fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | August 07, 2020

Rydyn ni i gyd yn dwlu ar ddiwrnod heulog ac mae gan Abertawe gynifer o fannau hardd i'w harchwilio!

Rydym wedi llunio rhestr o syniadau am bethau y gallwch chi eu gwneud pan fydd yr haul yn disgleirio a hoffem weld eich fideos a’ch lluniau o’ch diwrnodau heulog ar ein tudalen Facebook.

Felly ewch tu fas, anadlwch yr awyr iach a mwynhewch eich diwrnod mas!

Mwynhau diwrnod ar y traeth

Mae gan Abertawe rai o’r traethau gorau yn y DU, os nad y byd, ac rydych yn siŵr o gael diwrnod gwych ar lan y môr.

Os ydych chi am dreulio’r diwrnod yn cerdded ac yn mwynhau’r golygfeydd gwych does dim byd yn well na Bae Rhosili gyda 3 milltir o arfordir hyfryd.

Os ydych chi’n chwilio am fwy o antur a diwrnod o syrffio, does unman yn well na Llangynydd er mwyn rhoi cynnig ar syrffio neu fwynhau chwaraeon dŵr ym Mhorth Einon ac Oxwich.

Os ydych chi am ymlacio ar draeth sy’n addas i deuluoedd, ewch i Langland, Caswell, Horton neu Oxwich lle mae digonedd o dywod ar gyfer creu cerfluniau tywod, hedfan barcud, ymdrochi yn yr haul neu daflu ffrisbi.

Mae archwilio’r pyllau trai bob amser yn weithgaredd gwych pan fyddwch chi ar y traeth, felly cydiwch mewn bwced ac ewch i archwilio ochr isaf y cerrig. Cadwch lygad am gregyn, ffosilau, pysgod, crancod a bywyd planhigion diddorol a rhannwch y pethau rydych chi’n eu darganfod ar Facebook – hoffem eu gweld.

Felly os ydych chi am adeiladu cestyll tywod, archwilio pyllau trai, syrffio neu nofio yn y môr, mae llawer o draethau hyfryd i’w mwynhau ac mae’r manylion llawn ar gael yma!

Mwynhau’r parciau pert

Mae llawer ohonom wedi bod yn ymweld â’n parciau lleol yn ystod y cyfyngiadau symud, gan archwilio’r hyn sydd ar garreg ein drws a darganfod lleoedd newydd.

Yn sicr, mae digonedd o fannau agored a pharciau i’w mwynhau yn Abertawe; mewn gwirionedd, mae 52 ohonynt wedi’u gwasgaru ar draws ein dinas a gallwch ymweld â phob un ohonynt am ddim.

Pa fath o hwyl gallwch chi ei chael wrth ymweld â’r parciau? Mae enghreifftiau o weithgareddau poblogaidd yn cynnwys gemau pêl fel pêl-droed, tennis, rownderi a thaflu a dal pêl. Mae cael cinio, mynd i ardal brydferth a mwynhau picnic yn bendant yn boblogaidd hefyd.

Mae’r rheini sy’n bwydo’r hwyaid ym Mharc Brynmill bob amser yn gwenu ac mae llawer o bobl yn hoffi archwilio’r bywyd gwyllt yn ogystal ag ymchwilio i’r gwahanol fathau o goed – faint gallwch chi eu darganfod?

Ac i lawer o bobl, mae’r parc yn rhywle i gadw’n heini, boed wrth loncian, mynd am dro hamddenol neu feicio, neu wrth greu cwrs rhwystrau i’r plant ei fwynhau.

Cymerwch gip ar fanylion parciau Abertawe yma ac ewch i archwilio parc newydd yr haf hwn.

Taflenni gweithgareddau’r haf i’w lawrlwytho am ddim

Gallwch gael rhagor o hwyl ar y traeth, yn y parc neu hyd yn oed yn eich gardd, gyda’n taflenni gweithgareddau’r haf gwych y gellir eu hargraffu am ddim.

Helfeydd sborion, ymuno’r dotiau, chwileiriau, achres, sut i gofnodi atgofion o’ch gwyliau neu beth am wisgo fel masgot Joio Bae Abertawe, Jo-Joio i gael antur yn ystod yr haf.

Felly cydiwch yn eich pinnau lliwio, pensiliau, creonau a phinnau ffelt a dangoswch y gwaith celf rydych chi wedi’i greu yn ystod gwyliau’r haf.

Joiwch Fae Abertawe. Ond byddwch yn gyfrifol.

Rydym am i’n ddinas fod yn lle glân a diogel i bawb ei fwynhau felly pan fyddwch chi’n mynd o gwmpas y lle yn mwynhau’r traethau a’r parciau, cadwch 2 fetr ar wahân i bobl eraill ar bob adeg a golchwch eich dwylo yn rheolaidd. Ac ar ôl eich diwrnod mas gwych, cofiwch gael gwared ar eich sbwriel yn y biniau a ddarperir neu ewch ag ef adref gyda chi os bydd y biniau’n llawn. Mwy o wybodaeth.