod o hyd iddynt o amgylch eich tŷ i ddringo drostynt, rholio oddi tanynt a chropian ar eu hyd? Amserwch eich hun neu beth am i bawb yn y teulu gael tro i weld pwy yw’r person cyflymaf?

 

 

 

Byddwch yn greadigol gyda’r Glynn Vivian a’u gweithgareddau celf ‘Chwe wythnos yr haf’ i deuluoedd, lle byddant yn rhannu detholiad cyffrous o weithgareddau celf a chrefft creadigol y gallwch eu creu gartref. Bob wythnos bydd tîm dysgu’r Glynn Vivian yn rhannu gweithgaredd newydd i chi ei gwblhau, neu gallwch lawrlwytho’r pecyn cyfan yn!

 

 

 

Mae pawb yn dwlu ar fod yn wirion! Ydych chi wedi gweld sialens ddarllen yr haf eleni gyda Llyfrgelloedd Abertawe? Mae’n canolbwyntio ar y #SgwadGwirion – gallwch chi ymuno a bod yn wirion hefyd. Gyda chynifer o weithgareddau hwyl, o gemau ar-lein, taflenni gweithgareddau, amser stori, pethau i’w lawrlwytho am ddim a hyd yn oed system chwilio am lyfrau ar-lein a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i’ch llyfr nesaf, dyma’r gweithgaredd perffaith ar gyfer diwrnod gwlyb. Mwy o wybodaeth.

 

 

 

Gallwch lawrlwytho taflenni gweithgareddau am ddim ar dudalen Joio Bae Abertawe!

P’un a ydych yn defnyddio pinnau, pensiliau, paent, pefr neu greonau, byddwch yn cael llawer o hwyl gyda’n hamrywiaeth o daflenni gweithgareddau difyr sy’n cynnwys ein masgot Jo Joio. Ewch i’n tudalen weithgareddau lle gallwch ddod o hyd i dudalennau lliwio amrywiol, dot i ddot, chwileiriau, cwest cleddyfau a llawer mwy. Rydym yn dwlu ar weld eich creadigrwydd felly sicrhewch eich bod yn ein tagio yn eich negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol i sicrhau nad ydym yn eu colli!

 

 

 

Gallwch ddod o hyd i ffeithiau diddorol am ble rydych yn byw, neu beth am ymchwilio i’ch achres? Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg wedi llunio rhestr o amrywiaeth o weithgareddau i chi eu mwynhau dros y gwyliau sy’n cynnwys cyngor ac awgrymiadau am hanes teulu, clipiau o ffilmiau, eitemau diddorol o’u casgliadau a chwis, hyd yn oed! Mwy o wybodaeth.