fbpx
Castell Ystumllwynarth – Bellach ar agor ar gyfer tymor 2024!
Gweld Mwy
BLOG | July 14, 2020

Mae angen rhywbeth i edrych ymlaen ato ar bob un ohonom

… felly beth am lunio rhestr ddymuniadau a nodi’r holl bethau yr hoffech eu gwneud yn ystod eich seibiant nesaf ym Mae Abertawe, i’ch helpu i gynllunio’r gwyliau perffaith? Rydym newydd nodi rhai syniadau i’ch helpu i ddechrau arni. Rhannwch eich rhestr ddymuniadau Bae Abertawe â ni ar Facebook.  

Mynd am dro hir, hyfryd

Mae’n bwysig bod pob un ohonom yn cerdded er ein lles, a bydd yn dda cael ymestyn ein coesau rhywle gwahanol unwaith eto. Bydd digon o ddewis ar gael, i ble’r ewn ni? Llwybr godidog arfordir Gŵyr, crwydro o gwmpas y rhaeadrau yng Nghoed Cwm Penllergaer neu ar hyd y prom.

 

 

Canfod rhagor am gerdded yn Abertawe a Gŵyr

Temtio’ch blasbwyntiau

Mae pob un ohonom wedi dod o hyd i’n Mary Berry fewnol yn ystod y cyfnod o aros yn y tŷ – ac mae rhoi cynnig ar ryseitiau newydd yn llawer o hwyl. Ond meddyliwch am faint yn fwy y byddwn yn gwerthfawrogi’r pryd o fwyd arbennig hwnnw, wedi’i roi at ei gilydd yn ofalus gan ddefnyddio cynnyrch lleol ac wedi’i baratoi a’i weini i chi…heb unrhyw lestri i’w golchi!

O 13 Gorffennaf, bydd rhai caffis, bariau a bwytai yn gweini y tu allan. Rhagor o wybodaeth

 

Symud yn fwy!

Mae pob un ohonom yn barod am ychydig mwy o gyffro. Rydym yn barod i deimlo’r gwynt yn ein gwallt a’r môr ar ein hwynebau. Mae digon o gyffro i chi ei fwynhau – yn y dŵr neu ar dir sych. Oes angen help arnoch? Mae digon o ddarparwyr gweithgareddau arbenigol ar gael i’ch helpu i ddechrau ar eich antur newydd!

Canfod rhagor am roi cynnig ar weithgaredd ym Mae Abertawe

Hwyl fel teulu

Rydych wedi gwneud yn wych wrth addysgu yn y cartref a chadw’r plant yn hapus ac yn iach. Mae pob un ohonoch yn haeddu peth amser i chi’ch hun. Mae gennym draethau lle gallwch redeg yn wyllt arnynt, pyllau lle gallwch sblasio ynddynt, parciau a mannau agored eang i chwarae ynddynt ar gyfer llu o anturiaethau awyr agored!

Hwyl fel teulu ym Mae Abertawe ar yr arfordir

 

Beth am deithio drwy amser?

Gan eich bod wedi gwylio pob rhaglen ddogfen sydd wedi’i recordio ar y teledu, gallwch ddechrau cynllunio’ch taith dreftadaeth eich hun. Beth fydd eich thema tybed? Cestyll canoloesol â thyrau, a straeon am arglwyddi a thywysogion? Neu efallai hanes am arglwyddi rhyfel llychlynnaidd a safleoedd hynafol llawn dirgelwch? Gall ein cestyll a’n hamgueddfeydd ni eich tywys ar daith yn ôl i’r cyfnod cyn hanes hyd at y presennol.

Canfod rhagor am dreftadaeth ym Mae Abertawe

 

Dyma ychydig syniadau’n unig – hoffem glywed am eich rhestr ddymuniadau Bae Abertawe CHI – rhowch wybod i ni ar Facebook!

Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl!

 

Dewch i Fae Abertawe. Yn gyfrifol.