fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | August 05, 2020

Ydych chi'n edrych ymlaen at weld wynebau cyfarwydd a lleoedd arbennig?

Mae’r cyfnod diweddar wedi bod yn gythryblus, felly mae angen newid yn y drefn a seibiant byr neu wyliau yn rhywle rydych chi’n ei adnabod ac yn ei garu!

Dewch i fwynhau ychydig ddiwrnodau ym Mae Abertawe i ymweld â’ch hoff leoedd; y caffi sy’n gweini’r cappuccino perffaith, y bwyty sy’n gweini pysgod ffres at eich dant a’r gweithredwr gweithgareddau gwych a ddysgodd i chi a’ch teulu sut i badlo bwrdd ar eich traed!

Maent yn barod i’ch croesawu nôl!

Cynllunio’r seibiant perffaith

Mae’n rhaid paratoi! Mae pethau’n dal i fod yn wahanol, felly sicrhewch nad ydych yn colli allan ar eich hoff bethau drwy gysylltu â’r busnesau cyn i chi deithio a threfnu eich llety, eich prydau, eich atyniadau a’ch gweithgareddau i sicrhau eich bod yn gallu gwneud popeth rydych am ei wneud tra eich bod ar eich gwyliau.

Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bethau i’w hystyried, ble bynnag rydyn ni’n mynd, felly rydym wedi dod â gwybodaeth ddefnyddiol at ei gilydd ar gyfer eich ymweliad i’ch helpu i gofio beth yw arweiniad y llywodraeth yng Nghymru.

Cymerwch gip ar ein cynllun 10 cam i’ch helpu i wneud yn fawr o’ch gwyliau.

Rydym am eich helpu  

Un ffordd y gallwch sicrhau ein bod yn barod i’ch croesawu nôl – gyda phrotocolau ar waith i sicrhau bod eich hoff leoedd yn ddiogel ac yn lân – yw drwy gadw llygad am y logo ‘We’re Good to Go’.

Mae hyn yn golygu bod busnesau wedi derbyn achrediad gan Croeso Cymru ar gyfer cadw pellter cymdeithasol a hylendid ac wedi meddwl yn ofalus am ailagor yn ddiogel.

Gwiriwch fod eich hoff leoedd wedi derbyn achrediad ‘We’re Good to Go’!

Estyn Llaw drwy Fwyta Allan

Os ydych chi’n aros ym Mae Abertawe rhwng dydd Llun a dydd Mercher yn ystod mis Awst, dyma’r cyfle perffaith i sbwylio’ch hun – mae llawer o’n caffis a’n bwytai wedi ymuno â chynllun ‘Estyn Llaw Drwy Fwyta Allan’ y llywodraeth.

Mae hyn yn golygu y gallech gael disgownt o hyd at £10 y person oddi ar eich bil drwy gydol mis Awst! (mae telerau yn berthnasol) – prynwch bwdin hefyd, mae pawb yn haeddu trît!

Cofiwch gadw’ch bwrdd cyn i chi deithio – rhag ofn i rywun arall archebu’r deisen olaf!

Nawr mae gennych yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch i drefnu’ch seibiant perffaith ym Mae Abertawe – yn fuan iawn byddwch yn gweld y wynebau cyfarwydd a’r lleoedd arbennig unwaith eto!