fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin
BLOG | May 21, 2020

Rydym yn gobeithio eich bod yn mwynhau’r #HelfaDrysorHannerTymor gymaint ag yr ydym ni!

Er bod ein lleoliadau ar gau dros dro i gadw pawb yn ddiogel, rydym wedi llunio ystod o weithgareddau gwych i chi eu mwynhau a chymryd rhan ynddynt o bob rhan o’n Gwasanaethau Diwylliannol er mwyn helpu i ddiddanu plant #Gartref.
Dewiswch rai syniadau gwych o’r rhestr isod, y gallwch eu gwneud ar-lein neu all-lein.
Cofiwch rannu eich lluniau â ni a thagiwch ni yn eich gweithgareddau gan ddefnyddio’r stwnshnod #MwynhauGartref

Sicrhewch eich bod yn rhan o’r hwyl bob dydd er mwyn dod o hyd i’r llythyren sydd ar goll.

Pan fydd gennych y 7 llythyren, nodwch nhw yn y ffurflen isod a gallech ennill rhai gwobrau gwych a roddwyd gan WHSmith a’r National Literacy Trust.

 

Oriel Glynn Vivian

Dros yr hanner tymor byddwn yn defnyddio Portreadau fel ein thema i’n hysbrydoli; o edrych ar waith artistiaid cyfoes ac edrych trwy ein casgliad ein hunain a’n harddangosfa Straeon Abertawe ddiweddar i rannu syniadau er mwyn i chi greu gwaith newydd gartref.

Rydym yn eich gwahodd i greu hunanbortread, portread o rywun arall yn eich cartref neu hyd yn oed portread grŵp. Bydd y portreadau hyn yn cynnig cipolwg ar yr eiliad arbennig hon mewn amser. Efallai trwy arlunio, paentio, tynnu lluniau, defnyddio clai, collage, tapestri neu trwy ddefnyddio pethau a gafwyd.

Byddwn yn esbonio pam y mae’r cyfrwng hwn yn parhau i ysbrydoli cynifer o bobl, a sut mae ein cysylltiadau, ein cymunedau a’n pobl yn gallu dod â phawb ynghyd yn y cyfnod hwn o fod ar wahân.

Facebook a Twitter

Canolfan Dylan Thomas

Mae mis Mai yn nodi pen-blwydd y darlleniad llwyfan llawn cyntaf o Under Milk Wood ac mae llawer o weithgaredd wedi’u cynnal trwy gydol y mis i ddathlu drama i leisiau enwog Dylan.

Creodd Dylan Thomas gast anhygoel o gymeriadau i boblogi tref lan môr fach Gymreig Llareggub, ond credwn fod lle i un neu ddau arall! Yr hanner tymor hwn mae’r tîm yn eich gwahodd i greu eich preswylydd eich hun yn Llareggub – pwy hoffech chi ei weld yn byw ochr yn ochr â Polly Garter, Capten Cat, Organ Morgan a Mrs Ogmore-Pritchard? Amser i fod yn greadigol!

Bydd cyfle hefyd i archwilio Marina Abertawe trwy lygaid Dylan wrth i chi aros #Gartref. Bydd gwaith Dylan yn eich tywys wrth i chi ddilyn llwybr byr ar-lein i ddysgu am hanes yr Ardal Forol a’i threftadaeth ddiwydiannol. Os ydych yn byw’n agos at Farina Abertawe, beth am gyfuno’ch ymarfer corff dyddiol â rhywfaint o ddiwylliant?

Facebook a Twitter

Swansea Libraries

This half term we’re focussing on bringing nature into your front room or whatever space you have with ‘The Great Indoors’. Every day this week we’ll be bringing you lots of fun activities from making a bug hotel (Toilet rolls at the ready), a bug quiz, use our FREE online resources to solve our creepy crawly questions, story time ‘Solomon Crocodile’ and make a fishing game.
We’ll also be sharing lots of nature activities and things you can do on your daily exercise and to help you stay home safe.

Follow along on Facebook and Twitter

Mae ein tîm Chwaraeon ac Iechyd yn parhau gyda nifer o weithgareddau hwyl y gallwch chi a’ch plant eu gwneud yn ystod yr hanner tymor hwn. Mae Mark a William yn gwneud cwrs ymosod yn yr ardd, a bydd Jenna yn ein tywys trwy sesiwn HIIT Hanner Tymor sy’n addas i deuluoedd.

Mae’r Hyfforddwr Cymunedol Charlie yn cadw i fyny ei ffitrwydd gyda rhywfaint o sesiynau pwysau aros gartref, a bydd Yasmin yn reidio ei beic ac yn cymryd rhan yn her sgwat y tim!

Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ein tudalen Facebook am weithgareddau a diweddariadau rheolaidd.

Amgueddfa Abertawe

Darganfod sut fywyd oedd gan hwylwyr yr Horn gydag Amgueddfa Abertawe

Ymunwch â Jo Joio wrth iddi archwilio casgliad yr amgueddfa sy’n llawn gwrthrychau gwych i ddarganfod pwy oedd hwylwyr yr Horn enwog Abertawe, a sut fywyd oedd ganddynt ar y môr.

Oes gennych chi’r hyn sydd ei eisiau i orffen y cwis a dod o hyd i lythyren gudd Jo ar gyfer yr helfa drysor hanner tymor? Peidiwch â phoeni, bydd yr atebion yn ei blog arbennig. Felly, ewch ati i’w ddarllen!

Facebook a Twitter