fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | June 12, 2020

Ydych chi erioed wedi ystyried sut brofiad yw hedfan jet y Red Arrows?

Neu sut brofiad yw bod yn rhan o griw hofrennydd Chinook, yn aelod o dîm erobatig Tutor yr RAF neu weithio gyda Thîm Arddangos Parasiwt y Tigers?

Dyma’ch cyfle i ofyn y cwestiynau hynny fel rhan o rith-ddathliad digidol Sioe Awyr Cyngor Abertawe.

Gallai cwestiynau allweddol holi am gyflymder jet y Red Arrows wrth iddo hedfan ar draws Bae Abertawe neu pa mor gyflym y gellir pacio parasiwt.

Timau Digwyddiadau a Marchnata Gwasanaethau Diwylliannol y cyngor sy’n gyfrifol am Sioe Awyr Cymru – Dathliad Digidol #Gartref.

Maent yn eich gwahodd i gyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig neu drwy fideo i dudalen Facebook Sioe Awyr Cymru erbyn canol dydd ddydd Llun 15 Mehefin.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Er bod angen canslo Sioe Awyr Cymru eleni oherwydd y pandemig, bydd ein timau’n cynnal dathliad ar-lein ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf rhwng 11am a 5pm.

“Bydd y digwyddiad yn cynnwys sesiwn holi ac ateb. Rydym wedi cael ymateb gwych gan y timau arddangos a fyddai fel arfer yn dod i’r digwyddiad.

“Bydd y rhai a fydd yn ateb cwestiynau’r cyhoedd yn cynnwys Arweinydd Sgwadron y Red Arrows, Steve Morris; capten, aelod o’r criw arddangos a pheiriannydd o dîm arddangos y Chinook; peilot o Team Raven, yr arbenigwyr erobatig;  peilot o jet y Strikemaster;  aelod o dîm arddangos Typhoon yr RAF;  peilot o dîm y Tutor; arweinydd tîm parasiwt y Tigers a’r peilot erobatig Lauren Wilson.

“Mae pob un ohonynt yn edrych ymlaen at dderbyn cwestiynau oddi wrth cefnogwyr Sioe Awyr Cymru.”

Dylech gyflwyno’ch cwestiynau drwy mewnflwch Sioe Awyr Cymru ar Facebook – cyn canol dydd ddydd Llun. Caiff rhai o’ch cwestiynau a’ch fideos eu darlledu yn ystod sesiwn holi ac ateb y dathliad digidol.