fbpx
Joio ein hatyniadau awyr agor yr haf!
Gweld Mwy
BLOG | May 22, 2020

Wyddech chi fod rheilffordd i deithwyr cyntaf y byd yn Abertawe?

Cyflwynwyd y trên cyntaf i gludo pobl rhwng y Mwmbwls ac Abertawe ar dramffordd Ystumllwynarth, sef Trên y Mwmbwls, gan Benjamin French ym 1807 gan olygu mai hwn felly oedd rheilffordd i deithwyr cyntaf y byd.

Adeiladwyd y dramffordd yn wreiddiol ym 1804 i gludo’r calch a ddefnyddiwyd i fwyndoddi copr o’r chwarel yn Ystumllwynarth i’r mwyndoddwyr yn Abertawe.

Parhaodd y gwasanaeth cychwynnol a dynnwyd gan geffylau tan ganol y 1820au, ond cafodd ei adfywio yn ddiweddarach yng nghanol y 1850au gan barhau tan 1896 er gwaethaf dyfodiad locomotifau â phŵer ager ym 1877.

 

Gydag estyniad y rheilffordd i’r pier, a oedd newydd ei agor yn yr 1890au, daeth pentref y Mwmbwls yn lle poblogaidd ar gyfer diwrnod ar lan y môr, fel y mae heddiw.

Wedi i’r rheilffordd gael ei drydaneiddio ym 1929, daeth tramiau coch llachar yn olygfa reolaidd ar hyd y bae. Roedd y tramiau’n cael eu pweru gan drydan a gyflenwyd gan y newidyddion mawr a oedd yng ngorsaf Blackpill, y Junction Café bellach, trwy geblau uwchben.

Y defnydd cynyddol o fysus yn ystod y 1950au oedd yn gyfrifol am dranc y rheilffordd  ac ym mis Ionawr 1960 gadawodd y tram olaf y depo yn Stryd Rutland ar gyfer ei daith olaf i’r Mwmbwls mewn angladd ffug gyda channoedd o bobl yn sefyll ar hyd y llwybr ac yn dweud ffarwel wrtho.