fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | August 04, 2020

Mae Bae Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr llawn trysorau cudd...dyma rai efallai nad ydych wedi'u harchwilio o'r blaen...

Coed Cwm Penllergaer

Mae Coed Cwm Penllergaer yn dirwedd hardd wedi’i chuddio mewn cwm serth, sy’n dafliad carreg i ffwrdd o’r M4 yng ngogledd Abertawe.

Gyda’i llynnoedd a’i rhaeadrau, terasau, golygfeydd panoramig a choed a llwyni egsotig, mae’r baradwys Fictoraidd hon yn cael ei hadfer a’i hadfywio’n ara’ deg gan Ymddiriedolaeth Penllergaer.

O’r fan yma, gall ymwelwyr fwynhau dros 12 km o lwybrau cerdded, gan gynnwys tro ar hyd yr hen rodfa gerbydau, a hefyd i lawr i ddyffryn Llan lle roedd y teulu Dillwyn Llewelyn, a fu’n byw ar yr ystâd yn y 19eg ganrif, wedi creu’r llyn uchaf a’r rhaeadr drawiadol. Mae llwybrau a thraciau’n arwain tuag i lawr, ochr yn ochr ag afon Llan wrth iddi ymdroelli tuag at Fforest-fach.

Mae’r coed yn llawn bywyd gwyllt; mae ambell las y dorlan i’w weld ar yr afon ac mae boncathod a barcutiaid coch yn ymwelwyr cyson. Efallai byddwch yn gweld ystlumod, cadnoid a dyfrgwn os ydych yn lwcus. Mae’r coed yn adnabyddus am eu rhododendronau – etifeddiaeth hel planhigion y teulu Dillwyn Llewelyn. Mae’r rhain, ynghyd â charpedi o gennin Pedr a chlychau’r gog gwyllt, yn olygfa boblogaidd yn y gwanwyn.

Gogledd Gŵyr 

Mae arfordir tawel gogledd Gŵyr, lle ceir morfeydd heli a thwyni helaeth, yn cyferbynnu’n llwyr â’i bartner deheuol poblogaidd!

Dewch i archwilio Twyni Whiteford – maent yn hamddenol ac yn dawel, ac yn gartref i’r unig oleudy haearn bwrw sy’n dal i sefyll yn y DU, sef Goleudy Whiteford. Ni allwch gyrraedd y traeth yn uniongyrchol yn y car, ond gallwch barcio ger pentref Llanmadog a cherdded ar droed ar hyd y llwybrau gwledig.

Mae pentref Llanmadog yn eithaf gwledig, ac yn gartref i eglwys o’r 13eg ganrif (sydd ar safle adeilad cynharaf yn ôl y sôn). Mae’r ardal hon hefyd yn gartref i fryngaer Oes yr Haearn a Chwm Iorwg, sy’n hafan i wylwyr adar. Cadwch lygad am grehyrod bach copog, crehyrod, pysgod glas y dorlan a chornchwiglen (gwrandewch am eu galwadau nodedig sy’n debyg i wylan) sy’n bridio yma mewn niferoedd bach, gan ddodwy wyau ar y tir ar gyrion y gors. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ddwy guddfan adar yng Nghwm Iorwg, sef cuddfan Cheriton a chuddfan Monterey, wedi’u lleoli naill ochr i’r gors, sydd hefyd yn ffurfio rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Whiteford.

Bae Pwll Du

Mae traeth prydferth a charegog Bae Pwll Du wedi’i leoli ar waelod cwm. Mae’n berffaith i’r rheini sy’n fwy anturus (gan fod mynediad yn gyfyngedig i 3 llwybr cerdded).

Oherwydd ei fod mewn man diarffordd, does dim maes parcio, achubwyr bywyd, toiledau na chyfleusterau lluniaeth. Mae cludiant cyhoeddus ar gael i Fae Pwll Du ac oddi yno, ond mae’n beth pellter i ffwrdd (tua 400m). Gall y pellter rhwng y safle bws a’r traeth gynnwys tir garw neu anodd, ac yn anffodus nid oes modd ei gyrraedd mewn cadair olwyn.

Mae Pwll Du’n fae diarffordd go iawn… ond mae’n cynnig digonedd o awyr agored, llonyddwch a thawelwch a llawer o aer ffres y môr!

Cronfa Ddŵr Lliw

Mae Cronfa Ddŵr Lliw, yn ardal Mawr, gogledd Abertawe, yn cynnig lleoliad delfrydol i gerddwyr, gwylwyr adar (cadwch lygad am farcutiaid coch a chudyllod coch) a physgotwyr.

Yn wreiddiol, roedd y gronfa’n cyflenwi dŵr i Abertawe, ond y dyddiau hyn, ar ôl cael ei drin ar safle Gwaith Dŵr Felindre, mae’r dŵr yn cael ei bwmpio ledled de Cymru.

Roedd mwyngloddio’n weithredol yn yr ardal ar un adeg, ac mae llwybr cerdded sy’n mynd heibio un o adeiladau Glofa Felindre, adeilad sydd heb gael ei ddefnyddio ers dros 100 o flynyddoedd.

Mae rhai llwybrau cerdded gwych yn yr ardal, gyda golygfeydd syfrdanol dros ardal wledig Mawr.

Mae Cronfa Ddŵr Lliw wedi ailagor i ymwelwyr yn dilyn llacio’r cyfyngiadau. Sylwer bod y ffordd fynediad ar agor o 8.00am a bydd yn cau’n brydlon am 6.00pm.

Mae’r caffi ar agor ar gyfer cludfwyd yn unig rhwng 10.00am a 3.00pm yn ddyddiol, gan weini bwyd rhwng 10.00am a 2.30pm. O ganlyniad i’r lleoliad gwledig maent yn cael trafferth â’r cyfleusterau talu â cherdyn, felly ar hyn o bryd maent yn derbyn ARIAN PAROD YN UNIG.

Maen Ceti (Carreg Arthur)

Mae’r bedd neolithig hwn yn dyddio’n ôl i 2,500 C.C ac mae’n gyfoeth o chwedlau. Mae wedi’i leoli ar dir uchel nodedig Comin Cefn Bryn sy’n cynnig golygfeydd panoramig o benrhyn Gŵyr. Yn ôl y chwedl, roedd y Brenin Arthur yn teithio yn Sir Gâr pan gafodd wared ar garreg o’i esgid a’i thaflu ar draws Moryd Llwchwr. Erbyn iddi gyrraedd ei gorffwysfan olaf yng Nghefn Bryn (pwy all ei beio am aros ym Mae Abertawe), roedd y garreg bellach yn glogfaen anferth.

Dyma un o’r safleoedd cyntaf i gael eu diogelu o dan Ddeddf Henebion 1882. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn hanes, rydych chi wedi mwynhau’r ffilm am y Brenin Arthur neu rydych am fwynhau un o’n teithiau cerdded nodedig ar hyd Cefn Bryn, rydym yn argymell eich bod chi’n ymweld â’r safle.

Er mwyn darganfod lleoedd newydd a thrysorau cudd mae’n rhaid mynd ar antur…dechreuwch eich antur chi ym Mae Abertawe!